Mae arweinydd prifddinas Cymru wedi cyhoeddi gweledigaeth drafnidiaeth drawsnewidiol gwerth £1bn i leihau traffig a gwella ansawdd yng Nghaerdydd.
Yn siarad yng Nghynhadledd Llywodraeth Cymru ar Deithio Llesol, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas wrth y cynadleddwyr ei bod yn amser gweithredu ar anghenion trafnidiaeth y ddinas, gan rybuddio bod angen buddsoddi ar frys ac y bydd pethau'n ‘arafu at stop' os nad yw asiantaethau partner yn dod ynghyd i drawsnewid y ffordd mae pobl yn dod i Gaerdydd ac yn teithio yn y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae angen i rwydwaith trafnidiaeth Caerdydd newid. Cafodd ei ddylunio'n wreiddiol i ddinas â phoblogaeth o 200,000 ond heddiw mae ein poblogaeth yn agosach at 400,000 ac mae 80,000 o bobl yn ychwanegol yn teithio i'r gwaith yn y ddinas yn eu ceir bob dydd.
"Mae'n amlwg i bawb nad yw'r sefyllfa'n gynaliadwy. Mae gennym rwydwaith sydd eisoes yn gwegian. Mae popeth yn stopio os yw un ffordd yn y ddinas yn cau. Mae gennym hefyd rai o lefelau uchaf NO2 yng Nghymru.
"Dyma pam fy mod yn gosod fy ngweledigaeth heddiw am ddinas werddach, fwy cynaliadwy a allai drawsnewid y ffordd mae pobl yn symud o amgylch ein dinas erbyn 2030. Mae'n gynllun i ddyfodol Caerdydd sy'n effeithio ar bawb sy'n byw yma ac yn dod yma i weithio.
"Mae'n amlwg na fyddwn yn llwyddo dros nos, ond heddiw rydym yn cyflwyno dyhead y cyngor gan gydnabod yn llawn y bydd angen gweithio'n effeithiol gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Mae angen hefyd drafodaeth gyhoeddus ddwys am sut mae modd ariannu'r weledigaeth hon."
Mae'r mesurau yn cynnwys:
- Trên Bach Caerdydd - llinell reilffordd/tram newydd ysgafn o'r dwyrain i'r gorllewin gan gysylltu canolfannau poblogaeth mawr a maestrefi newydd yn y gorllewin â Chanol Caerdydd
- Cylchred Caerdydd - llinell reilffordd/tram ysgafn gydlynol sy'n cysylltu ardaloedd preswyl mawr â'r rhwydwaith trafnidiaeth
- Parcio a theithio ger cyffordd 32 yr M4 wedi'i gysylltu â'r Gylchred
- Rhwydwaith Trafnidiaeth Bws Cyflym newydd sy'n defnyddio cerbydau gwyrdd a thrydanol
- Beicffyrdd a llwybrau cerdded diogel newydd sy'n cysylltu â rhwydweithiau bws, trên a thram
- System docynnu integredig sy'n galluogi defnyddwyr i symud o un dull trafnidiaeth i'r llall yn hawdd.
- Gwneud Caerdydd yn ddinas 20mya
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Gallai hyn yn hawdd fod ein cyfle olaf i wneud pethau'n iawn o ran trafnidiaeth yng Nghaerdydd."Rydym wedi dadlau'n gyson mai ar seilwaith trafnidiaeth effeithiol bydd ffyniant y ddinas yn dibynnu yn y dyfodol, gyda mynediad di-dor i rwydwaith traffyrdd y DU, a llwybrau sy'n llifo'n rhydd i mewn, ac o amgylch y ddinas.
"Ac eithrio'r cyhoeddiad ar Ffordd Liniaru'r M4 yn ddiweddar, mae'n amlwg bod angen buddsoddi ar frys yn seilwaith trafnidiaeth y rhanbarth.Mae'n rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun economaidd ehangach Cymru.Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw pwerdy economaidd y wlad, gyda Chaerdydd ei hun yn cyfrannu 20,000 o swyddi newydd at economi Cymru y llynedd.Mae'n rhaid buddsoddi'r arian cyfalaf a neilltuwyd yn flaenorol ar gyfer yr M4 newydd yn Ne-ddwyrain Cymru.Gallai gwireddu ein gweledigaeth, ochr yn ochr â chwblhau'r cynllun Metro, yn y bôn weddnewid seilwaith trafnidiaeth yn y ddinas, gan wella'r rhanbarth gyfan.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae hoelio trafnidiaeth yn newid popeth. Mae'n rhoi momentwm go iawn i agenda datblygu economaidd y ddinas. Mae'n helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn well drwy gysylltu pobl â chyfleoedd. Mae'n gwella ansawdd bywyd ac mae'n nod pendant o ran rhinweddau amgylcheddol y ddinas.
"O wneud pethau'n anghywir, bydd cystadleurwydd economaidd ac ansawdd bywyd yn gwaethygu. Felly nid yw'n syndod mai trafnidiaeth yw'r mater pwysicaf i drigolion bob amser.Rydym nawr yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid newydd, i wneud y buddsoddiad trawsnewidiol hwn yn rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas-ranbarth yn realiti.
"Mae syniadau cynnar yn dod draw gan y Papur Gwyrdd ar drafnidiaeth yn ogystal ag aer glân sy'n gosod y cyfeiriad i ni.Byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn a fydd yn torri tir newydd yn ystod yr hydref gyda chynlluniau ychwanegol ar gyfer y ddinas, ond mae'n bwysig i ni ddechrau trafod nawr."
Sut caiff y weledigaeth ei llunio:
Gweledigaeth Trên Bach Caerdydd
Llinell reilffordd/tram ysgafn sy'n cysylltu canol Caerdydd â chanolfannau poblogaeth yn y dwyrain a'r gorllewin. Bydd yn cynnwys gorsaf newydd yn Rover Way/Heol Casnewydd, drwy'r dociau, Rhodfa Lloyd George a Rheilffordd y Ddinas i ogledd-orllewin Caerdydd ac ymlaen i Rondda Cynon Taf a fydd yn:
helpu i drawsnewid y bae, gyda chysylltiadau tram uniongyrchol a rheolaidd i gyfnewidfa Canol Caerdydd. Bydd yn adfywio'r cyswllt rhwng canol y ddinas, Butetown, a'r bae drwy greu parc trefol.
Gwella cysylltiadau rheilffordd a mynediad i drafnidiaeth ar gyfer ardaloedd Caerdydd sy'n wynebu heriau economaidd (gan gynnwys Sblot, Tremorfa a Threlái), helpu i sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth gwell ar hyd y llwybr i Rondda Cynon Taf.
Mynd i'r afael yn uniongyrchol â safleoedd tai newydd mawr yng ngogledd-orllewin Caerdydd â gweddill Caerdydd i osgoi traffig nad oes modd ei reoli.
Gweledigaeth Cylchred Caerdydd
Rhan o'n gweledigaeth yw creu Cylchred trên neu dram ysgafn gyflawn o gylch Caerdydd fydd yn cysylltu llinell Coryton â llinell Bro Taf i'r gogledd o Radur. Bydd hyn yn cynnig:
Uwchraddio llinellau presennol Coryton a'r Ddinas yn bedwar gwasanaeth ac un yr awr i'r ddau gyfeiriad
Gorsaf gyfnewidfa fysus i alluogi newidiadau i wahanol fathau o drafnidiaeth
Cronfeydd cyflogaeth mwy ar gyfer lleoliadau megis Nantgarw a Phontypridd (nid Canol Dinas Caerdydd yn unig) drwy ei gwneud yn haws i drigolion Caerdydd gyrraedd y lleoliadau hyn gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Gweledigaeth Gwella Bysus
Mae llwybrau bysus ar hyn o bryd yn gofyn i bobl deithio i mewn ac allan o ganol y ddinas ar ffyrdd sy'n aml yn llawn traffig araf, gan wneud teithio ar y bws yn ddewis anatyniadol o'i gymharu â cheir.
Sefydlu rhwydwaith systematig o goridorau a chysylltiadau blaenoriaeth i fysus sy'n cysylltu meysydd Parcio a Theithio newydd mawr mewn lleoliadau strategol o gylch perimedr y ddinas gyda llwybrau cyflym a chyfforddus i Gaerdydd ac o'i chwmpas.
Integreiddio'r cysylltiadau, yr amserlenni a thocynnu'r holl rwydwaith bysus a bysus sy'n gwasanaethu â'r llinellau metro rheilffordd a thram wedi eu gwella.
Gorsafoedd cyfnewidfa fysus a/neu fysus-rheilffordd newydd i ganiatáu symud yn rhwydd o un math o drafnidiaeth i'r llall.
Teithio bws ysgol am ddim i fyfyrwyr 18 oed ac iau a thocynnau â gostyngiad ar gyfer y rhai sy'n chwilio am swyddi
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno tocynnau integredig - system docynnau un taliad ar gyfer pob math o drafnidiaeth gan gynnwys rheilffordd, Metro, bysiau a Nextbike a fydd yn eich galluogi i brynu a defnyddio yr un tocyn ar draws y system gyfan.
Polisi parcio newydd sy'n annog teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na mewn car
Gweledigaeth teithio llesol - beicio a cherdded
Rydym yn gwybod mai'r rhain yw'r dulliau mwyaf gwyrdd ac iach o deithio; maent yn creu llai o lygredd, ac yn ein helpu i gadw'n ffit. Mae teithio llesol hyd yn oed yn gwella cynhyrchiant ymhlith plant tra eu bod yn yr ysgol. Ar hyn o bryd mae'r rhwydwaith teithio llesol o lwybrau beicio a cherdded diogel, deniadol a chyfleus yn dameidiog ac anghyflawn.
Integreiddio'r rhwydwaith â gorsafoedd metro, ysgolion a chyrchfannau pwysig allweddol eraill. Gwneud teithio llesol yn ddull dewis ar gyfer defnyddio'r Metro trwy gynnig llwybrau i feicwyr a cherddwyr o fewn 800m o radiws i orsafoedd Metro a chynyddu'r cyfleusterau parcio beiciau mewn gorsafoedd.
Creu Strydoedd sy'n Dda i Blant lle gall plant ddefnyddio llwybrau diogel ac iach i ysgolion, parciau a chyfleusterau chwaraeon.
Creu ‘parthau teithio llesol' mewn cymdogaethau trwy gyfrwng cynlluniau sy'n rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio dros geir ac sy'n cynnig llwybrau deniadol ar gyfer teithiau llesol lleol.
Gwneud strydoedd ger ysgolion yn fwy diogel trwy gyfyngu mynediad i gerbydau ar adegau codi a gollwng drwy osod camerâu sefydlog.
Hybiau Nextbike ger ysgolion uwchradd a chyfleusterau hamdden gyda theithio am ddim ar nextbike i rai o dan 18 oed.
Ail-ddylunio cyffyrdd a blaenoriaethu wrth oleuadau traffig i roi mwy o amser i gerddwyr a beicwyr.
Gwneud Caerdydd yn ddinas 20mya.