The essential journalist news source
Back
13.
September
2019.
Gwella ein Gwasanaethau Digartrefedd

 


Ymunodd Cyngor Caerdydd â phartneriaid yn y gwasanaeth iechyd a'r trydydd sector ar ymweliadau i Glasgow a Helsinki i ddarganfod beth mae'r ddwy ddinas yn ei wneud i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a rhoi sylw i anghenion iechyd pobl ddigartref sy'n agored i niwed.

 

Mae Glasgow a Helsinki wedi cael eu canmol yn ddiweddar am y ffordd maen nhw'n mynd i'r afael â digartrefedd a materion cymhleth a bwriad ymweliad tîm Caerdydd oedd casglu gwybodaeth am gynlluniau a allai wneud gwahaniaeth ym mhrifysgol Cymru.

 

Mae'r ymwelwyr yn rhan o arolwg parhaus ar wasanaethau digartrefedd ar gyfer pobl sengl yng Nghaerdydd, sy'n ceisio sicrhau bod y cymorth gorau bosibl mewn lle i helpu unigolion i ail-adeiladu eu bywydau.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:"Rydym wedi gwneud llawer yn y blynyddoedd diweddar i wella ein gwasanaethau digartrefedd a gallwn fod yn falch o'r help a'r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghaerdydd ar gyfer pobl ddigartref.Fodd bynnag, rydym eisiau bod yn siŵr ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud i helpu'r rhai sy'n agored i niwed a'r rhai ag anghenion cymhleth.Mae'n bwysig ein bod o hyd yn edrych ar syniadau newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau.Rydym ar hyn o bryd yn gweithio â'n holl bartneriaid yn y maes hwn i geisio arfer gorau i helpu i gyflwyno gwybodaeth ar gyfer adolygiad ar y gwasanaeth presennol.

 

"Bu ein ymweliadau'n addysgol a gwelsom esiamplau o arfer da a rhai dulliau arloesol o fynd i'r afael ag anghenion cymhleth.Er nad yw'r naill ddinas wedi datrys y broblem, dysgom gryn dipyn a chawsom ein hysbrydoli gan y gwaith sy'n mynd rhagddo yno.

 

"Roeddwn i'n falch iawn o gael ein partneriaid gyda ni yn ystod yr ymweliadau.Fel y dywedais ynghynt, mae hon yn fater fwy na thai yn unig ac nid rhoi to dros ben rhywun yn unig yw'r ateb.Gwnaeth brwdfrydedd y grŵp argraff fawr arna i, a'i hewyllys amlwg i weithio mewn partneriaeth, dros ffiniau gwasanaethau a mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd."

 

Swyddogion y Cyngor o'r Adran Dai a'r Gwasanaethau Cymdeithasol a chynrychiolwyr o'r gwasanaeth iechyd a'r trydydd sector sy'n cynnal yr adolygiad.

 

Ymwelodd y dirprwyon â chanolfan asesu digartrefedd a chanolfan argyfwng cyffuriau yn yr Alban ac yn y Ffindir, dysgon am yr amryw raglenni sy'n mynd i'r afael â digartrefedd, yn cynnwys dull Tai'n Gyntaf y Ffindir, sy'n sicrhau tai ar gyfer benywod a chyfleoedd gwaith ar gyfer tenantiaid.

 

Mae Caerdydd, fel nifer o ddinasoedd eraill yn y DU, yn wynebu galw cynyddol am wasanaethau digartrefedd.Mae gan y ddinas ddull cadarnhaol a rhagweithiol o helpu pobl sy'n cysgu allan i roi eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn a'r llynedd, helpodd y cyngor 157 o bobl i ddod oddi ar y strydoedd.Fodd bynnag, er gwaethaf y llety a'r cymorth sydd ar gael yn y ddinas, mae nifer fawr o bobl yn dal i fod ar y stryd ac mae pobl ddigartref newydd yn dod yn hysbys i'r gwasanaeth o hyd.

 

Mae gan Gaerdydd ystod eang o ddarpariaeth eisoes i gynorthwyo pobl sy'n ddigartref, gyda 261 lle mewn hostel ar gyfer pobl sengl ddigartref a 98 gwely argyfwng a 353 uned llety â chymorth.Dros y gaeaf, mae gwelyau argyfwng ychwanegol.

 

Mae'r cyngor hefyd yn gweithredu'r cynllun Tai'n Gyntaf, sy'n symud pobl sy'n cysgu ar y stryd ers amser hir yn syth oddi ar y strydoedd i gartref diogel annibynnol yn gyntaf, Cynigir cymorth cofleidiol i fynd i'r afael ag anghenion unigolion a chymorth priodol hefyd fel rhan o'r cynllun.

 

Mae ystod eang o wasanaethau cyfannol ar gael bob dydd gan gynnwys gwasanaethau meddygol ac alcohol a chyffuriau, ynghyd â gwasanaethau lletyMae Tîm Aml-ddisgyblaethol, sy'n cynnwys gweithiwr cyffuriau ac alcohol, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, gweithiwr therapiwtig, eiriolwr a chwnselydd, cymar-fentor a mynediad at wasanaethau presgripsiwn cyflym hefyd wedi ei sefydlu i helpu unigolion i fynd i'r afael â'u problemau sylfaenol.

 

Mae digwyddiadau adloniant, yn cynnwys boreau coffi, projectau garddio a chlwb bocsio hefyd wedi eu sefydlu i gynnig gweithgareddau ystyrlon a chyfleoedd anffurfiol i weithwyr cymorth ymgysylltu ag unigolion digartref.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Rydym eisiau sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i helpu pobl i wyrdroi hynt eu bywydau, felly bydd yr arolwg yn parhau yn nhymor yr hydref a bydd yn cynnwys cyrch pellach am arfer gorau ac ymgynghori â phartneriaid.

 

"Byddwn hefyd yn ceisio barn pobl sydd wedi profi digartrefedd a chysgu ar y stryd yn uniongyrchol i'n helpu i ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol."