The essential journalist news source
Back
25.
June
2019.
Agoriad Swyddogol ar gyfer Ysgol Hamadryad

Mae Ysgol Hamadryad, yr ysgol Gymraeg gyntaf yn Butetown, Caerdydd, wedi ei hagor yn swyddogol heddiw gan Ddirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod y Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry a Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Ysgol Hamadryad\Official opening\190624YsgolHamadryad034_NTreharne.jpg

Mae'r ysgol newydd wedi ei hariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, drwy raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Band A gwerth £164m y ddinas.

Ymunodd plant, staff a llywodraethwyr â'r Pennaeth, Mrs Rhian Carbis, i groesawu gwesteion, gan gynnwys gwleidyddion lleol a phobl fu'n rhan allweddol o'r gwaith o godi'r ysgol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Ysgol Hamadryad sy'n cynrychioli buddsoddiad gwerth bron £10m yn y gymuned leol.

"A hithau'n gwasanaethu un o'r ardaloedd mwyaf amrywiol yng Nghymru, mae'n wych gweld ysgol Gymraeg yn dod i Butetown am y tro cyntaf tra'n darparu cyfleusterau rhagorol ac amgylchedd dysgu sy'n addas i'r 21ain Ganrif i'r plant.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Mae heddiw yn garreg filltir arall i addysg Gymraeg, nid dim ond ar gyfer y gymuned, ond i Gaerdydd yn gyffredinol.  Mae Ysgol Hamadryad yn esiampl o'r gwaith yr ydym yn ei wneud fel cyngor, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, i ddiwallu'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn ogystal â'n hymrwymiad parhaus i gyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Os ydym am gyflawni hyn, mae addysg, yn enwedig i blant o deuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg, yn hollbwysig."

Sefydlwyd Ysgol Hamadryad ym mis Medi 2016, mewn lleoliad dros dro ger Ysgol Gynradd Parc Ninian yn Grangetown. Agorodd yr ysgol newydd ei gatiau am y tro cyntaf yn ei chartref newydd ym mis Ionawr 2019 ac mae'n gwasanaethu ardaloedd Butetown, Treganna, Grangetown a Glan-yr-afon o Gaerdydd. 

Mae enw'r ysgol yn rhan o hanes yr ardal. Llong ysbyty oedd yr Hamadryad a oedd wedi'i hangori rhwng 1866 a 1905 ar Afon Taf, ger safle'r ysgol newydd.  

Gyda dau ddosbarth mynediad, gall yr adeilad newydd ddal hyd at 420 o ddisgyblion, a 48 o leoedd meithrin cyfwerth â llawn amser. Hefyd, mae'n cynnwys cyfleusterau sydd ar gael i'w defnyddio gan y gymuned leol ehangach gan gynnwys ardal gemau amlddefnydd, sydd ar gael i'w defnyddio y tu allan i oriau ysgol, ystafelloedd newid ac ystafell gymunedol.  

Dywedodd y Gweinidog dros Addysg Kirsty Williams, "Mae buddsoddi mewn projectau sydd wedi'u dylunio'n dda, ac sy'n gallu diwallu anghenion dysgwyr, athrawon a'r gymuned leol wrth wraidd ein rhaglen Ysgolion ac Addysg o'r 21ain Ganrif.

"Mae Ysgol Hamadryad yn esiampl berffaith o sut rydym yn buddsoddi mewn addysg Gymraeg i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Bydd yr ysgol newydd wych yn gweithredu fel hwb Cymraeg yng nghymuned Butetown, gan gynnig addysg Gymraeg o'r radd flaenaf i ddiwallu'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yr ardal." 

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Rhian Carbis: "Rwy'n hynod falch bod y diwrnod wedi cyrraedd i agor Ysgol Hamadryad yn swyddogol a dathlu hanes yr ysgol hyd yn hyn. Mae ein gweledigaeth i sefydlu ysgol amlddiwylliannol ac amlieithog gymunedol ragorol yma yn Butetown sy'n cynnig addysg Gymraeg i genedlaethau o blant yn cael ei gwireddu'n llwyddiannus. Gan ailadrodd ein harwyddair a chysylltu â hanes yr ysgol,Ysgol Hamadryad yw'r angor diogel cyn dechrau hwylio.

"Hoffwn i ddiolch i'n cymuned ysgol gyfan - llywodraethwyr, staff, rhieni ac yn bwysicaf oll y plant - am groesawu a chefnogi addysg Gymraeg a sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn y rhan hon o'r ddinas."

Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd gam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ddiwedd y llynedd.Gwerth £284m, mae Band B yn cynrychioli'r buddsoddiad sengl mwyaf yn ysgolion Caerdydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry:"Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru rydym eisoes wedi darparu ystod eang o ysgolion yn y blynyddoedd diwethaf.  Mae'r buddsoddiad £284m diweddaraf yn un o'r buddsoddiadau mwyaf y mae Caerdydd erioed wedi'i weld a bydd yn ein galluogi i adfywio ein hysgolion, creu rhai newydd yn lle'r rhai sy'n dod i ddiwedd eu hoes, a darparu rhagor o leoedd ysgol ymhob sector, gan greu'r adnoddau ychwanegol y mae eu hangen wrth i boblogaeth Caerdydd dyfu."