The essential journalist news source
Back
16.
July
2019.
Cynwysyddion llongau yn cyrraedd Caerdydd


1  Gorffennaf


Mae cynhwysyddion llongau a gaiff eu defnyddio fel llety dros dro i deuluoedd digartref wedi'u cludo i Stryd Bute.

Mae'r cynhwysyddion llongau gwneuthuredig ar y cyn-safle PDSA ar Stryd Bute a byddant yn cael eu trawsffurfio i gynnig cartrefi dros dro i deuluoedd nes bod modd trefnu datrysiad tai mwy addas iddynt.

 

Mae cyfanswm o 20 o gynhwysyddion llongau wedi'u cludo a'u codi dros gyfnod o bedwar diwrnod.Byddant yn creu saith o fflatiau dwy ystafell wely a chwech o fflatiau ag un ystafell wely dros ddau lawr.

Ariennir y cynllun hwn gan Gyngor Caerdydd ar y cyd â Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.Bydd Cymdeithas Tai Cadwyn yn datblygu'r cynllun ar ran Cyngor Caerdydd ac yn gweithio law yn llaw â Tony King Architects, Willis Construction a Lion Containers.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau,

"Mae'n wych gweld y cynllun arloesol hwn yn dwyn ffrwyth. Mae helpu pobl sy'n profi digartrefedd yn flaenoriaeth i'r Cyngor ac mae cannoedd o deuluoedd yn y ddinas sydd yn anffodus yn mynd yn ddigartref. Bydd y cynhwysyddion llongau yn cynnig llety dros dro o safon i deuluoedd wrth iddynt aros am ddatrysiad tai parhaol."

Byddant yn sownd i badiau concrid sy'n golygu y bydd modd eu symud yn rhwydd i leoliad arall yn y dyfodol, naill ai gyda'i gilydd neu mewn grwpiau llai i wahanol safleoedd.

Unwaith y bydd yr holl gynhwysyddion yn eu lle, bydd Willis Construction yn mynd ati i weithio am 20 wythnos i'w dodrefnu.Mae Cadwyn hefyd yn cynnig rhaglen hyfforddi a sgiliau 10 wythnos i bobl leol fydd yn cynnwys helpu i ddodrefnu un o'r cynhwysyddion.

Dywedodd Kath Williams, Cydlynydd Hyfforddiant Datblygu ac Adeiladu Cadwyn:

"Mae buddsoddi yn y gymuned yn rhan bwysig iawn o'r project hwn felly byddwn yn rhedeg rhaglen hyfforddi adeiladu a sgiliau 10 wythnos gyda Willis Construction a Gwasanaethau i Mewn i Waith i alluogi pobl leol i fod ynghlwm wrth y safle i ddodrefnu un o'r cynhwysyddion.Yn rhan o'r rhaglen hon, byddant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi adeiladu ynghyd â sesiynau hyfforddi sgiliau cyflogaeth."

Bydd y tai oll yn cael eu hadeiladu i'r un safonau a gofynion adeiladu â thai fforddiadwy sydd wedi'u hadeiladu'n draddodiadol.Byddant yr un mor gyffyrddus â chartrefi arferol er mwyn cynnal iechyd a llesiant y trigolion a chânt eu dylunio mewn modd sensitif a chlyfar i wneud y gorau o'r gofod sydd ar gael.

Bydd pob un yn manteisio ar baneli solar ffotofoltäig gyda'r ynni yn mynd i drigolion yn uniongyrchol, system chwistrellwyr, a gofod cyfleustodau cymunedol i drigolion ei fwynhau.   Bydd mynediad uniongyrchol i ardd wedi ei hamgáu gan yr unedau dwy ystafell wely, fel y gall plant chwarae mewn lle diogel, a bydd gan yr unedau un ystafell wely ar y llawr cyntaf deras to a drws blaen.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hyfforddi a sgiliau 10 wythnos hon, cysylltwch â Kath Williams, Cadwyn ar 029 2043 4416 neu galwch heibio un o'r digwyddiadau gwybodaeth:

Clwb Bocsio Tiger Bay
Alice Street
2pm - 4pm
Dydd Iau 4 Gorffennaf

 

Pafiliwn Butetown
Dumballs Road
11am - 1pm
Dydd Llun 8 Gorffennaf