The essential journalist news source
Back
17.
June
2019.
MBE i ŵr yr afonydd yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

Mae aelod sefydlu Grŵp Afonydd Caerdydd, Dave King, wedi derbyn MBE yn rhestrAnrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am "wasanaethau i'r amgylchedd".

Sefydlodd Dave Grŵp Afonydd Caerdydd yn 2009, a deng mlynedd yn ddiweddarach mae'r grŵp wedi mynd o nerth i nerth. Mae ganddo bwyllgor brwd a thros 600 o gefnogwyr a gwirfoddolwyr ymhlith ei aelodau. Mae'n gweithio gyda sefydliadau a chwmnïau amrywiol, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Viridor, Gwasanaethau Parciau Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Carwch Eich Cartref, McDonald's a Heddlu De Cymru.

Yn ogystal â sefydlu Grŵp Afonydd Caerdydd, dechreuodd Dave hefyd Cadw Grangetown yn Daclus ac roedd yn allweddol i'r gwaith o sefydlu Cadw Sblot yn Daclus hefyd. Sefydlodd hefyd ‘Dusty Shed' - elusen sydd â'r nod o helpu dynion sydd wedi eu hynysu'n gymdeithasol.

Dywedodd Dave: "Ges i sioc ryfeddol pan ddaeth y llythyr o Swyddfa'r Cabinet. Roedd fy ngwraig a'm tad yn eu dagrau pan glywson nhw. Mae wedi bod yn hyfryd, yn emosiynol iawn. Mae pobl wedi bod yn garedig iawn i fi."

"Pan symudon ni i Gaerdydd o Surrey 11 mlynedd yn ôl, ro'n ni'n byw ger Trem y Môr, ac roedd yr olygfa'n hyfryd, ond ro'n i'n synnu o weld faint o sbwriel oedd yn Afon Taf. Felly cysylltais â Cadwch Gymru'n Daclus er mwyn helpu i godi sbwriel, ac mae wedi datblygu o hynny. Mae wedi bod yn wych, dwi wrth fy modd!"

"Mae'r Grŵp Afonydd yn fwy na chasgliad o bobl sy'n codi sbwriel. Mae'n gyfle i adael y tŷ, cwrdd â ffrindiau newydd, a gwneud gwahaniaeth. Rydyn ni wedi helpu pobl i baratoi at gael swyddi hefyd, felly rydyn ni'n grŵp cymdeithasol, yn rhwydwaith."

"Dwi'n meddwl bod gweithio mewn partneriaeth yn hollbwysig. Mae ein perthynas â Chyngor Caerdydd yn un ardderchog; rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i gyflawni pethau."

"Mae'r enwebiad hwn wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i fi, mae wedi bod yn fendigedig. Rydyn ni'n mynd ar ein gwyliau yr wythnos nesa, a phan fyddwn ni nôl, bydda i'n ysu i fynd nôl ati a thorchi llewys".

Llongyfarchiadau Dave a diolch am wneud cymaint o wahaniaeth i Gaerdydd. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn un gwbl haeddiannol.

Wedi'ch ysbrydoli? Ymunwch! Mae rhagor o wybodaeth a manylion am ddigwyddiadau  Grŵp Afonydd Caerdydd  ac mae gwybodaeth am wirfoddoli ar  Cadw Caerdydd yn Daclus.