The essential journalist news source
Back
3.
June
2019.
Cyngor teithio ar gyfer Cyngerdd Take That ar 8 Mehefin

Bydd Take That yn perfformio yn Stadiwm Principality fel rhan o'u taith Greatest Hits ar ddydd Sadwrn 8 Mehefin.

Ar sail diogelwch y cyhoedd, bydd ffyrdd yn cau yn rhannol yng nghanol y ddinas o 5.30pm tan 11.30pm.

Dylai pawb sydd â thocyn nodi y bydd gwiriadau diogelwch manwl ar waith wrth fynd i mewn i'r stadiwm.Cynghorir mynychwyr i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau sydd wedi'u gwahardd yn principalitystadium.wales cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r gyffordd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Despenser Street o'r gyffordd â Stryd Clare
  • Arglawdd Fitzhamon - bydd mynediad i fysiau a phreswylwyr yn cael ei gynnal
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy'r dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio i'r digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

SYLWER: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd ger Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Cynghorir cefnogwyr felly i gynllunio i gyrraedd y stadiwm mewn da bryd, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau sydd wedi'u gwahardd yn www.principalitystadium.cymru

Trenau

Mae Network Rail yn cynghori cwsmeriaid y bydd gwaith peirianegol yn mynd rhagddo yn yr oriau mân ar fore dydd Sul, a fydd yn effeithio ar rai gwasanaethau hwyr y nos ar nos Sadwrn a fydd yn teithio i'r dwyrain allan o Gaerdydd.

Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw yn www.nationalrail.co.uk neu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd. Dylai'r rhai sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r cyngerdd deithio yma mor gynnar â phosibl.

Bydd system reoli tyrfaoedd llawn ar waith yng Nghanol y ddinas a bydd Gorsaf Heol y Frenhines yn cau wedi diwedd y digwyddiad. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch iwww.tfwrail.wales/events   

Parcio a Theithio ar gyfer y Digwyddiad

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.

I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i -https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/cars-park-ride-and-premium-parking-for-take-that-16309

Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresilian, y tu ôl i'r orsaf drenau.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Os cadwch le ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 10.30am, gyda'r safle yn agor am 10.30am a'r bws cyntaf yn gadael am 11.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 11.30pm a bydd y maes parcio'n cau am hanner nos.

Traffyrdd a chefnffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir pawb sydd â thocynnau i gynllunio ymlaen llaw gan roi ystyriaeth i draffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Pris: £15 i'w dalu ar y diwrnod yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

SYLWER: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 6.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Pris: Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £15, neu £12 ar y diwrnod (arian parod yn unig). I gadw lle parcio ymlaen llaw, cliciwch ar: https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/coaches-park-ride-and-premium-parking-for-take-that-16310

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Pris: £25 ar y dydd (arian parod yn unig) neu £25 os cadwch le o flaen llaw -https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/coaches-park-ride-and-premium-parking-for-take-that-16310

Amseroedd parcio: Mae'r maes parcio ar agor am 7.30am a bydd ar agor am 8am ac mae'n rhaid i bob car fod oddi yno neu wedi arddangos tocyn talu ac arddangos erbyn 8am ddydd Sul, 9 Mehefin.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall pobl sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio.  Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau o 5.30pm.
 
Mae Bws Caerdydd yn rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid y caiff gwasanaethau eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd o 5.30pm.Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.

Gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth am wasanaethau Bws Caerdydd yma -https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
 

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer. 

 

 

 

{0>