The essential journalist news source
Back
14.
May
2019.
Llyfrgell yr Eglwys Newydd yn ennill gwobr Hoop


 

Mae wedi'i ddatgelu bod llyfrgell Caerdydd yn un o'r darparwyr gorau o weithgareddau plant yn y ddinas gan y wefan weithgareddau i deuluoedd, Hoop.

 

Rhannodd Hoop arolygon â 22,000 o rieni ledled y DU i greu rhestr o'r gweithgareddau gorau i blant ym mhob rhan o'r wlad, gyda Llyfrgell yr Eglwys Newydd yn cael clod yn y categori Gweithgareddau am Ddim Gorau yng Nghaerdydd.

 

Mae Gwobrau Hoop yn dathlu'r bobl a'r sefydliadau sy'n gwneud mwy na'r gofyn i ddiddanu, addysgu ac ysbrydoli plant ledled Caerdydd.Mae teuluoedd yn pleidleisio am eu hoff weithgareddau sy'n helpu ein teuluoedd eraill ddod i wybod am y gweithgareddau gorau sydd gan Gaerdydd i'w cynnig i blant o bob oedran.   

 

Cydnabuwyd Llyfrgell yr Eglwys Newydd am y gweithgareddau am ddim sydd ar gael gan gynnwys Amseroedd Odli ac Amseroedd Straeon Cymraeg a Saesneg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Dyma newyddion gwych i Lyfrgell yr Eglwys Newydd.Rydym yn falch o gael ein cydnabod gyda'r wobr hon a gwybod bod pobl sy'n dod i'r llyfrgell â barn gadarnhaol ar ein gweithgareddau am ddim i blant .

 

"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r grŵp Cyfeillion ‘AWEN' yn yr Eglwys Newydd sy'n helpu i hwyluso a darparu gwirfoddolwyr i gefnogi'r digwyddiadau a'r gweithgareddau rydym yn eu cynnal yn y llyfrgell. Mae'r wobr hon yn cydnabod eu cyfraniad pwysig hefyd."

 

Mae'r Cyngor yn cynnig gweithgareddau am ddim i blant yn ei Hybiau a'i lyfrgelloedd ledled y ddinas.

 

Dywedodd Max Jennings, un o Sefydlwyr Hoop:"Ein cenhadaeth yw helpu rhieni i ddod allan o'r tŷ a chynnig iddynt ystod o weithgareddau hwyl sy'n addas i'w teulu, p'un ai a oes ganddynt faban newydd ei eni neu a ydynt yn chwilio am weithgareddau i lenwi gwyliau'r ysgol.Rydym yn dibynnu ar awydd, brwdfrydedd ac ymroddiad ein trefnwyr Hoop ac yn mwynhau cael y cyfle i wobrwyo'r bobl hynny sy'n gwneud mwy na'r gofyn i ysbrydoli ac addysgu'r genhedlaeth nesaf."