The essential journalist news source
Back
5.
June
2019.
Beicio i Bawb Pedal Power Caerdydd
Ar ôl llwyddiant digamsyniol Diwrnod Dim Ceir Caerdydd y mis diwethaf, pan fu miloedd o bobl yn mwynhau'r rhyddid o feicio drwy ganol di-geir y ddinas, rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad beicio gwych arall - ‘Beicio i Bawb' Pedal Power.

Mae Beicio i Bawb yn golygu hynny yn union - taith feics sy'n cynnwys pawb, o bob gallu ac oedran lle'ch gwahoddir i fynd ar gefn eich ceffyl haearn ac ymuno â Pedal Power i ddangos eich cefnogaeth o feicio cynhwysol ar ddydd Sadwrn 8 Mehefin.

Bydd y daith yn mynd o gwmpas rhai o adeiladau eiconig Caerdydd gan gynnwys Neuadd y Ddinas, Castell Caerdydd, Sgwâr Callaghan, Canolfan Mileniwm Cymru, y Senedd a Morglawdd Bae Caerdydd, ac fe'i rhennir yn dri llwybr. Mae Llwybr A yn 1.5 milltir o hyd ac yn mynd â chi o Neuadd y Ddinas i Gastell Caerdydd, gan orffen yn Pedal Power ym Mhontcanna. Mae Llwybr B yn 2.5 milltir o hyd ac yn dilyn Llwybr A tan Gastell Caerdydd, yna'n mynd i Fae Caerdydd a'r Senedd. Dyma ddechrau Llwybr C lle gall pobl ymuno neu adael y daith, a pharhau o amgylch y Morglawdd gan ddilyn Taith Taf yn ôl i Pedal Power ym Mhontcanna, i gyflawni'r llwybr 9 milltir llawn, erbyn 4pm.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth:"Mae "Beicio i Bawb Pedal Power Caerdydd" yn ddigwyddiad gwych gan sefydliad unigryw sy'n cefnogi uchelgais y cyngor i fod yn brif ddinas beicio'r DU.

"Mae beicio yn fwy poblogaidd nag erioed yng Nghaerdydd. Rydyn ni ar fin dyblu'r nifer o nextbikes yn y ddinas, rydyn ni wedi dechrau adeiladu rhwydwaith beicffyrdd, ac mae mwy o ddisgyblion ysgol yn derbyn sesiynau beicio.

"Ond er ein bod yn cyflwyno newidiadau mawr i wella'r seilwaith seiclo, rydym yn gwybod bod mynd ar feic yn syniad heriol i lawer o bobl. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda chyrff fel Pedal Power i sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl gael budd o feicio.

"Mae gan Pedal Power le pwysig yng nghalonnau pobl Caerdydd, ac mae'n gwella bywydau pobl mewn sawl ffordd bob dydd.Gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn ymuno â Beicio i Bawb Pedal Power ar 8 Mehefin i fwynhau'r buddion a ddaw o feicio, a hynny er achos da iawn".

Er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad ewch ihttps://www.cardiffpedalpower.org/

Gofynnir i bawb sy'n cofrestru i gyfrannu £6, gyda'r arian yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn Pedal Power, yr elusen arobryn sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau a darpariaeth sydd â'r nod o alluogi pawb i fwynhau buddion beicio, cynhwysiant cymdeithasol a gweithgareddau iechyd a lles.  

Dywedodd Sian Donovan, Cyfarwyddwr Pedal Power Caerdydd: "Rydym yn wrth ein boddau y bydd ein digwyddiad Beicio i Bawb mor ganolog a gweladwy o amgylch canol dinas Caerdydd a'r Bae.Rydyn ni'n credu y dylai beicio gynnwys pawb, ac rydyn ni am wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod bod Pedal Power yma i wneud hynny'n bosibl - y ffordd berffaith i ddechrau'r Wythnos Feicio Genedlaethol!Po fwyaf y bobl sy'n ymuno ar y diwrnod y gorau, ond mae ein her Pedal 4 Pedal Power yn golygu bydd mis Mehefin i gyd yn gyfle i ddangos eich cefnogaeth drwy feicio a chodi arian."

Mae'r 8fed o Fehefin hefyd yn ddechrau Wythnos y Beic, Cycling UK, sy'n ddathliad blynyddol o feicio ac yn dangos sut gall mynd ar gefn beic fod yn rhan hawdd o fywyd pob dydd.

Pedal 4 Pedal Power #p4p yw eich cyfle chi i helpu i roi'r cyfle i bawb i fwynhau beicio, drwy gael eich noddi i feicio 4 cilometr yn ystod mis Mehefin.  Gallwch feicio yn unman, ar y ffordd, oddi ar y ffordd, yn y parc neu ar lwybrau lleol. Am gymorth i gynllunio eich taith, beicio i'r ysgol neu'r gwaith, ble i logi beics a gwybodaeth am hyfforddiant beicio i oedolion hyd yn oed, ewch icadwcaerdyddisymud.co.uk

Mae Pedal Power yn cynnig beicio i bawb, beth bynnag yw gallu neu anabledd y person, ac mae arnynt angen eich help i barhau i gynnig yr hyn sydd ganddynt. Mae 100% o'r arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at alluogi pobl i fwynhau buddion beicio.

Am ragor o wybodaeth ewch iwww.cadwcaerdyddisymud.co.uk

Ymunwch â ni - Twitter #p4p #cadwcaerdyddisymud