The essential journalist news source
Back
14.
May
2019.
Cyngor ar Deithio ar gyfer Monster Jam yn Stadiwm Principality

Ddydd Sadwrn, 18 Mai, bydd rhai strydoedd yng nghanol y ddinas yn cael eu cau o 1pm tan 7pm ar gyfer y digwyddiad Monster Jam yn Stadiwm Principality. Bydd y brif sioe yn cychwyn am 3pm ac yn gorffen am 5pm.

Dylai pob deiliaid tocyn nodi y bydd trefniadau diogelwch estynedig ar waith wrth fynd i mewn i'r stadiwm. Cynghorir cefnogwyr i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir ynprincipalitystadium.walescyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas (12.30pm tan 8.30pm)

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Despenser Street o'r gyffordd â Clare Road.
  • Fitzhamon Embankment (cedwir mynediad i fysus a phreswylwyr.)
  • Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Noder: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Cynghorir cefnogwyr felly i gynllunio i gyrraedd y stadiwm mewn digon o amser, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau na chaniateir arwww.principalitystadium.cymru 

Trenau

Mae Network Rail yn hysbysu cwsmeriaid na fydd Gwaith peirianneg sylweddol yn effeithio ar y  prif linellau gwasanaeth i Gaerdydd. Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith o flaen llaw ynwww.nationalrail.co.uk neu wrth ffonio Travel Line Cymru ar 0800 464 0000.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio'i holl gwsmeriaid bod disgwyl y bydd y trenau yn ardal Caerdydd yn brysur iawn trwy'r dydd. Cynghorir y rhai sy'n teithio i'r ddinas i weld y digwyddiad i gyrraedd cyn gynted â phosibl.

 

Bydd system rheoli traffig lawn yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd.

Bydd Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn aros ar agor yn ystod y digwyddiad hwn. Am ragor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch iwww.tfwrail.wales/events   

Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir mynd yno o gyffordd 33 yr M4 ac yna dilyn yr arwyddion i'r safle.

I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i -https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/coaches-park-ride-and-premium-parking-for-monster-jam-16306

Y man gollwng yw Fitzhamon Embankment.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am a bydd y safle yn agor am 9.00am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 7pm a bydd y maes parcio'n cau am 7.30pm.

Traffyrdd a phriffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw  gan roi ystyriaeth i draffyrdd a phriffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4

Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 6.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau a adawir yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £15, neu £12 ar y diwrnod (arian parod yn unig). I gadw lle parcio ymlaen llaw, cliciwch ar: https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/cars-park-ride-and-premium-parking-for-monster-jam-16305

Parcio Diwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (bysus mawr)

Cost: £25 yn daladwy ar y dydd (arian parod yn unig) neu £25 wrth archebu o flaen llaw -https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/coaches-park-ride-and-premium-parking-for-monster-jam-16306

Amser parcio: Mae'r maes parcio'n agor am 7.30am a bydd yn rhaid i bob car fod wedi ei symud neu ddangos tocyn talu ac arddangos erbyn 8am ddydd Sul Mai 19.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio.  Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.

Parcio i Bobl Anabl

Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 1pm ac yn ailagor am 7pm.

Bws

Mae Bws Caerdydd yn hysbysu ei holl gwsmeriaid y bydd y gwasanaethau'n gwyro oddi wrth safleoedd bws canol y ddinas o 1pm tan 7pm. Bydd bysus a gaiff eu symud o safleoedd yn y safle fydd ar gau yn nail ai Ffordd Churchill ar gyfer y dwyrain, Ffordd y Brodyr Llwydion ar gyfer y gogledd neu Stryd Tudor ar gyfer y gorllewin.

Mae'r holl wybodaeth am wasanaethau Bws Caerdydd ar gael yma -https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
 
National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.