The essential journalist news source
Back
15.
November
2019.
Cynigion i Ddatblygu Llety a Chymorth i Blant sy'n Derbyn Gofal yng Nghaerdydd

Caiff strategaeth tair blynedd newydd ei hystyried i gynnig cymorth a llety rhagorol i blant sy'n derbyn gofal yng Nghaerdydd yn ystod cyfarfod Cabinet yr Awdurdod Lleol ddydd Iau, 21 Tachwedd. 

Os cytunir, bydd y ‘Strategaeth Gomisiynu Cartref Iawn Cymorth Iawn ar gyfer Llety a Chymorth i Blant sy'n Derbyn Gofal 2019-2020' yn gosod blaenoriaethau clir fydd yn cyfateb i anghenion y plant a phobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed a'u teuluoedd yn y ddinas. Bydd yn sicrhau bod digon o gapasiti ac ystod priodol o ddarpariaeth i ddiwallu eu hanghenion drwy gyflawni'r ymrwymiadau canlynol:

  • Gostwng yn ddiogel nifer cynyddol y plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal
  • Cynyddu nifer y plant a phobl ifanc a gaiff eu cefnogi i fyw'n ddiogel gyda'u teuluoedd.
  • Gostwng dibyniaeth ar wasanaethau y tu allan i Gaerdydd, pan nad yw'r rhain er budd gorau'r plentyn a'r person ifanc.
  • Cynyddu nifer y gofalwyr sy'n berthnasau.
  • Cynyddu nifer Gofalwyr Maeth Cyngor Caerdydd
  • Gweithio'n gadarnhaol gydag Asiantaethau Maeth Annibynnol
  • Cynyddu ystod y gwasanaethau preswyl yn lleol i ddiwallu anghenion mwy cymhleth sydd gan rai plant.
  • Gwella'r ffordd rydym yn comisiynu gwasanaethau

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Caerdydd, fel llawer o ddinasoedd eraill y DU, wedi gweld cynnydd yn niferoedd y Plant sy'n Derbyn Gofal oherwydd amrywiaeth o resymau cymhleth. O ganlyniad mae angen i'r Cyngor ddatblygu ei wasanaethau a nodi ystod o lety, gofal a chymorth fydd yn eu galluogi i ffynnu.

"Mae'r strategaeth hon yn nodi cyd-destun y mae Gwasanaethau Plant yn gweithredu ynddo a'r prif heriau rydym yn eu hwynebu, ond yn bwysicaf oll, mae'n cynnig sail i'n plant, pobl ifanc a'n teuluoedd gael y gwasanaethau iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn, a chyrraedd gwell canlyniadau a byw gwell bywydau yn sgil hynny.

"Bydd y dull arfaethedig yn sicrhau bod hawliau'r plant yn flaenoriaeth i bob datblygiad gwasanaeth a gwasanaethau, yn unol ag Addewid Caerdydd i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF. Bydd hefyd yn ystyried parhau i weithio ar y cyd â darparwyr allanol a phartneriaid y sector cyhoeddus, i weithio yn arloesol ac yn greadigol i gael mynediad at ystod o adnoddau i wella canlyniadau."

Mae'r Strategaeth Gomisiynu Cartref Iawn, Cymorth Iawn ar gyfer Llety a Chymorth i Blant sy'n Derbyn Gofal 2019-2022 yn rhan o gynllun Strategol Gwasanaethau Plant Caerdydd 2019-2022 a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019.

Mae'n dod ag ystod o brojectau gwella gwasanaethau ynghyd gan greu un rhaglen; ‘Cyflawni Canlyniadau Rhagorol i Wasanaethau Plant' ac mae'n cefnogi'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau eraill y Cyngor sydd wedi hen ennill eu plwyf megis y Cynllun Rhianta Corfforaethol, Uchelgais Prifddinas y Cyngor a Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ei pholisïau a'i phenderfyniadau.