The essential journalist news source
Back
6.
November
2019.
Wythnos y Cofio - Digwyddiadau yn Hybiau Caerdydd


Mewn hybiau ledled y ddinas yr wythnos nesaf, cynhelir nifer o ddigwyddiadau i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth i aelodau y Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a'u teuluoedd.

 

Ar y cyd â'r digwyddiadau blynyddol ar gyfer Wythnos y Cofio gan ddechrau ar Ddiwrnod y Cadoediad ei hun, byd Hyb y Llyfrgell Ganolog yn cynnal digwyddiad i godi ymwybyddiaeth  o'r gwasanaethau sydd ar gynnig ledled y ddinas i helpu dynion a menywod sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sy'n gyn-filwyr gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, tai, cymorth iechyd meddwl a mwy.

 

Bydd y digwyddiad ddydd Llun 11 Tachwedd (10am-2pm) yn dod â sawl sefydliad ac elusen at ei gilydd, gan gynnwys y Lleng Brydeinig, Help for Heroes a Change Step, yn ogystal â chyflwyno gwasanaethau'r Cyngor megis y Tîm Cyngor Ariannol, gwasanaethau I Mewn I Waith a Dewisiadau Tai.

 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Fel Llofnodwr Cyfamod y Lluoedd Arfog, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i helpu trigolion sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog i fanteisio ar wasanaethau yn y ddinas, gan gynnwys y cymorth sydd ar gynnig yn benodol ar gyfer unigolion sy'n gwasanaethu nawr neu yn y gorffennol ac ar gyfer eu teuluoedd.

 

"Gall ein hybiau cymunedol gynnig cyngor arbenigol i gyn-filwyr, staff cyfredol a'u teuluoedd ac mae gennym nifentor cynghori cyn-filwyr i helpu pobl i fanteisio ar y gwasanaethau a'r cymorth sydd ei angen arnynt. Bydd yr wythnos hon o ddigwyddiadau arbennig yn gyfle gwych i bobl ddysgu am y gwasanaethau sydd ar gael ledled y ddinas."

 

Yn dilyn lansiad y digwyddiad yn Hyb y Llyfrgell Ganolog, caiff digwyddiadau ar y thema eu cynnal mewn hybiau cymunedol ledled y ddinas i gynnig cymorth mwy penodol i unigolion, gan ddechrau gyda gweithdy cymorth i mewn i gyflogaeth yn Hyb Grangetown dydd Mawrth, 12 Tachwedd (10am-2pm).

 

Bydd Hyb The Powerhouse, Llanedern yn cynnal sesiwn at thema cofio ddydd Mercher, 13 Tachwedd, gan gynnwys perfformiad gan Amgueddfa y Firing Line (11:30am-12:30pm) a'r cyfle i gael gwybod am yr adnoddau sydd ar gynnig yn Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays dros baned a chacen (12:30pm-1:30pm).

 

Dydd Iau, 14 Tachwedd, bydd Hyb Llanrhymni yn cynnal digwyddiadau i blant a theuluoedd gan gynnwys gwneud pabïau, addurno bisgedi a phicnic pabïau (10am01pm) cyn i filwyr rannu eu straeon yn yr hyb o 1pm tan 2pm.

 

Daw gweithgareddau'r wythnos i ben ddydd Gwener, 15 Tachwedd yn Hyb Trelái a Chaerau pan fydd pwyslais ar lesiant corfforol a meddyliol y personél a'u teuluoedd, gyda phosibilrwydd i roi cynni ar tai chi, ioga ac Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn cyfres o sesiynau blasu.

 

Mae Change Step Cymru, gwasanaeth cyngor a mentora gan gymheiriaid a ddarperir gan gyn-filwyr i gyn-filwyr, hefyd yn cynnal sesiwn galw heibio i gyn-filwyr, teuluoedd a gofalwyr yn rheolaidd ar ddydd Gwener yn Hyb Trelái a Chaerau, 10am - 3pm.