The essential journalist news source
Back
16.
July
2019.
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd wedi agor yn swyddogol

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford ar y cyd ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi agor Ysgol Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn swyddogol yr wythnos hon, ac roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod y Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau y Cynghorydd Sarah Merry hefyd yn bresennol  ynghyd â GweinidogLlywodraeth Cymru dros Addysg, Kirsty Williams.

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\PHOTOGRAPHY DIARY\2019-20 PHOTOGRAPHY DIARY\July 2019\16.7.19 Cardiff West CHS Official Opening\190715Cardiff West015_NTreharne.jpg

Ymunodd staff, llywodraethwyr a disgyblion yr ysgol â'r Pennaeth Martin Hulland a Chadeirydd y Llywodraethwyr Dewi Jones i groesawu'r gwesteion oedd yn cynnwys gwleidyddion lleol a'r rheiny oedd yn brif gyfranwyr i adeiladu'r ysgol.

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\PHOTOGRAPHY DIARY\2019-20 PHOTOGRAPHY DIARY\July 2019\16.7.19 Cardiff West CHS Official Opening\190715Cardiff West019_NTreharne.jpg

Mae'r ysgol newydd wedi ei hariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, drwy Fand A rhaglen y ddinas Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £164 miliwn.

Mae'r ysgol yn un wyth dosbarth mynediad â lle i 1200 o ddisgyblion. Mae dros 13,500 metr sgwâr o ofod llawr, ac mae cyfleusterau chwaraeon ardderchog yno, ynghyd â mannau dysgu hyblyg a'r cyfleusterau gwyddoniaeth a TG diweddaraf.

Mae Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn ‘ysgol fraenaru', sy'n hyrwyddo cysylltiadau a ffurfiwyd dan ‘Bartneriaeth Addysg Caerdydd Greadigol' sydd wedi gweld rhai o'r enwau mwyaf yn sector creadigol Caerdydd yn cyfuno â'r awdurdod lleol i hyrwyddo creadigrwydd wrth galon dysgu. 

Mae'r bartneriaeth yn cynnig profiad gwaith cyffrous i blant a phobl ifanc yr ysgol, gan eu helpu nhw i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd yn y sectorau creadigol a diwylliannol gan gynnwys ffilm, teledu, dylunio digidol a theatr. Mae hefyd yn rhoi sgiliau creadigol iddynt y gellir eu defnyddio mewn gyrfaoedd a swyddi eraill. 

Mae'r safle wedi ei rannu'n dri bloc ar wahân, gyda chaeau chwarae newydd ac ardal chwaraeon cymysg newydd yn rhan o'r safle 8.8 hectar.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Rwyf wedi bod yn dilyn datblygiad yr ysgol newydd hon gyda llawer o ddiddordeb. Mae'n braf gweld buddsoddiad mewn addysg, nid yn fy etholaeth i yn unig, ond ar draws Cymru. 

 

"Mae Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn un o 170 o brojectau sydd wedi elwa hyd yma ar ein Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif, y buddsoddwyd £1.4 biliwn yn ein hystâd addysg. Rwy'n hynod falch o fod yma yn yr agoriad swyddogol heddiw ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr ysgol yn tyfu ac yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod."

 \\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\PHOTOGRAPHY DIARY\2019-20 PHOTOGRAPHY DIARY\July 2019\16.7.19 Cardiff West CHS Official Opening\190715Cardiff West074_NTreharne.jpg

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Cartref newydd Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd yw'r diweddaraf o ystod gyffrous o ysgolion rydym eisoes wedi eu hadeiladu ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ac sy'n darparu'r amgylchedd addysgol rhagorol o'r radd flaenaf sy'n addas i'r 21ain Ganrif i blant a phobl ifanc.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion wrth galon ein cymunedau. Mae'r safle ysgol newydd yn fuddsoddiad £36 miliwn yn addysg ein plant, ond hefyd mae'n fuddsoddiad sylweddol yn y cymunedau lleol, sef Caerau a Threlái, sy'n cynnig cyfleusterau gwych i'r gymuned ehangach eu mwynhau.

"Rwy'n gwybod bod addysg dda yn cynnig y dechrau gorau mewn bywyd, yn ogystal â bod y ffordd fwyaf sicr allan o dlodi, felly byddwn yn parhau gyda'n hymdrechion i sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn mynd i ysgol dda neu hyd yn oed rhagorol. Byddwn yn parhau hefyd i fuddsoddi mewn ehangu ysgolion y ddinas wrth i ni ddechrau cyflawni cam nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae datblygiad Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd wedi bod yn daith nodweddiadol ac mae ei hagoriad swyddogol yn ddiwrnod hynod bwysig, i ddisgyblion a staff a hefyd i'r gymuned leol.

"Rwy'n credu bod gan bob plentyn yr hawl i addysg dda ac adeilad ysgol o safon uchel ac mae gweddnewid Ysgol Gorllewin Caerdydd eisoes yn ddatblygiad anhygoel i addysg uwchradd yr ardal leol.

"Gyda'i dyluniad creadigol, cyfleusterau modern trawiadol a'r cysylltiadau sydd eisoes wedi eu creu â phartneriaid yn y sector creadigol, mae'r ysgol yn cynnig cyfleoedd eithriadol i bobl ifanc, gan agor y ffordd i ddisgyblion tuag at ddyfodol llewyrchus."

Wrth siarad mewn digwyddiad, dywedodd y Gweinidog Dros Addysg Kirsty Williams: "Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw yn dathlu'r ysgol wych newydd hon."

"Mae'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn enghraifft ragorol o'r hyn y gallwn ei gyflawni pan fydd pawb yn dod at ei gilydd yn rhannu'r un nod. Mae'r rhaglen hefyd yn ffurfio rhan allweddol o'n cenhadaeth genedlaethol, sef gwneud y wlad gyfan yn falch o system addysg yng Nghymru.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr ysgol hon yn ganolfan ddysgu i ddisgyblion ond hefyd yn hyb sy'n cynnig cyfleusterau o'r ansawdd uchaf sydd o fudd i'r gymuned ehangach.

Dywedodd y Pennaeth, Mr Martin Hulland: "Mae agor ein cartref newydd parhaol yn swyddogol yn garreg filltir i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, ac rwy'n ffyddiog y bydd ein disgyblion yn cael eu hysbrydoli i ddysgu, gweithio'n galed a chyflawni yn eu hamgylchedd newydd."

"Rhoddwyd ystyriaeth i farn staff a disgyblion yn ystod y broses ddylunio er mwyn sicrhau bod gennym ysgol sy'n gweithio i'r myfyrwyr a'r gymuned a'i bod yn un y gallwn ni i gyd deimlo'n falch ohoni.

"Mae hyn wedi ei gyflawni yn fy marn i, ac mae'n dangos, ynghyd â'r adroddiad cadarnhaol a gawsom gan Estyn yn gynharach eleni, ein bod mewn sefyllfa dda i ddatblygu, a mynd ag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd i'r lefel nesaf a gwneud gwahaniaeth go iawn."

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yw'r ysgol ddiweddaraf i gael ei chwblhau'n rhan o Fand A Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, wedi ei hariannu ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Mae cyfanswm o £164 miliwn wedi ei ddarparu i'r rhaglen, gyda Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn rhoi £82 miliwn yr un. 

Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd gam nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ainGanrif ym mis Rhagfyr, gyda £284 miliwn ychwanegol, a chyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, i adeiladu ysgolion newydd ledled y ddinas - y buddsoddiad unigol mwyaf yn ysgolion Cyngor Caerdydd.