The essential journalist news source
Back
27.
June
2019.
Celfyddydau i bawb


Mae hanner canrif o gelfyddydau cymunedol yn Neuadd Llanofer yn cael ei ddathlu y mis yma mewn arddangosfa am ddim yn y ganolfan.

 

Mae arddangosfa Cyfeillion Neuadd Llanofer eleni, sy'n arddangos gwaith pobl sy'n cefnogi, neu sydd wedi arddangos neu astudio yno, yn dathlu 50 mlynedd ers i'r ganolfan gelfyddydau gael ei defnyddio am y tro cyntaf fel gweithdy celf modern i bobl ifanc yn 1969.

 

Cafodd yr arddangosfa ei hagor yn swyddogol mewn diwrnod hwyl i'r teulu gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas ac mae'r arddangosfa ar agor i'r cyhoedd tan ddydd Gwener 26 Gorffennaf yn ystod oriau agor y ganolfan, 10am i 9pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 12pm ar ddydd Sadwrn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Mae Neuadd Llanofer yn gyfleuster cymunedol pwysig sydd wedi galluogi i filoedd o bobl gymryd rhan yn y celfyddydau dros y blynyddoedd.Hanner can mlynedd ers iddo gael ei sefydlu fel canolfan gweithgareddau celfyddydau i bobl ifanc, mae Neuadd Llanofer heddiw yn borth ffyniannus i'r celfyddydau, yn cynnig ystod eang o ddosbarthiadau a chyrsiau i bobl o bob oed a gallu."

 

Bydd y dosbarthiadau yn Neuadd Llanofer yn cael eu cyflwyno gan dîm Dysgu am Oes y Cyngor a bydd dysgwyr yn talu am y cyrsiau.Mae rhai cyrsiau wedi'u dylunio'n benodol i bobl â phroblemau iechyd meddwl neu namau corfforol ac yn cael eu cynnig trwy dîm Cynnwys Pobl Anabl mewn Addysg.

 

Dywedodd Cadeirydd grŵp elusennol Neuadd Llanofer, Richard Manners:"Mae'n bleser gennym gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth â'r Cyngor i sicrhau bod Neuadd Llanofer yn parhau i ffynnu, gan gynnig lle i ddysgwyr ac artistiaid ddatblygu eu creadigrwydd. Fel rhywun sydd wedi cefnogi'r ganolfan am nifer o flynyddoedd ac hefyd wedi dod â fy mhlant yma i gymryd rhan, rwy'n gwybod y rôl bwysig y mae'r ganolfan yn chwarae o ran gwella lles unigolion ac yn ei dro, lles y gymuned ehangach."

 

I gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Llanofer, gan gynnwys dosbarthiadau a chyrsiau a gynigir yn y ganolfan, ewch iwww.llanoverhall.comac i gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth Dysgu i Oedolion ac yn y Gymuned y Cyngor, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/dysgu