The essential journalist news source
Back
11.
November
2019.
Wythnos Ddiogelu Genedlaethol: Cyfrifoldeb i bawb

Caiff Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yr wythnos hon (11 - 15 Tachwedd) ei nodi ledled Caerdydd a Bro Morgannwg gyda rhaglen o ddigwyddiadau i atgyfnerthu'r neges bod diogelu'n gyfrifoldeb ar bawb.

 

Ynghyd â lansio Gweithdrefnau Diogelu newydd Cymru yn Y Deml Heddwch yng Nghaerdydd nes ymlaen heddiw (ddydd Llun), mae nifer o ddigwyddiadau wedi'u trefnu ledled y rhanbarth trwy gydol yr wythnos i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu a rhwymedigaethau pobl i adrodd unrhyw bryderon sydd ganddynt am ddiogelwch a llesiant pobl agored i niwed yn ein cymunedau lleol.

 

Bydd y digwyddiadau, sydd wedi'u trefnu gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, yn canolbwyntio ar ddwy thema cam-drin domestig yn ei ffurfiau amrywiol, a chamdriniaeth, gan gynnwys troseddu gyda chyllyll a diwylliannau gangiau.      

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r Wythnos Ddiogelu'n gyfle pwysig i godi ymwybyddiaeth o hyrwyddo llesiant pobl agored i niwed a'u hamddiffyn rhag niwed. Mae gennym oll gyfle i sicrhau bod pobl yn ein cymunedau yn gallu byw'n ddiogel, yn rhydd rhag trais a chamdriniaeth.

 

"Mae gwybod sut i adnabod arwyddion rhywun yn cael ei gam-drin neu'i gamfanteisio a beth i'w wneud os oes gennym bryderon yn hanfodol ac felly rwy'n falch iawn o weld ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ledled y rhanbarth yr wythnos hon i helpu pobl i gael gwybod am y problemau hyn."

 

Dywedodd Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg: "Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb pwysig i bawb. Nid yw'n ymrwymiad statudol yn unig i sefydliadau megis cynghorau lleol, mae'n gyfrifoldeb i bawb ac mae'n gofyn i bobl sy'n gweithio mewn meysydd gwahanol gydweithio.

 

"Mae'r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o amlygu hyn ac eleni mae'n benodol bwysig gan y caiff canllawiau diogelu cyffredinol cyntaf Cymru, Gweithdrefnau Diogelu Cymru, eu lansio ar ddechrau'r wythnos.

 

"Bydd y gweithdrefnau yn nodi rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n gweithio gydag oedolion neu blant sy'n profi, neu sydd mewn perygl o ddioddef, camdriniaeth, esgeulustod neu ffurfiau eraill ar niwed.  Ynghyd â'r digwyddiadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer yr wythnos hon, bydd y gweithdrefnau'n gwneud yr hyn i'w wneud a phryd i'w wneud yn gliriach, rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i lawer o fywydau."

 

Caiff cyfres o sioeau teithiol i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ac atal trosedd ei chynnal gan gynnwys digwyddiadau ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Mawrth 12 Tachwedd, 9.30am - 4pm; yng Nghampws Llandaf Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ddydd Mercher 13 Tachwedd, 9.30am - 3.30pm a Cwrt Insole ddydd Iau 14 Tachwedd, 11am - 2pm. Bydd pob digwyddiad yn cynnwys stondinau gwybodaeth a gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o sgamiau, twyll, diogelwch personol, diogelwch eiddo personol, trosedd cyllell a cham-drin domestig.

 

Mae dau weithdy NSPCC yn canolbwyntio ar weithio gyda phlant sydd wedi profi trawma yn agored i ymarferwyr ac aelodau'r cyhoedd yn swyddfeydd y NSPCC yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 12 Tachwedd, 1.30 - 2.30pm a 3-4pm tra bydd cynhadledd pobl ifanc, ar gyfer disgyblion o Flynyddoedd 7 i 9 o ysgolion Caerdydd a'r Fro yn cael ei chynnal yn Arena Motorpoint ddydd Mercher 13 Tachwedd.

 

Caiff gweithdy ar gam-drin domestig ei gynnal i ymarferwyr yng Nghanolfan Memo'r Barri ddydd Iau 14 Tachwedd tra bydd grwpiau pobl hŷn, aelodau heb y gymuned a phreswylwyr cynlluniau lloches yn mynychu cyflwyniad ar linellau cyffuriau a chogio nes ymlaen yn y diwrnod hwnnw.

 

Daw digwyddiadau'r wythnos i ben ddydd Gwener 15 Tachwedd gyda chynhadledd i weithwyr proffesiynol yn y Barri a noson gwobrau Diogelu yng Nghlwb Rygbi'r Eglwys Newydd i gydnabod cyfraniad pawb, gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr, sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, o bob oedran, yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn rhydd rhag niwed a chamdriniaeth.

 

Am ragor o wybodaeth am Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg, ac i gael y rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Ddiogelu Genedlaethol, ewch ihttps://www.cardiffandvalersb.co.uk/cy/