The essential journalist news source
Back
1.
October
2019.
Hwb ariannol i gynllun tai ynni adnewyddadwy

 

Mae cyllid grant gan Lywodraeth Cymru wedi ei ddyfarnu i dros 200 o dai carbon isel yn nwyrain y ddinas.

 

Bydd y datblygiad gan Gartrefi Caerdydd yn cynnwys 214 o eiddo ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain oddi ar Heol Casnewydd, a bydd yn derbyn £3.9m yn rhan o'r Rhaglen Tai Arloesol - y rhaglen dair blynedd, gwerth £90m, sy'n cefnogi ffyrdd newydd o ddylunio a chodi tai. Bwriad y rhaglen yw cynyddu'r tai sydd ar gael, bwrw targedau lleihau carbon, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newidiadau demograffig.

 

Drwy gynllun cartrefi Caerdydd, partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential, mae tai cyngor newydd a thai newydd i'w gwerthu ar y farchnad agored yn cael eu codi mewn safleoedd ledled y ddinas i ateb y galw am dai.Bydd y rhaglen yn creu dros 1,500 o gartrefi newydd yng Nghaerdydd, 600 ohonyn nhw'n dai cyngor.

 

Bydd y datblygiad newydd yn Nhredelerch, fydd â 65 o dai cyngor newydd a 149 o dai ar werth ar y farchnad agored, yn cyflwyno safonau perfformiad ynni cwbl newydd, gan y bydd pob un o'r cartrefi'n ymgorffori technolegau adnewyddadwy i leihau'r galw am ynni yn sylweddol, ac yn lleihau biliau ynni ac felly'n helpu'r ymdrech i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Bydd y tai cyngor a'r tai fydd ar werth yn cael eu codi i'r un safon perfformiad ynni.

 

Mae Sero Energy, cwmni gwasanaethau ynni cynaliadwy, yn gweithio gyda'r Cyngor a Wates Residential i ymgorffori technolegau carbon isel i'r datblygiad newydd, gan gynnwys pympiau gwres or' ddaear, storio thermal clyfar, mannau gwefru cerbydau trydan a phaneli solar.

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae cam cyntaf Cartrefi Caerdydd wedi bod yn hynod lwyddiannus, yn creu cartrefi fforddiadwy i'w gwerthu'n breifat a chartrefi i'w rhentu gan y cyngor, i ateb y galw cynyddol am dai yn y ddinas.  Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r llwyddiant hwn yng nghamau nesaf y cynllun ac mae'n gyffrous iawn y gall y project hwn yn nwyrain y ddinas gynyddu proffil tai carbon isel a hybu technolegau ynni adnewyddadwy yn y farchnad leol.

 

Rydym yn ymrwymedig at beilota dulliau adeiladu newydd a chynlluniau sy'n hynod effeithiol o ran ynni, ac rydym yn falch ein bod wedi ennill y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun arloesol hwn."

 

Dywedodd Edward Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential:"Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod cartrefi Caerdydd a'r Safle ar hen Ysgol Uwchradd y dwyrain, gan ei fod ar flaen y gad o ran cyflwyno tai sy'n effeithiol o ran ynni.Drwy ddefnyddio technoleg sy'n gallu dysgu sut mae pobl yn defnyddio ynni, a lleihau biliau ynni, yn y cartrefi cyngor a phreifat fel ei gilydd, bydd y cynllun hwn yn dangos y ffordd i'r genhedlaeth nesaf o dai. Rydym yn edrych ymlaen nawr at ddechrau gweithio ar y safle a gweithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Caerdydd i droi'r cynlluniau'n realiti."

 

Dywedodd James Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Sero Energy: "Bydd y project yn defnyddio mecanweithiau newydd i wneud cynlluniau carbon isel yn hyfyw yn ariannol, gan gynnwys mentrau cyllido gwyrdd megis morgeisi gwyrdd. Bydd yn ategu sail dystiolaeth gwerth cartrefi carbon isel."

 

 

Disgwylir i waith ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain ddechrau'n gynnar y flwyddyn nesaf.