The essential journalist news source
Back
20.
June
2019.
Gorymdaith i ddathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg


Bydd gorymdaith i ddathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn teithio drwy ganol y ddinas ar ei ffordd i Gastell Caerdydd a gŵyl Gymraeg deuluol y ddinas, Tafwyl, sydd am ddim.

Bydd yr orymdaith yn cael ei harwain gan gyn-ddisgyblion o ysgol Gymraeg gyntaf Caerdydd, Ysgol Gymraeg Caerdydd.

Agorodd Ysgol Gymraeg Caerdydd ei drysau ar 5 Medi 1949 mewn ystafell ddosbarth yn Ysgol Fechgyn Parc Ninian (Ysgol Gynradd Parc Ninian erbyn hyn) gyda dim ond 19 o ddisgyblion ar y gofrestr. Symudodd i safle yn Highfields, Llandaf yn ddigon buan (gan fabwysiadu enw mwy cyfarwydd, Ysgol Gymraeg Bryntaf), sydd wedi bod yn gartref i Ysgol Pencae ers 1991.Fis Medi yma, bydd dros 700 o ddisgyblion yn dechrau mewn Dosbarthiadau Derbyn yn un o'r 15 o ysgolion cynradd Cymraeg a dwy ysgol gynradd dwy ffrwd ledled y ddinas.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas a fydd yn cyfarch yr orymdaith cyn iddi ddechrau ar ei thaith o lawntiau Neuadd y Ddinas am 10am ddydd Sadwrn (22 Mehefin): "Mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu yng Nghaerdydd ac mae'n anrhydedd cael bod yn rhan o'r dathliad hwn sy'n nodi 70 mlynedd o addysg Gymraeg yn y brifddinas.

"Ry'n ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg wedi ei gwreiddio ym mywyd bob dydd y ddinas - ry'n ni'n mynd ati i annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, yn datblygu mesurau i sicrhau niferoedd cydradd o enwau strydoedd Cymraeg a Saesneg yn y ddinas ac yn annog busnesau a sefydliadau partner i ddilyn ein hesiampl ni ac ymrwymo i gynyddu eu defnydd nhw o'r Gymraeg - ond mae addysg yn gwbl allweddol."

"Ry'n ni wedi sicrhau twf sylweddol o ran addysg Gymraeg ac erbyn hyn mae dros 8000 o ddisgyblion yn dysgu pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg bob dydd. Bydd y ffigwr yna'n cynyddu - ar ddiwedd 2018 fe agoron ni ein hysgol gynradd Gymraeg diweddaraf yn swyddogol, Ysgol Glan Morfa, gan ddyblu'r ddarpariaeth Gymraeg yn Sblot. Cafodd Ysgol Hamadryad yn Butetown hefyd ei symud yn gynharach eleni. Mae ganddi nawr gyfleusterau newydd i 60 o ddisgyblion fesul grŵp blwyddyn, ac mae darpariaeth Gymraeg ychwanegol wedi'i chynnwys yn ein Cynllun Datblygu Lleol."

"Ry'n ni'n falch o chwarae ein rhan i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a byddwn ni'n parhau i weithio'n galed i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd, ond mae addysg Gymraeg wedi dod yn bell iawn dros y 70 mlynedd ddiwethaf ac mae hynny'n bendant yn rhywbeth i'w ddathlu."

Bydd cynrychiolaeth o bob ysgol Gymraeg yn y ddinas ar yr orymdaith a fydd yn cael ei chroesawu i ŵyl Tafwyl gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, sydd ei hun yn gyn-ddisgybl yn ysgolion Bryntaf a Glantaf.

Mae Tafwyl, sy'n cael ei threfnu gan Menter Caerdydd a'i chefnogi gan Gyngor Caerdydd, wedi tyfu o fod yn ŵyl fechan yn 2006 i fod yn gymysgedd bywiog o gerddoriaeth, llenyddiaeth, drama, comedi, y celfyddydau, chwaraeon, bwyd a diod. Denodd yr ŵyl dros 40,000 o bobl yn 2018, yn siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, a chafodd ei henwi fel ‘Gŵyl Orau Caerdydd' yng Ngwobrau Cerddoriaeth Caerdydd 2018.

Eleni mae Tafwyl yn cynnwys cerddoriaeth gan Gwenno, HMS Morris a The Gentle Good, disgo distaw, cerddi dychrynllyd yn yr Is-grofft, Awr Gomedi, Amser Odli Cymraeg i rieni a phlant, sesiynau ar ddulliau dysgu ail iaith, cyfleoedd i weithio ar eich ynganu a llawer mwy.

Mae amserlen lawn yr ŵyl a rhagor o wybodaeth am Tafwyl ar gael yn www.tafwyl.org