The essential journalist news source
Back
6.
June
2019.
Gwobr ‘Hyrwyddwyr Lleoedd Byw’ i Gyngor Caerdydd am ei ymrwymiad i’r Cyflog Byw Gwirioneddol

 


Enillodd Cyngor Caerdydd wobr fawreddog am ei ymrwymiad i'r Cyflog Byw Gwirioneddol yng Ngwobrau Hyrwyddwyr Cyflog Byw blynyddol neithiwr yn Llundain.
 

Rhoddwyd y Wobr Hyrwyddwyr Lleoedd Byw i'r awdurdod yn sgil ei waith llwyddiannus wrth annog y Cyflog Byw Gwirioneddol, sef y gyfradd fesul awr a gyfrifir yn annibynnol sy'n seiliedig ar gostau byw. Y gyfradd ar hyn o bryd yw £9 ledled y DU a £10.55 yn Llundain.

 

Dechreuodd y Cyngor dalu'r Cyflog Byw i'w weithlu cyfan yn 2012 ac ers cael yr achrediad Cyflog Byw yn 2015, mae wedi mynd ati i hyrwyddo'r gyfradd wirfoddol hon ledled Caerdydd, gan gynnwys drwy ei Gynllun Cymorth Achredu'r Cyflog Byw er mwyn annog mwy o fusnesau bach a chanolig i dalu'r Cyflog Byw, a hynny drwy dalu am eu costau achrediad am dair blynedd.

 

Mae'r awdurdod wedi bod yn allweddol wrth gynyddu nifer y cyflogwyr achrededig yng Nghaerdydd o 20 yn 2015 i 93 yn 2019, sy'n cynrychioli tua 46% o gyfanswm y cyflogwyr achrededig yng Nghymru gyfan. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:"Rydym yn falch dros ben o fod yn gyflogwr Cyflog Byw ac o fod wedi ennill y Wobr Hyrwyddwyr Lleoedd Byw hon. Rydym yn ymroddedig iawn i hyrwyddo'r Cyflog Byw yng Nghaerdydd gan ein bod yn cydnabod bod angen i'n staff ennill cyflog sy'n ddigon i dalu'r costau a'r pwysau maent yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd.

 

"Ein nod yw dod yn Ddinas Cyflog Byw erbyn diwedd eleni, yr ail ddinas yn unig yn y DU ar ôl Dundee, a'r brifddinas gyntaf yn y DU. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ragor o sefydliadau ledled Caerdydd ddod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig. Gwyddom fod nifer o sefydliadau yng Nghaerdydd eisoes yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'w staff, a byddai'n wych pe bai modd iddynt gefnogi Caerdydd a dod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig. Mae'r broses achredu yn syml ac mae cefnogaeth ar gael gan Cynnal Cymru a'r Sefydliad Cyflog Byw.

 

"Rydyn ni'n awyddus i ddylanwadu ar fusnesau'r ddinas i ddangos yr arferion cyflogaeth da hyno fewn eu sefydliadau eu hunain a hoffwn weld y Cyflog Byw yn dod yn rhan o'u gwead, yn yr un modd y mae bellach wedi'i ymgorffori o fewn arferion a strategaethau'r Cyngor ei hun."

 

Mae'r Cyngor wedi ymuno â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru:Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru sy'n golygu annog cyflenwyr i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol ac mae wedi diwygio ei ddogfennaeth tendr i ofyn ystod o gwestiynau ar arferion gwaith teg i sefydliadau sy'n cyflwyno tendr, gan gynnwys a ydynt yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

 

Dywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw:"Roedd hi'n flwyddyn arbennig o lwyddiannus i'r Sefydliad Cyflog Byw y llynedd ar ôl cyrraedd Achrediad Cyflog Byw rhif 5,000.Mae ein gwobrau'n gyfle i gydnabod y busnesau ardderchog sy'n parhau i weld pwysigrwydd rhoi cyflog sydd wir yn talu costau byw, a gwerth hyn i weithwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â busnesau."

 

Am ragor o wybodaeth am GynllunCymorth Achredu'r Cyflog Byw, ewch i

 

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Y-Cyflog-Byw/Pages/default.aspx