The essential journalist news source
Back
16.
July
2019.
Neges gan Arweinydd Cyngor Caerdydd: Protestiadau Extinction Rebellion

Ddoe, aeth y Cynghorydd Wild a minnau i ymweld â chanol y ddinas i gwrdd â phrotestwyr Extinction Rebellion.Gwrandawom ar eu pryderon, a gofynnon ni iddyn nhw ystyried y tarfu sydd wedi'i achosi i breswylwyr a chymudwyr, a gofyn iddynt symud y brotest oddi ar y ffordd. 

Yn anffodus, gwnaethant wrthod gwneud hyn ac mae'r protestiadau'n dal i fynd rhagddynt ar Stryd y Castell am yr ail ddiwrnod, ynghyd ag ar Lawnt Neuadd y Ddinas. Rwyf felly'n rhannu'r datganiad hwn gan Heddlu De Cymru, sy'n nodi'r dull y maen nhw'n ei ddefnyddio i ddelio â'r sefyllfa. 

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i wneud cymaint ag y gallant i sicrhau y terfir cyn lleied â phosibl ar ganol dinas Caerdydd wrth i brotest grŵp amgylcheddol Extinction Rebellion gyrraedd ei ail ddiwrnod. 

Cynghorir gyrwyr i osgoi canol y ddinas gan fod heolydd yn parhau i fod ar gau o Boulevard De Nantes i Heol y Gadeirlan Isaf. 

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Heddlu De Cymru, y Prif Uwch Arolygydd Stuart Parfitt: "Rydym yn llwyr ddeall rhwystredigaeth y cyhoedd sydd angen mynediad i ganol y ddinas ac rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd i reoli'r tarfu, a'i gadw at lefel mor isel â phosibl, drwy ddilyn trefniadau cau heolydd sydd wedi eu defnyddio droeon. 

"Mae'r brotest - sy'n rhan o ymgyrch ledled y DU - wedi bod yn un heddychlon hyd yn hyn, gyda phrotestwyr yn ymatal rhag achosi niwed, anhrefn ac aflonyddu. Mae'r grŵp wedi bod yn ystyriol iawn o angen cerbydau brys i gael mynediad i heolydd sydd ar gau. 

"Mae deddfwriaeth yn ei lle yn ymwneud â rhwystro priffyrdd, ond mae angen cydbwyso hyn gyda hawliau dynol y sawl sy'n protestio. Dan y gyfraith, mae gan bawb hawl i brotestio'n heddychlon ac yn gyfreithiol a rhaid i'r heddlu barchu'r hawl hwn tra hefyd yn cydnabod yr effaith ar y cyhoedd ehangach. 

"Mae hon yn llinell denau ac mae'r sefyllfa'n cael ei adolygu drwy'r amser gyda'r cyngor lleol a'r gwasanaethau brys. 

"Os bydd y sefyllfa'n gwaethygu, bydd Heddlu De Cymru yn ymateb yn briodol, gan ystyried hawliau pawb sydd ynghlwm wrth y sefyllfa. 

"Mae ein hymateb yn unol ag ymateb lluoedd heddlu eraill ar hyd a lled y DU." 

Cadwch lygad ar gyfrif Twitter y Cyngor i gael y diweddaraf wrth i'r sefyllfa fynd yn ei blaen.