Mae Caru Eich Cymuned wedi cyflwyno eu menter casglu sbwriel ar draws POB hyb yng Nghaerdydd i annog pobl i wirfoddoli eu hamser i gadw cymunedau'n lân a thaclus.
Syniad y fenter yw rhoi'r cyfle i breswylwyr ddilyn hyfforddiant a benthyca offer casglu am hyd at bythefnos.
Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant byddwch yn Bencampwr Sbwriel swyddogol a byddwch yn gallu galw heibio'r Hyb ar unrhyw adeg i fynd i'r afael ag unrhyw sbwriel yn eich cymuned.
Gallwch fenthyca fests gwelededd uchel, menig amddiffynnol, ceibiau a chylchau sbwriel, bagiau pinc a gwyrdd a chitiau Cymorth Cyntaf pan fyddwch yn gwirfoddoli.
Dyw hi byth rhy gynnar i ddod yn Bencampwr Sbwriel - caiff plant eu hannog i ymuno â'r casgliadau sbwriel gyda'u hoedolion gan ddefnyddio ceibiau sbwriel arbennig ar gyfer dwylo llai!
Mae offer casglu sbwriel a hyfforddiant ar gael yn:
- Hyb Grangetown
- Llyfrgell Cathays
- Hyb Ystum Taf a Gabalfa
- Hyb y Tyllgoed
- Hyb Trelái a Chaerau
- Powerhouse Llanedern
- Hyb STAR
- Llyfrgell Treganna
- Hyb Llanisien
- Hyb Rhiwbeina
- Hyb Tredelerch
- Hyb Llaneirwg
- Llyfrgell Pen-y-lan
- Llyfrgell Radur
- Hyb Llanrhymni.
I ddysgu mwy am hyn a'r casgliadau sbwriel nesaf ewch iwww.keepcardifftidy.com <http://www.keepcardifftidy.com/>neu e-bostiwchCarwcheichCaerdydd@caerdydd.gov.uk <mailto:CarwcheichCaerdydd@caerdydd.gov.uk>i ddod y Pencampwr Sbwriel nesaf yn eich cymuned!