Ymhlith y gwaith gwella yn y fynwent oedd:
- Cwblhau'r gwaith o
ailaddurno’r ddau gapel.
- Ailfodelu capel mwy y
Wenallt.
- Adnewyddu’r
ystafelloedd aros.
- Adnewyddu ac ymestyn
yr ardaloedd wedi'u gorchuddio y tu allan i'r capeli.
- Lloriau newydd.
- Seddi newydd.
- Cataffalc (platfform dyrchafedig a ddefnyddir i gefnogi'r arch) newydd.
Dywedodd Andrew Gregory, Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd: “Mae cwblhau’r gwelliannau hyn yn golygu bod y bobl mewn profedigaeth sy’n mynychu’r 3000 o angladdau a gynhelir bob blwyddyn yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig yn gallu talu teyrnged yn y lleoliad mwyaf sympathetig a gyda chymaint o urddas â phosibl - gan godi ymhellach safonau’r cyfleusterau sydd eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol eleni, wrth i’r fynwent ennill gwobr Mynwent y Flwyddyn, y tiroedd yn cadw eu statws Baner Werdd, ac mae’r tîm Gwasanaethau Profedigaeth wedi cael ei gydnabod am y gwasanaeth a ddarperir, gan ennill gwobr Tîm Gwasanaeth y Flwyddyn Cymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE).”
Roedd y seremoni’n cynnwys darlleniad gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a datgelodd yr Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dan De’Ath blac ailgysegriad, oedd yn rhodd garedig gan Seiri Coffa Mossfords. Roedd cynrychiolwyr grwpiau ffydd amrywiol, dyneiddwyr a phobl heb ffydd hefyd yn rhan o’r seremoni dan arweiniad y Parchedig Ganon Stewart Lisk.
Roedd aelodau’r tîm Gwasanaethau Profedigaeth hefyd
yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr o Drefnwyr Angladdau Coles, Penarth
Funeral Homes, Green Willow Funerals a Simon Morgan o Seiri Coffa Mossfords.