The essential journalist news source
Back
14.
November
2019.
Cyneuwch Gannwyll i nodi'r Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, neu Ddiwrnod y Rhuban Gwyn

Cyneuwch Gannwyll i nodi'r Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, neu Ddiwrnod y Rhuban Gwyn

Ddydd Llun 25 Tachwedd 2019, cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau i nodi'r Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod (Diwrnod y Rhuban Gwyn).

10.15am- Gorymdaith o Swyddfa Llamau (23 Heol y Gadeirlan, CF11 9HA) ar hyd llwybr sy'n cyrraedd Eglwys Gadeiriol Llandaf.

11am - 12.30pm- Cynhelir y Gwasanaeth Cynnau'r Gannwyll yn Eglwys Gadeiriol Llandaf,

Clos y Gadeirlan, Caerdydd CF5 2LA

Ymysg y siaradwyr fydd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath, a bydd cerddoriaeth gan Oasis World Choir.

12.30pm - 2.00pm- Cynhelir Cinio Codi Arian Diwrnod y Rhuban Gwyn yr Arglwydd Faer yng Nghlwb Rygbi Llandaf, Yr Hen Felin, Western Ave, Caerdydd CF5 2AZ. Mae tocynnau'n £5 a bydd yr holl elw'n mynd tuag at deuluoedd sy'n ffoi rhag cam-drin domestig a thrais rhywiol nad oes ganddynt fynediad i Gyllid Cyhoeddus.

I gofrestru e-bostiwch: publicity.event@bawso.org.uk neu ffoniwch: 02920 644633

 

#CyneuwchGannwyll19   #DiwrnodyRhubanGwyn19