Mae miloedd o blant sy'n dwlu ar lyfrau yn y ddinas wedi cofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf wrth i Lyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd geisio annog mwy o blant nag erioed i gymryd rhan.
Mae bron 5,600 o blant 4-11 oed yng Nghaerdydd eisoes wedi cofrestru i ddarllen chwe llyfr yn yr Sialens, sydd wedi ei hysbrydoli eleni gan y ffaith bod 50 mlynedd ers glanio ar y lleuad yn 1969. Y thema eleni yw Ras Ofod a bydd pawb a fydd yn cymryd rhan yn ymuno â theulu gwych y gofod, Y Rocedi, ar gyrch arbennig i ddod o hyd i lyfrau sydd wedi eu dwyn gan fodau drygionus o'r gofod!
Bellach ar ei 20ed blynedd, caiff Sialens Ddarllen yr Haf ei chydlynu gan y Reading Agency, ac mae'n cael ei chynnig mewn llyfrgelloedd ledled y wlad.Gall plant gofrestru mewn unrhyw lyfrgell neu hyb yng Nghaerdydd lle byddant yn derbyn cerdyn casglwr lliwgar i gadw cofnod o'u hantur yn y Ras Ofod.
Mae mwy na 400 o blant eisoes wedi cwblhau'r Sialens, a gallant edrych ymlaen at dderbyn tystysgrif a medal gan wasanaeth Llyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd yn ddiweddarach eleni. Ond mae dal amser i gofrestru i ddarllen chwe llyfr gan nad yw'r Sialens yn dod i ben tan 28 Medi.
Yn ogystal â'r gweithgareddau arferol, celf a chrefft, amseroedd stori ac odli a llawer mwy yn Llyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd dros y gwyliau, mae gweithgareddau ar thema Ras y Gofod a Sialens Ddarllen yr Haf hefyd yn cael eu cynnal yn rhan o hwyl yr haf (gweler y manylion isod).
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae'n wych gweld cynifer o blant Caerdydd wedi cofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf.Rydym eisiau gwneud yn well na ffigurau llynedd, felly rydym yn annog unrhyw blant nad ydynt wedi cofrestru eto i ymweld â'u hyb neu lyfrgell leol i ymuno yn yr hwyl.Mae dal digon o amser i ddarllen chwe llyfr.
"Mae'r Sialens yn hwyliog ac yn ffordd gyffrous o sicrhau bod plant yn dal i ddarllen gydol gwyliau'r haf ac mae ein llyfrgelloedd a hybiau yn lleoedd gwych i ymweld â nhw i rieni sy'n chwilio am rywbeth i'w wneud gyda'r plant.Mae gennym gannoedd o weithgareddau am ddim wedi'u trefnu dros wyliau'r ysgol.
"Mae mwy na 600 o blant wedi ymuno â'r hyb neu lyfrgell leol ers dechrau'r gwyliau ac rydym yn gobeithio y bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn ysgogi cariad oes at lyfrau ymysg y plant sy'n cymryd rhan eleni."
Digwyddiadau Sialens Ddarllen yr Haf:
Awst 15 | 2-4pm | Sesiwn ar thema Sialens Ddarllen yr Haf | Hyb Trelái a Chaerau
|
Awst 15 | 2-4pm | Sesiwn ar thema Sialens Ddarllen yr Haf | Hyb y Tyllgoed |
Awst 16 | 2.30-3.30pm | Celf a Chrefftau Sialens Ddarllen yr Haf | Hyb Llaneirwg |
Awst 18 | 11am - 12pm | Crefftau Ras y Gofod i blant rhwng 3-12 oed | Hyb Partneriaeth Tredelerch
|
Awst 19 | 1-2pm | Celf a Chrefftau Sialens Ddarllen yr Haf | Hyb Llanedern |
Awst 20 | 2.30pm | Clwb Ras y Gofod | Hyb y Llyfrgell Ganolog
|
Awst 21 | 11am - 1pm | Crefftau Ras y Gofod | Hyb Llanrhymni
|
Awst 22
| 2-4pm | Sesiwn ar thema Sialens Ddarllen yr Haf | Hyb Trelái a Chaerau
|
Awst 22 | 2-4pm | Sesiwn ar thema Sialens Ddarllen yr Haf | Hyb y Tyllgoed |
Awst 23 | 2.30-3.30pm | Celf a Chrefftau Sialens Ddarllen yr Haf | Hyb Llaneirwg |
Awst 27 | 2.30pm | Clwb Ras y Gofod | Hyb y Llyfrgell Ganolog
|
Awst 27 | 11am - 12pm | Crefftau Ras y Gofod i blant rhwng 3-12 oed | Hyb Partneriaeth Tredelerch
|
Awst 28 | 11am - 1pm | Crefftau Ras y Gofod | Hyb Llanrhymni
|
Awst 29 | 2-4pm | Sesiwn ar thema Sialens Ddarllen yr Haf | Hyb Trelái a Chaerau
|
Awst 29 | 2-4pm | Sesiwn ar thema Sialens Ddarllen yr Haf | Hyb y Tyllgoed |
Awst 30 | 2.30 - 3.30pm | Celf a Chrefftau Sialens Ddarllen yr Haf | Hyb Llaneirwg |