The essential journalist news source
Back
9.
July
2019.
Un cam bach i ddyn, un cam mawr ar gyfer Her Ddarllen yr Haf 2019!


Mae Her Ddarllen yr Haf ar ei ffordd nôl i Gaerdydd ac mae'r thema eleni'n llythrennol yn ‘lloerig'.

 

Daw'r ysbrydoliaeth o fis Gorffennaf 1969 pan gamodd Neil Armstrong i'r lleuad am y tro cyntaf yn hanes dyn, a'r thema eleni yw Ras Ofod a bydd pawb a fydd yn cymryd rhan eleni yn ymuno â theulu gwych y gofod, Y Rocedi, ar gyrch arbennig i ddod o hyd i lyfrau sydd wedi eu dwyn gan fodau drygionus o'r gofod!

 

Wedi ei gynhyrchu gan yr Asiantaeth Ddarllen a'i chyflwyno mewn llyfrgelloedd ledled y wlad, mae'r her yn gofyn i blant 4-11 oed fenthyg a darllen chwe llyfr llyfrgell dros wyliau'r haf.Gall plant gofrestru mewn unrhyw lyfrgell neu hyb yng Nghaerdydd lle byddant yn derbyn cerdyn casglwr lliwgar i gadw cofnod o'u hantur ar y Ras Ofod.

 

Mae'r sialens yn cael ei lansio yng Nghaerdydd ar Ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf gyda phartïon hwyliog yn Hyb y Llyfrgell Ganolog (o 2pm) ac mewn llyfrgelloedd a hybiau ar draws y ddinas, lle bydd llwyth o weithgareddau, celf a chrefft, amser stori a llawer mwy.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn dathlu ei 20ed pen-blwydd eleni ac i nodi'r achlysur, rydym am i lawer o blant Caerdydd i ymuno ar antur y Ras Ofod.Roedd dros 7,400 o blant wedi cofrestru yn ein llyfrgelloedd a'n hybiau y llynedd i ddarllen eu chwe llyfr ac rydym yn gobeithio gweld hyd yn oed mwy yn cofrestru a chwblhau'r her eleni.

 

"Gall sgiliau darllen plant lithro nôl dros fisoedd hir gwyliau'r haf os na fyddan nhw'n darllen felly mae'r her yn ffordd wych o gadw'u diddordeb yn y darllen.Y peth pwysicaf fodd bynnag yw bod y plant yn mwynhau yr her, wrth iddyn nhw ddewis, trafod a darllen eu chwe llyfr."

 

Mae gan blant tan 28 Medi i gwblhau'r her, a byddan nhw'n derbyn medal a thystysgrif i ddangos eu bod wedi gorffen eu chwe llyfr.

 

Mae cannoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim wedi eu cynllunio ar gyfer Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd unwaith eto'r haf hwn.Galwch draw yn eich hyb neu lyfrgell lleol i weld beth sydd yn digwydd neu dilynwch @cdflibraries ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf.