The essential journalist news source
Back
14.
October
2019.
18 o bwyntiau gwefru CT yn eu lle mewn 10 lleoliad ledled y ddinas a mwy i ddod

14/10/19

Mae 18 o bwyntiau gwefru cyflym CT wedi eu gosod yng Nghaerdydd fel rhan o gynnig llwyddiannus i Gynllun Pwyntiau Gwefru Preswyl y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV).

Mae'r mannau gwefru a osodwyd gan SWARCO E.Connect ac sydd wedi'u rheoli ganddynt yn rhan o gynllun peilot i werthuso budd cael pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan ar y stryd mewn ardaloedd preswyl.

Yn unol â gofynion y cais llwyddiannus, bydd y gwifrwyr trydan 7Kw, sy'n gwefru cerbyd yn llawn mewn 4-6 awr, wedi'u gosod mewn ardaloedd preswyl lle nad oes ond ychydig o lefydd parcio oddi ar y stryd, os o gwbl.

Gall ceir petrol a disel gynhyrchu allyriadau peryglus ac yn ddiweddar mae'r Cyngor wedi lansio prosiect aer glân i leihau lefelau NO2yn y ddinas yn sylweddol.

Erbyn 2040, mae Llywodraeth y DG wedi gosod targed y bydd pob car a fan newydd a gaiff eu gwerthu yn y DG yn gerbydau galluog o allyriadau sero, boed hyn yn drydan batri, trydan hybrid plwg i mewn neu hydrogen.

Mae'r Cyngor wedi datgan y bydd dros 90 o gerbydau fflyd y Cyngor yn cael eu trosi yn beiriannau trydan neu hybrid trydan erbyn 2020, gyda chynlluniau i drosi gweddill y fflyd lai erbyn 2022.

Yn unol â gofynion y cynnig llwyddiannus, mae'r gwefrwyr trydan saith Kilowatt sy'n gallu gwefru cerbyd yn llawn mewn pedair i chwe awr wedi eu gosod mewn ardaloedd preswyl, lle nad oes unrhyw, neu ond ychydig iawn, o barcio oddi ar y stryd neu dramwyfeydd ar gael.

Mae'r gwefrwyr CT bellach yn eu lle ac yn gweithio yn y lleoliadau canlynol:

  • Treganna:  Mae dau bwynt gwefru wedi eu gosod yn Butleigh Avenue, dau bwynt gwefru yn Heol Ddwyreiniol y Bont-faen/Victoria Park Road West a dau bwynt gwefru yn Anglesey Street.
  • Glan-yr-afon:Dau bwynt gwefru ym maes Parcio Turning Head, dau bwynt gwefru ym Maes Parcio Severn Road ac un pwynt gwefru yn Rennie Street.
  • Cathays:Dau bwynt gwefru ar Maindy Road
  • Plasnewydd:Dau bwynt gwefru yn  Llyfrgell Penylan
  • Penylan:Dau bwynt gwefru yn Waterloo Road a dau bwynt gwefru yn Stallcourt Avenue.

Dwedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu:

"Mae'r lleoliadau wedi eu dewis ar sail ceisiadau gan aelodau'r cyhoedd a lle mae galw ar hyn o bryd am bwyntiau gwefru CT.  Bydd 10 gwefrwr pellach yn cael eu lleoli mewn pum safle ar wahân ac fe gaiff y rhain eu cadarnhau cyn hir yn dilyn ymgynghori â Western Power Distribution.

"Rydym am geisio datblygu datrysiad a fydd yn cynnig rhwydwaith ehangach yn y ddinas, gan weithio gyda diwydiannau a phartneriaida eraill i gaffael rhwydwaith sy'n addas at y dyfodol"

"Yna, byddwn yn gwneud cynnig fesul blwyddyn i'r Llywodraeth er mwyn gallu ehangu niferoedd y gwefrwyr CT ym mhrifddinas Cymru.

"Yn ddiweddar fe gyhoeddodd y Cyngor bartneriaeth gydag Engenie i osod 12 pwynt gwefru cyflym yn y ddinas. Gyda'r gwefrwyr hyn mae modd gwefru 80% o gar mewn rhwng 30 - 60 munud.

"Wrth symud yn ein blaenau, rydym yn sylweddoli y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn dewis cerbydau trydan neu hybrid yn y dyfodol a rhaid i'r seilwaith gael ei osod mewn lleoliadau ar draws y ddinas i wneud hyn yn bosibl. Dyna pam ein bod yn gweithio gyda datblygwyr i roi arweiniad clir ar geisiadau cynllunio'r dyfodol ac fel rhan o'r asesiad, byddwn yn cefnogi cynigion a fydd yn estyn cyfleoedd i ddefnyddio cerbydau trydan."

I fynd i'r pwyntiau cofrestrwch yn swarcoeconnect.org neu lawrlwythwch app SWARCO E-Connect i ddyfeisiau Android ac Apple