The essential journalist news source
Back
6.
August
2019.
Bwyd a Hwyl: Mwy na dim ond pryd iach

Mae Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol (SHEP) Cyngor Caerdydd wedi ei chyflwyno mewn mwy o ysgolion nag erioed eleni, gyda’r neges fod y cynllun yn cynnig llawer mwy na phrydau iach yn unig.

Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae Bwyd a Hwyl yn rhoi cyfle i blant gymdeithasu a mwynhau prydau bwyd maethlon ac iachus yn ystod gwyliau’r ysgol, gyda’r nod o leihau’r baich ariannol ar deuluoedd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i blant gael profiadau newydd i’w rhannu gyda ffrindiau wedi iddynt ddychwelyd i'r ysgol ar gyfer y tymor newydd.

Yn rhan o’r cynllun, caiff plant fudd o weithgareddau chwaraeon ac addysg a dysgu sgiliau newydd gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol yn ystod y sesiynau Bwyd a Hwyl.

Roedd yr uchafbwyntiau eleni, o wahanol rannau o’r ddinas, yn cynnwys y canlynol:

  • Yn sgil ymweliad gan Seiclo Cymru, fe ddysgodd Rio Raven o Ysgol Gynradd Pentre-baen i feicio am y tro cyntaf.
  • Bu Ambiwlans Cymru’n dysgu dulliau adfywio cardio-pwlmonaidd i blant i gyfeiliant y gân Baby Shark, i’w helpu i ddeall pa gyflymder oedd ei angen.
  • Mae’r RNLI wedi cynnal sesiynau diogelwch yn y dŵr, gan helpu plant i adnabod risgiau a deall ystyr baneri ac arwyddion ar draethau.
  • Mae Criced Morgannwg wedi cynnal sesiynau blas ar griced a chynnig cyfle i deuluoedd fynychu gemau T20.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:“Y syniad sydd wrth wraidd y cynllun yw rhoi addysg drwy hwyl a gweithgareddau chwaraeon i blant, gyda phrydau bwyd iachus o safon mewn amgylchedd diogel a gofalgar yn ystod gwyliau’r ysgol.

 “Cyfoethogi eu profiad yw’r nod. Rydyn ni’n gwybod bod cyfnodau hir i ffwrdd o’r ysgol yn gallu arwain at blant llai actif sy’n dibynnu ar fwydydd afiach. Mae Bwyd a Hwyl yn eu galluogi i gael prydau iachus a maethlon, a dysgu sgiliau newydd drwy chwaraeon a gweithgareddau addysgol eraill, gyda hyn oll yn hybu cynhwysiant cymdeithasol."

Ers y llynedd rydyn ni wedi bod yn dysgu sgiliau adfywio cardio-pwlmonaidd i blant i gyfeiliant y gân #babyshark er mwy iddyn nhw ddeall pa mor gyflym mae angen cyflawni CPR.

<0}

 Dyma un o ddisgyblion CA2 Ysgol Gynradd Bryncelyn. Mae llwyddiant y rhaglen yn dibynnu ar gefnogaeth partneriaid sy’n darparu llwyth o weithgareddau difyr a sgiliau bywyd i’r plant ac rwyf yn ddiolchgar iawn i bob un o’r sefydliadau hynny sydd eisoes wedi gwirfoddoli amser ac adnoddau. Mae wir yn cael effaith gadarnhaol ar y plant, eu teuluoedd a'r gymuned leol."  

Mae Bwyd a Hwyl bellach yn cael ei chynnig mewn 16 o ysgolion Caerdydd, ac mae’n bartneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Bwyd Caerdydd, Chwaraeon Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Os ydych chi’n fusnes neu’n sefydliad sydd â diddordeb mewn cefnogi’r cynllun Bwyd a Hwyl, cysylltwch â Judith Gregory jgregory@caerdydd.gov.uk