The essential journalist news source
Back
26.
July
2019.
Y Brifddinas yn barod i gynnal Cwpan Y Byd Y Digartref


Mae wythnos lawn o bêl-droed rhyngwladol ar ei ffordd i Gaerdydd wrth i'r brifddinas baratoi at gynnal Cwpan y Byd y Digartref 2019.

 

Mae'r paratoadau olaf ar waith at y twrnamaint ym Mharc Bute a ddaw â 500 o gyfranogwyr o bron 50 o wledydd ledled y byd yn cystadlu am deitl Pencampwyr y Byd.

 

Bydd cyfanswm o 60 tîm yn chwarae yn y gystadleuaeth o ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf tan 3 Awst.

Bydd y gystadleuaeth Dynion/Cymysg yn cynnwys 44 tîm yn cystadlu am chwe thlws a bydd 16 tîm yn y cystadlaethau i ferched, a dwy dlws.<

 

Cyn y cyffro ar y cae, bydd y digwyddiad yn cychwyn ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf gyda gorymdaith gan dimau'r gwledydd sy'n cystadlu o Stadiwm Principality drwy ganol y ddinas ac i Barc Bute. Yna bydd y seremoni agoriadol yn digwydd cyn y gêm gyntaf, yn cynnwys tîm merched Cymru.

 

Yn ogystal â'r cyffro ar y cae, oddi arno bydd gweithgareddau teuluol llawn hwyl o amgylch safle'r twrnamaint fydd yn cynnwys Parth Caerdydd Sy'n Dda I Blant.Wedi'i drefnu gan Wasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Techniqest, John Lewis a Phartneriaid, GLL, Omidaze Productions, Cadwch Gymru'n Daclus ac Ymchwil Canser Cymru, mae'r parth ar agor drwy gydol y twrnamaint.Bydd Bws y Gwasanaeth Ieuenctid yno gyda deciau, iMaciau ac ardal gemau.

 

Bydd atyniadau eraill yn cynnwys gweithgareddau gan Techniquest, Stondin Hun-luniau gyda Blwch Gwisg Ffansi Omnidaze, a chystadlaethau glanhau'r traeth yn erbyn y cloc gan Cadwch Gymru'n Daclus, yn rhan o'u sesiynau Trechu Sbwriel Morol.

 

Bydd GLL, y sefydliad sy'n cynnal canolfannau hamdden Caerdydd Better, yn dod â'i feic smwddis, bydd Ymchwil Canser Cymru yn cynnig gweithgareddau gwyddonol hwyliog a bydd John Lewis a Phartneriaid hefyd yn cynnig gemau a gweithgareddau llawn hwyl i'r teulu cyfan, yn ogystal â stondin ffitio esgidiau am ddim.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Mae Caerdydd yn edrych ymlaen yn arw ar gael cynnal Cwpan y Byd y Digartref yn ddiweddarach y mis hwn.Rydym yn gwybod o lwyddiannau twrnameintiau blaenorol ledled y byd y bydd hwn yn achlysur mawr i'r ddinas, ac yn gyfle gwych arall i ddangos ein hanes cryf o gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr.

 

"Does dim dwywaith y bydd croeso cynnes Cymreig i bob un o'r chwaraewyr a'r gwylwyr o bedwar ban y byd ac rwyf wrth fy modd bod y Cyngor yn cefnogi'r gwaith o gynnal y digwyddiad.>Rydym yn gobeithio y byddant yn mwynhau eu hamser yng Nghaerdydd ac rydym yn annog preswylwyr Caerdydd a phobl o'r ardal ehangach i ddod draw i Barc Bute i'w cefnogi, yn arbennig tîm Cymru, a'r holl ddigwyddiad.

 

"Hei lwc i bawb sy'n cystadlu.Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn y miri ar y cae.

 

"Wrth gwrs, fe wyddom fod y twrnamaint yn llawer mwy na gêm.

 

"Rwy'n falch y bydd cynnal Cwpan y Byd y Digartref yn tynnu sylw at y mater hwn yng Nghaerdydd a'r wlad gyfan.Ers 2010, mae cyfraddau digartref acysgu ar y strydwedi codi yn gyson mewn dinasoedd yn y DU ac felly rwy'n croesawu'r cyfle a ddaw yn sgil y twrnamaint i drafod y mater cymhleth hwn a rhannu'r camau gweithredu a gyflawnir gan Gyngor Caerdydd.

 

"Rydym i gyd yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael â'r broblem ac i helpu pobl ar y llwybr tuag at ail-adeiladu eu bywydau.<0}{0>We have some of the best services in the country, includingour multi-disciplinary team and are ready to support people with very complex needs that have resulted in them being on the streets, to come off the streets for good.<}0{>Mae gennym rai o wasanaethau gorau'r wlad, gan gynnwys ein tîm amlddisgyblaeth ac rydym yn barod i gynorthwyo pobl ag anghenion cymhleth iawn sydd wedi'u harwain at fyw ar y stryd, i adael y strydoedd am byth.

 

"Rwy'n gobeithio y bydd y twrnamaint yn ysbrydoli'r rhai sy'n ceisio gwyrdroi eu bywydau a gwnawn ninnau bopeth y gallwn i'w helpu i wneud hynny."

 

 

Am ragor o wybodaeth am Gwpan y Byd y Digartref Caerdydd 2019, ewch i homelessworldcup.org