Mae’r cynigion yn ymateb i ymgynghoriad helaeth â’r cyhoedd, a dderbyniodd dros 6,000 o ymatebion, ac a ganfu bod dros 88% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid rhoi mesurau gorfodi ar waith i sicrhau bod pobl sy’n berchen cŵn/cerdded cŵn yn cario bagiau neu ddulliau eraill o gwael gwared ar faw’r cŵn.
Roedd cynigion gwreiddiol yr ymgynghoriad yn cynnwys gwahardd cŵn o gaeau chwaraeon wedi eu marcio. Ar sail adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad, nid yw’r cynigion hyn wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus terfynol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:“Mae perchnogion cyfrifol eisoes yn glanhau ar ôl eu cŵn, yn eu cadw ar gynllyfan neu dennyn pan fo angen ac allan o fannau anaddas fel meysydd chwarae plant. Ond yn anffodus, diolch i leiafrif anghyfrifol, mae’r cyngor yn derbyn cannoedd o gwynion bob blwyddyn am faw cŵn ac mae problemau yn dal i fod ar hyd a lled Caerdydd lle nad yw cŵn yn cael eu rheoli’n briodol. Mae angen mynd i'r afael â hyn.
“Rwy’n credu bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus a nodir yn yr adroddiad hwn, ac y byddwn yn ei gyflwyno’n hwyrach eleni, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor Llawn, yn sicrhau cydbwysedd rhwng perchnogion/cerddwyr cŵn o ran cerdded ac ymarfer ac anghenion pobl eraill sy'n defnyddio gofodau cyhoeddus y ddinas.”
Os cânt eu cymeradwyo, disgwylir y bydd y mesurau rheoli canlynol yn cael eu cyflwyno’n nes ymlaen eleni:
- Gwahardd cŵn rhag bawa ym mhob man cyhoeddus sy’n
eiddo i ac/neu a gynhelir gan y cyngor.
- Y gofyniad i berchennog ci fod â’r modd o glirio baw
ci.
- Gwahardd cŵn o bob maes chwarae caeedig ac ysgolion
sy’n eiddo i neu a gynhelir gan Gyngor Caerdydd.
- Gofyniad i gadw cŵn ar gynllyfan/tennyn ym mhob
mynwent sy’n eiddo i ac/neu a gynhelir gan Gyngor Caerdydd.
- Gofyniad sy’n galluogi swyddogion awdurdodedig i
orchymyn bod ci (cŵn) yn cael eu roi a’i gadw ar gynllyfan/tennyn os oes
angen.
- Y gosb ariannol am hysbysiad cosb benodedig yn sgil
torri Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer rheoliadau cŵn, fel y
nodir uchod, fydd £100.
- Bydd eithriadau ar gyfer pobl sydd ag anabledd sy’n effeithio ar symudedd, deheurwydd, cydlyniad corfforol person neu allu person i godi neu symud eitemau pob dydd, neu mewn perthynas â chŵn wedi eu hyfforddi gan elusen gofrestredig ac y mae pobl yn ddibynnol arnynt.
Bydd
y Gorchymyn ar waith ar gyfer mannau cyhoeddus sy’n cael eu rheoli neu eu
cynnal gan y Cyngor, gan gynnwys ysgolion, meysydd chwarae caeedig i blant a
mynwentydd cyhoeddus.