The essential journalist news source
Back
17.
October
2019.
Llwyddiant Iach ar gyfer dwy ysgol gynradd Caerdydd
Ysgol Gynradd Glyncoed ym Mhentwyn yw'r ysgol ddiweddaraf i gael gwobr genedlaethol am ei gwaith yn hyrwyddo iechyd a llesiant ymysg cymuned yr ysgol.

Gwelodd aseswyr ar gyfer Gwobr Ansawdd Cenedlaethol Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru fod yr ysgol, gyda chymorth Tîm Ysgolion Iach Cyngor Caerdydd, wedi cyflwyno nifer o gynlluniau hyrwyddo iechyd a llesiant o'r safon uchaf.

Mae'r mentrau a ganmolwyd yn cynnwys gweithredu cynllun Teithio Llesol ysgolion sy'n defnyddio bws cerdded i gasglu disgyblion a mynd â nhw i glwb ar ôl ysgol a hefyd stondin ffrwythau maethlon yn y maes chwarae iau.

Hefyd canmolodd aseswyr y strategaethau ymwybyddiaeth ofalgar sydd wedi'u cyflwyno yn yr ysgol i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a'r ffaith bod disgyblion yn cael eu hannog yn rhagweithiol i ddefnyddio arferion myfyriol.

Yn ogystal, canmolodd yr adroddiad Ysgol Gynradd Glyncoed fel ysgolion sy'n Parchu Hawliau'r Cenhedloedd Unedig a nodwyd ei bod yn gwbl glir bod hyn wedi cael effaith gadarnhaol a buddiol ar fywyd yr ysgol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Rwy'n falch o ddysgu bod dwy ysgol gynradd arall yn y ddinas wedi cael y Wobr Ansawdd Cenedlaethol fawreddog sy'n cydnabod gwaith caled staff, disgyblion a rhieni.

"Mae iechyd a llesiant yn chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol a bydd yr ystod eang o weithgareddau a chynlluniau sy'n cael eu cynnal yn yr ysgolion hyn yn cael effaith gadarnhaol ar bawb sy'n gysylltiedig â chymuned ysgol."

Yn disgrifio'r manteision mae gweithio tuag at statws ysgolion iach wedi'u creu ar gyfer yr ysgol, dywedodd y Pennaeth Mrs Elizabeth Beevers:"Mae ein llwyddiant yn adlewyrchiad o waith gwych yr holl randdeiliaid - disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a gwirfoddolwyr - sy'n gweithio gyda mi i yrru'r ysgol ymlaen a hyrwyddo llesiant corfforol a meddwl i bawb yng nghymuned yr ysgol.  

"Rwy'n falch iawn o arfer gwych staff yn hyrwyddo iechyd eich staff a'n disgyblion ym mhob rhan o fywyd yr ysgol.Rydyn ni wedi gweithio gydag ystod o bartneriaid i ddatblygu ein rhaglen llesiant gyd-gyrsiol bwrpasol a byddwn ni'n parhau i hyrwyddo ac ymestyn ein darpariaeth llesiant hyd yn oed yn fwy trwy bartneriaethau newydd yn 2019-2020."

Yn ddiweddar, cafodd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Esgob Child y wobr hefyd gan ddod â nifer yr ysgolion GAG yng Nghaerdydd i wyth.

Yn ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Esgob Child, canmolodd archwilwyr eu hagwedd at fwyd a ffitrwydd a dywedon nhw fod y staff yn hapus sy'n dangos bod iechyd a llesiant meddwl ac emosiynol wrth wraidd bywyd bob dydd yr ysgol.

Hefyd canmolodd yr ysgol am ei pholisi gwrth-fwlio, ‘Playground Buddies' sy'n helpu plant sy'n profi unigrwydd, ac ymrwymiad yr ysgol wrth faterion amgylcheddol gan gynnwys yr Ardd Fyfyrio i bawb ei defnyddio pan fo angen amser tawel yn yr awyr agored.

Dywedodd Pennaeth Bishop Childs, Nicola Price:"Mae plant yn Bishop Childs yn dysgu sut i fyw bywydau iach o ran bwyd, gweithgareddau corfforol ac mae brwsio dannedd hyd yn oed yn rhan o drefn feunyddiol yr ysgol.Rydym yn falch o'r drefn hon ac mae pethau ychwanegol yr ydym ni'n meddwl sy'n arbennig o bwysig, mae ein disgyblion yn cymryd yr arweiniad ac mae eu syniadau a'u barn yn cael eu gweithredu arnynt. Maen nhw'n rhoi iechyd a les wrth wraidd yr ysgol a'r staff, ac yn ei dro, mae gofyn iddyn nhw ddilyn yr arweiniad hwn a dangos esiampl. 

"Rwy'n falch o ymdrechion yr holl blant, staff a rhieni ac rwy'n gobeithio y bydd y dechrau iach hwn mewn bywyd yn helpu'r disgyblion i wneud dewisiadau cadarnhaol fel oedolion."

Mae'r cynllun, a reolir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi bod ar waith er 1999 ac yn unol ag ef mae angen i ysgolion ddangos cryfderau mewn saith pwnc iechyd gan gynnwys; Bwyd a Ffitrwydd, Iechyd a Llesiant Meddwl ac Emosiynol, Datblygu Personol a Pherthnasoedd, Camddefnyddio Sylweddau, Hylendid a'r Amgylchedd.

Dywedodd Gemma Cox, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus - Lleoliadau Addysgol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:"Rydym yn falch bod Ysgol Gynradd Glyncoed wedi derbyn ein gwobr Ansawdd Genedlaethol.Maent yn haeddu'r gydnabyddiaeth bwysig hon am eu hymrwymiad i ymwreiddio'r dull iechyd a llesiant ysgol gyfan yn niwylliant a chyfansoddiad yr ysgol. Mae'r cyflawniad hwn yn dangos sut mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio ar y cyd ag ysgolion i wella iechyd a llesiant plant ar gyfer y dyfodol.Drwy gyfuno ein hymdrechion ac asedau mewn dull ystyrlon, gallwch greu Cymru iachach, hapusach a thecach"