The essential journalist news source
Back
7.
June
2019.
Caerdydd yn cyrraedd y nod fel Dinas Ddwyieithog

 

Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i wneud cynnydd cadarnhaol tuag at ei weledigaeth o ddatblygu prifddinas gwirioneddol ddwyieithog.

 

Mae adroddiad Safonau'r Gymraeg y Cyngor ar gyfer 2018/19 yn amlinellu perfformiad cyffredinol dda yr awdurdod yn cydymffurfio â'r safonau a'r modd mae ei Strategaeth Ddwyieithog Caerdydd pum mlynedd, sydd wedi ei ganmol fel esiampl i'w hefelychu ymhlith awdurdodau lleol, yn helpu i feithrin ac annog defnydd o'r Gymraeg yn y ddinas, ac o fewn ei weithlu ei hun.

 

O dan Safonau'r Gymraeg, mae gofyn i'r Cyngor gyhoeddi'r adroddiad blynyddol sydd yn rhoi manylion am gydymffurfiaeth y Cyngor â'r safonau.Ystyrir y cynigion gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf a gynhelir ddydd Iau 13 Mehefin.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:Mae'r Gymraeg yn ffynnu yn y brifddinas ac mae llawer i'w ddathlu gennym wrth i ni weithio tuag at wreiddio'r iaith yn ddiwnïad yn hanfod bywyd y ddinas a chynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg dros amser.

 

"Mae addysg Gymraeg yn parhau i dyfu'n sylweddol a bydd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn yrrwr allweddol er mwyn sicrhau datblygiad yr iaith yn y dyfodol.Rydym yn weithredol annog defnydd ar yr iaith ymhlith staff wrth iddyn nhw gyflawni eu gwaith o ddydd i ddydd yn ogystal â hyrwyddo'r Cyngor fel cyflogwr Cymraeg mewn ysgolion ar gyfer gweithlu'r dyfodol.

 

"Gyda mesurau fel ein Polisi Enwi Strydoedd Drafft sydd â'r nod o sicrhau niferoedd cydradd o strydoedd Cymraeg a Saesneg yn ogystal ag argymhellion cynllunio sydd ar y gweill o ran arwyddion blaen siopau dwyieithog, rydym yn gwneud cynnydd da ac yn awyddus i annog busnesau a sefydliadau partner yn y ddinas i'n dilyn ac ymrwymo i gynyddu eu defnydd ar y Gymraeg yn ogystal."

 

Mae'r adroddiad blynyddol yn amlinellu'r modd y defnyddiwyd Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog yn Seminar Arferion Llwyddiannus Comisiynydd y Gymraeg fel ‘un o'r enghreifftiau mwyaf llwyddiannus o strategaeth awdurdod lleol 5 mlynedd a hynny oherwydd strwythur gydymffurfio gref, gweledigaeth glir, ymgynghori helaeth, a chyfathrebu.'

 

Mae'r strategaeth yn targedu cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd 15.9% i 42,584 erbyn cyfrifiad 2021 er mwyn i'r brifddinas chwarae ei rhan tuag at gyrraedd y nod cenedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Mae barn y Comisiynydd yn nodi bod ‘Cyngor Caerdydd wedi gosod ei ymrwymiadau ger bron yn eglur i gyfrannu at weledigaeth Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg' ac mae ‘effaith y strategaeth i'w gweld yn barod'.

 

Yn dilyn adolygiad annibynnol o'r strategaeth y llynedd a gydnabu seiliau cryf a chydymffurfiaeth gref, mae cynllun gweithredu diwygiedig wedi ei gynnwys yn yr adroddiad er mwyn cryfhau ymhellach weithrediad y strategaeth.

 

Mae uchafbwyntiau eraill o fewn yr adroddiad yn cynnwys Gŵyl Tafwyl llwyddiannus yn 2018, gyda dros 40,000 yn mynychu a dychweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i'r brifddinas ym mis Awst - dau ddigwyddiad a gefnogwyd gan Gyngor Caerdydd.

 

Cyfieithodd staff Caerdydd ddwyieithog nifer diguro o 11,488,333 o eiriau'r llynedd, lansiwyd rhwydwaith staff Cymraeg newydd, C4 (Clwb Cymraeg Cyngor Caerdydd), ar Ddydd Gŵyl Dewi ac fe gynyddodd nifer y staff sydd wedi eu cofrestru â sgiliau Cymraeg 22.5% ers 2017/18.