The essential journalist news source
Back
21.
May
2019.
Caerdydd sy’n Deall Dementia – Wythnos Gweithredu ar Ddementia 2019


Mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi'r Wythnos Gweithredu ar Ddementia eleni gyda chyfres o ddigwyddiadau ledled y ddinas.

 

Mae'r Cyngor yn rhan o broject Caerdydd sy'n Deall Dementia sy'n ceisio gwneud Caerdydd yn gymuned sy'n deall dementia.

 

Y thema yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia (Mai 20-26) eleni yw 'dechrau'r sgwrs' am y glefyd a sut gall cymunedau gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia i fyw'n dda, a bydd llawer o gyfleoedd i siarad mewn rhai caffis dementia, sesiynau canu cymdeithasol ac amser stori mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn ystod yr wythnos.

 

Yng nghalon ein cymunedau lleol, mae ein hybiau a llyfrgelloedd yn cynnig llwyth o adnoddau ar iechyd a llesiant, yn ogystal â chynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i annog cyfranogiad cymunedol.

 

Cynhelir sesiynau amser stori ar wahanol themâu mewn hybiau a llyfrgelloedd i helpu plant i ddeall yn well sut mae byw gyda dementia, a bydd Goldies Cymru sy'n cynnal y sesiynau canu a gweithgareddau cymdeithasol yn annog pobl i hybu eu llesiant drwy ymarfer eu tannau llais.  

 

Mae nifer o gaffis dementia mewn hybiau a llyfrgelloedd yn y ddinas eisoes, gan gynnwys caffis rheolaidd yn Hyb y Llyfrgell Ganolog a Llyfrgell Treganna a threfnir hyd yn oed rhagor o gaffis ar draws y ddinas yr wythnos hon.Mae'r caffis yn estyn croeso cynnes i bobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd gael mwynhau paned a chael cyfle i gwrdd ag eraill, cael gwybodaeth a dysgu am wasanaethau mewn amgylchedd cymdeithasol.

 

Hefyd bydd ein hybiau a llyfrgelloedd yn hyrwyddo cystadleuaeth Llyfrgelloedd Cymru ledled y wlad ar gyfer plant ysgol dan 16 oed. Maent i ysgrifennu stori ar y thema atgofion heb fod dros 480 o eiriau, sef nifer y bobl sy'n datblygu dementia bob dydd yn y DU.

 

Y wobr am y cais buddugol yw taleb £50 yn ogystal â 480 o lyfrau i ysgol yr enillydd.Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw 15 Awst 2019 a gellir rhoi ceisiadau i'ch llyfrgell leol neu eu hanfon drwy e-bost idealldemensia@caerdydd.gov.uk

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Rydym ni'n hynod falch o gefnogi Wythnos Gweithredu Ar Ddementia eleni a dyma gyfle i bwysleisio ein hymrwymiad i helpu pobl i ddatblygu cymunedau sy'n deall dementia ledled Caerdydd lle mae pobl yn byw gyda'r clefyd ac mae eu teuluoedd yn teimlo bod cefnogaeth iddynt fyw'n dda yno.

 

"Eleni, yn ystod Wythnos Gweithredu Ar Ddementia, mae galw ar bobl ddechrau siarad am ddementia a chynnwys pobl sy'n bwy gyda dementia yn y deialog.Rwy'n falch o ddweud ein bod ni eisoes yn gwneud hynny,  drwy ein digwyddiadau deall dementia rheolaidd yn ein lleoliadau ledled y ddinas, a thrwy waith Caerdydd sy'n Deall Dementia.

 

"Mae'r Cyngor hefyd yn chwilio am ffyrdd i ddeall dementia yn well fel sefydliad ei hun, drwy godi ymwybyddiaeth ymhlith y staff a'u cefnogi i fod yn Gyfeillion Dementia."  

 

Yn rhan o'r Gwaith Caerdydd sy'n Deall Dementia, mae ymgynghoriad ar y gweill ar greu gwefan deall dementia newydd i ddarparu gwybodaeth yn cefnogi'r bobl hynny y mae dementia yn effeithio arnynt i fyw'n well.

 

Caiff y wefan ei defnyddio hefyd i hyrwyddo busnesau sy'n rhan o'r project a'r gwaith y maent yn ei wneud gan gefnogi'r bobl sy'n byw gyda dementia i ddefnyddio eu busnesau. 

 

Mae tri arolwg: un i'r rhai sy'n byw gyda dementia, un i bartneriaid sy'n ymwneud â gwaith perthnasol i ddementia ac un i fusnesau.

I'r rheiny sy'n byw gyda dementia https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=155490348354

 

I bartneriaid

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=155497420779

 

I Fusnesau

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=155497087432

 

Mae copïau caled o'r arolwg hefyd ar gael mewn hybiau cymunedol a llyfrgelloedd ledled y ddinas.Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 1 Mehefin.