The essential journalist news source
Back
15.
November
2019.
Cefnogi teuluoedd, pobl ifanc a phlant y ddinas

Mae gwasanaeth newydd i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ym mhob rhan o Gaerdydd wedi'i lansio'n swyddogol yn y ddinas heddiw. 

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd wedi dod ag ystod o wasanaethau cymorth, cyngor a gwybodaeth ynghyd i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd trwy ddatblygu pwynt mynediad unigol: y Porth i Deuluoedd. Mae'r Porth yn bwynt cyswllt i unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant, plentyn neu berson ifanc sy'n byw neu'n gweithio yng Nghaerdydd gael yr help sydd ei angen arno.

Mae Swyddogion Cyswllt gwybodus, cyfeillgar a medrus iawn y Porth i Deuluoedd ar gael i wrando ar sefyllfa teulu gan weithio gydag ef i nodi'r cymorth sydd orau iddo a'i helpu i'w gael.

Mae cymorth ar gael ar ystod o faterion gan gynnwys ymddygiad plant, gofal plant, cymorth rhieniol, perthnasoedd teulu, pryderon ynghylch presenoldeb yn yr ysgol, iechyd a llesiant a llawer mwy.

Gellir cysylltu â'r gwasanaeth trwy ffonio 03000 133 133 ac mae ar gael o 8.30am tan 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.30am tan 4.30pm ar ddydd Gwener.  Mae cyfeiriad e-bost hefyd ar gael CyswlltFAS@Caerdydd.gov.uk

Bu lansiad heddiw yn rhan o ddigwyddiad arbennig yn Neuadd y Ddinas lle rhoddwyd trosolwg i westeion o'r gwasanaeth.

Ymhlith y siaradwyr yn lansiad heddiw roedd person ifanc sydd wedi profi heriau ond sydd wedi cael y cymorth iawn i'w helpu i symud ymlaen, a Connor Clarke, aelod o Senedd Ieuenctid y DU oedd yn rhan o gyfweld am swyddi Ymgynghorydd Helpu Teuluoedd, gan gynnig llais a phersbectif person ifanc yn y broses recriwtio.

Hefyd clywodd y gwesteion yn y digwyddiad adborth gan bobl sydd wedi cael cymorth gan y gwasanaeth, gan gynnwys person ifanc a mam a thad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn darparu gwasanaethau cymorth cynnar cynhwysfawr sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd, plant a phobl ifanc ym mhob rhan o'r ddinas i sicrhau eu bod yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn ac mewn ffordd sy'n bwysig iddynt.

"Mae'r gwasanaeth yn amrywio o helpu pobl i lywio'r system a chyfeirio at wasanaethau priodol yn ogystal â chymorth mwy dwys, wedi'i deilwra i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a'r materion y gallai teuluoedd fod yn eu hwynebu.

"Bydd tîm y Porth i Deuluoedd yn gwrando ar sefyllfa cwsmer, bydd yn gweithio gydag ef i nodi'r cymorth sydd orau iddo ac yn ei helpu i'w gael."

Mae gwefan Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd newydd sbon wedi'i datblygu yn https://www.cardifffamilies.co.uk/cy/ a gellir cysylltu â'r gwasanaeth ar 03000 133 133 neu drwy e-bostio CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk