The essential journalist news source
Back
20.
September
2019.
Polisi Enwau Strydoedd y Ddinas

 

Bydd naws Gymraeg i ddatblygiadau a strydoedd newydd Caerdydd a dylid rhoi enwau arnynt sydd â chyd-destun lleol a hanesyddol.

 

Mae mwyafrif llethol yr ymatebwyr i ymgynghoriad ar Bolisi Enwi Strydoedd y Cyngor yn gynharach eleni yn credu y dylid ystyried cefndir hanesyddol sylweddol a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y brifddinas wrth enwi cynlluniau a strydoedd newydd yn y ddinas.

 

Roedd dros 60 y cant o'r bobl a fynegodd eu barn yn cytuno â chynnig y Cyngor i weithio tuag at nifer cydradd o strydoedd ag enwau Cymraeg ag sydd o enwau Saesneg yn y ddinas, gyda'r mwyafrif yn teimlo y byddai'r polisi yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.

 

Mae'r bwriad i roi enwau Cymraeg yn unig ar strydoedd mewn datblygiadau newydd ac i sefydlu panel arbenigol i gynghori ar y materion hyn, fel sydd wedi ei amlinellu yn y polisi, hefyd wedi ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg, a nododd:"Mae'r polisi hwn yn cynnig y cyfle perffaith i

greu ffurfiau a fydd yn addysgu defnyddwyr am hanes cyfoethog yr iaith yng Nghaerdydd."

 

Mae cyfrifoldebau a grymoedd statudol gan y Cyngor dros enwi strydoedd, sydd â sawl swyddogaeth bwysig gan gynnwys ein cyfeirio ar hyd y ddinas, sicrhau dosbarthu effeithiol ar y post a sicrhau bod y gwasanaethau brys yn gallu dod o hyd i eiddo yn gyflym.Mae enwi strydoedd hefyd yn elfen allweddol o greu lle, mae'n bwysig hefyd yng nghyd-destun ymrwymiadau'r cyngor i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Safonau'r Gymraeg a Deddf Amgylcheddau Hanesyddol (Cymru) 2016.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild:"Bydd sicrhau fod enwau strydoedd newydd yn y ddinas yn adlewyrchu'r dreftadaeth leol a'r Gymraeg yn cynorthwyo ein gweledigaeth o ddatblygu Caerdydd yn brifddinas wirioneddol ddwyieithog.Bydd mabwysiadu'r polisi hwn hefyd yn ein gweld yn ymuno â phrifddinasoedd goleuedig eraill o amgylch y byd, fel Wellington yn Seland Newydd, sydd yn cofleidio ei threftadaeth ei hun drwy hyrwyddo enwau'r iaithMāori fel ei bod yn gydradd â'r Saesneg.

 

"Mae'n galonogol iawn fod mwyafrif y bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad o blaid y cynigion hyn.Mae'r Gymraeg yn rhan greiddiol o hanes Caerdydd dros y canrifoedd ac mae gennym ardaloedd cyfarwydd yn y ddinas sydd ag enwau Cymraeg yn unig - Creigiau, Cyncoed, Plasnewydd, a Thongwynlais i enwi ychydig yn unig. 

 

"Trwy weithio tuag at nifer cydradd rhwng enwau strydoedd Cymraeg a Saesneg wrth i'r ddinas barhau i dyfu, byddwn yn sicrhau fod hanes Cymru, y diwylliant a'r iaith yn parhau yn rhan bwysig o hunaniaeth y ddinas".

 

Ymagwedd bresennol y Cyngor at enwi strydoedd yng nghanol y ddinas, prif lwybrau cymudo i'r canol ac o amgylch Bae Caerdydd yw bod yr enwau ar strydoedd yn ddwyieithog gyda'r Gymraeg a'r Saesneg ar arwyddion strydoedd.

 

Mae'r polisi newydd wedi ei ddatblygu er mwyn cynnig cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr a rhai sydd eisoes yn berchnogion eiddo ac mae'n sefydlu'r broses sydd i'w dilyn wrth enwi a rhifo strydoedd ar ddatblygiadau newydd gan gynnwys ymgynghori â phanel Enwi Lleoedd/Strydoedd Cymraeg Caerdydd Ddwyieithog.

 

Mae tair elfen i'r strategaeth:

 

  1. Bydd strydoedd yn yr ardaloedd a ystyrir yn rhai a rennir yn bennaf, mannau cyhoeddus megis yng nghanol y ddinas, Bae Caerdydd a ffyrdd allweddol yn dod yn gwbl ddwyieithog pan ac wrth i arwyddion ffyrdd gael eu huwchraddio
  2. Bydd enwau strydoedd sy'n bodoli eisoes mewn cymunedau preswyl ac ym maestrefi Caerdydd yn aros fel ag y maent yn yr iaith ‘wybyddus'.
  3. Bydd datblygiadau a strydoedd newydd yn derbyn enwau Cymraeg yn y lle cyntaf a fydd yn adlewyrchu'r dreftadaeth leol
  4. Gellir defnyddio enwau unigolion penodol lle ceir cysylltiad hanesyddol neu waddol priodol.

 

Bydd y Cabinet yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y polisi yn ei gyfarfod nesaf ar Ddydd Iau, 26 Medi ac argymhellir ei fod yn cymeradwyo'r polisi, ac argymell i'r Cyngor ei fod yn cael ei fabwysiadu.