The essential journalist news source
Back
10.
May
2019.
Goleuadau stryd LED i’w gosod mewn ardaloedd preswyl

Mae disgwyl i ardaloedd preswyl ym mhob cwr o Gaerdydd fanteisio ar gyflwyno 23,750 o oleuadau stryd LED newydd a fydd yn arbed bron iawn i hanner miliwn o bunnoedd i'r cyngor o ran costau ynni bob blwyddyn a lleihau allyriadau carbon deuocsid (CO2) y cyngor 836 tunnell y flwyddyn.

Mae hyn yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus mewn rhan breswyl o bentref Radur a throsi dros 13,000 o lusernau ar y brif rwydwaith priffyrdd.

Dwedodd Andrew Gregory, Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd: "Mae hyn yn newyddion da i'r ddinas a bydd yn chwarae rhan bwysig yn helpu i ddatblygu ein hagenda ‘Dinas Glyfar'. Mae modd pylu a chynyddu'r golau a ddaw o'r goleuadau hyn yn unigol yn ôl yr angen. Mae'r golofn oleuo yn defnyddio technoleg ‘clyfar' i yrru negeseuon yn ôl i'r pencadlys ynghylch unrhyw fethiannau, felly byddwn ni gyd yn gwybod pan fo golau yn torri a bydd modd trefnu i'w drwsio heb orfod aros i breswylwyr gysylltu â ni am y mater.

 "Rwyf am i breswylwyr wybod ein bod wedi gwneud llawer o waith ac wedi ymgynghori â grwpiau â diddordeb ac ymgyrchwyr er mwyn sicrhau bod lliw a disgleirdeb goleuadau ein cynllun yn addas a diogel. Caiff y goleuadau eu pylu o hanner nos tan chwech y bore er mwyn sicrhau nad effeithir ar gwsg preswylwyr, ond mae'r gallu gennym i gynyddu'r golau os bydd angen - os bydd damwain er enghraifft a'r gwasanaethau brys angen mwy o olau i'w cynorthwyo i gyflawni eu gwaith.

"Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd, felly mae angen i ni gymryd pob cam y gallwn i leihau'r carbon a gynhyrchwn."

Gosodwyd lefel o 3000 kelvin (pa mor llachar yw'r golau) wedi adolygiad sylweddol ar y llenyddiaeth berthnasol a dysgu gan awdurdodau lleol eraill yn y Deyrnas Unedig.Mae manylion cynllun Caerdydd wedi eu cymeradwyo gan nifer o sefydliadau gan gynnwys y Gymdeithas Awyr Dywyll a Chymdeithas Seryddol Caerdydd.

Disgwylir i'r gwaith o drosi goleuadau ardaloedd preswyl yn rhai LED i gostio tua £6.5m. Telir am y project drwy leihau costau ynni o £423,800 y flwyddyn.

Bydd hyd oes hirach gan systemau goleuo LED ac maent yn defnyddio llai o ynni na systemau goleuo traddodiadol a fydd hefyd yn helpu'r Cyngor i wireddu arbedion.

Ychwanegodd Andrew Gregory: "Mae ymchwil wedi dangos bod manteision cadarnhaol i ddefnyddio technoleg LED ar oleuadau stryd, megis lleihad mewn troseddau stryd a'r ofn o droseddau stryd. Mae dadansoddiad o wyth astudiaeth wahanol wedi canfod y gall goleuadau stryd gwell leihau troseddu 7% ar gyfartaledd."

Bydd cabinet y Cyngor yn ystyried y cynnig yn ei gyfarfod ddydd Iau 16 Mai, ac os caiff ei gymeradwyo, caiff y project ei hysbysebu fel Hysbysiad OJEU (Tendr) yn y Cyfnodolyn Ewropeaidd ac i'r farchnad ar ddechrau mis Awst. Dyddiad dechrau'r contract fydd diwedd mis Hydref, 2019.

(Diwedd)

Goleuadau stryd LED - Ffaith a ffuglen

 

Pam fod Caerdydd yn defnyddio goleuadau LED ar gyfer goleuadau stryd?

Mae manteision sylweddol i ddefnyddio goleuadau LED. Maent yn fwy effeithiol wrth drosi ynni yn olau. Felly mi gewch yr un ansawdd golau am lai o gost. Mae lleihad sylweddol hefyd o ran allyriadau carbon gan oleuadau LED.

Beth yw'r manteision? A oes prawf fod troseddau stryd yn lleihau gyda'r goleuadau LED newydd hyn?

Mae gan y goleuadau newydd well presenoldeb gweledol ar ein strydoedd, gan ddangos rhwystrau yn fwy eglur i gerddwyr a beicwyr, lleihau troseddau ar y stryd a datblygu llwybrau mwy diogel i'n hysgolion.

O ran lleihau trosedd, mae wyth astudiaeth wahanol wedi eu cynnal sydd wedi canfod y gall goleuadau stryd gwell leihau troseddu 7% ar gyfartaledd.

Yn Lloegr gwelwyd nifer o gwynion fod y goleuadau LED newydd yn rhy lachar ac yn dallu gyrwyr.Beth fydd yn wahanol yng Nghaerdydd?

Byddwn yn defnyddio manylion gwahanol, felly golau cynhesach nid golau â llawer o las ynddo. Caiff hyn ei fesur yn yr hyn a elwir yn Kelvins (K) Gall manylion goleuadau LED amrywio o 2200K i 5500K. Er bod y goleuadau LED llachar (glas) yn fwy effeithlon, mae Caerdydd wedi ymrwymo i daro ar y cydbwysedd iawn rhwng dymuniadau preswylwyr a'r angen i wireddu arbedion o ran costau ac allyriadau carbon. Gyda hyn mewn golwg rydym wedi dewis goleuadau LED sydd yn 3000K.

Er mwyn sicrhau nad yw gyrwyr yn cael eu dallu gan y goleuadau stryd mae'n bwysig bod y goleuadau yn cael eu gosod yn gywir ar y golofn oleuo. Y Cyngor fydd yn gyfrifol am sicrhau bod hyn yn digwydd. Ar ben hynny bydd y golau gwyn cynnes a gaiff ei ddefnyddio yng Nghaerdydd yn lleihau'r disgleirdeb a bydd o fewn y safon Brydeinig bresennol - (BS EN 13201-2:2003)

A gafwyd ymgynghori a phrofion ar y gwahanol fathau o oleuadau LED yng Nghaerdydd?

Do - cafwyd ymgynghori helaeth â phartïon â diddordeb ac ymgyrchwyr ym mis Tachwedd 2015. Cwblhaodd y Cyngor nifer o brofion yn yr ardal y tu cefn i Neuadd y Ddinas trwy brofi wyth llusern wahanol gan wneuthurwyr, heb gost i'r Cyngor, ar ddosbarthiad cyfatebol i 3000 Kelvin.Dewiswyd y golau LED mwyaf addas ac effeithiol o ran cost ar gyfer goleuadau stryd Caerdydd.

Mae pryderon gan ymgyrchwyr iechyd wedi honni y gall goleuadau LED gael effaith ar batrymau cwsg pobl. A yw hyn yn wir?

Gall y golau ‘glas' mwyaf effeithiol (uwch na 4500 Kelvin) effeithio ar batrymau cwsg ond nid yw Caerdydd yn defnyddio'r math hwn. Mae'r Cyngor am ddefnyddio golau gwyn cynnes (3000 kelvin) ac mae'r math hwn o oleuadau wedi eu cymeradwyo gan nifer o sefydliadau gan gynnwys y Gymdeithas Awyr Dywyll a Chymdeithas Seryddol Caerdydd.

Mae ymgyrchwyr dros yr amgylchedd yn honni y gall goleuadau gwyn mwy llachar effeithio ar adar a bywyd gwyllt arall. A yw hyn yn wir?

Bydd unrhyw olau yn y nos yn cael effaith ar adar a bywyd gwyllt ac mae hyn yn fwy o broblem mewn dinasoedd, oherwydd faint o oleuadau a gaiff eu defnyddio. Fodd bynnag, mae Caerdydd yn defnyddio golau gwyn cynnes (3000 Kelvin) sydd yn dipyn llai o broblem na'r goleuadau glas (5000 Kelvin ac uwch na hynny).

A gaiff y goleuadau eu pylu yn ystod y nos?

Mae'r goleuadau stryd presennol yn cael eu pylu rhwng hanner nos a chwech y bore. Caiff y goleuadau newydd eu rheoli o bell, felly bydd y System Fonitro Ganolog yn ein galluogi ni i godi a gostwng lefel disgleirdeb y goleuadau newydd os bydd gofyn trwy ddefnyddio technoleg ddigidol.

A fydd hi'n haws cynnal a chadw'r system oleuadau stryd LED newydd?

Bydd - mae'r goleuadau LED newydd lawer yn fwy datblygedig a byddant yn ein galluogi i fod â mwy o reolaeth dros oleuo strydoedd. Pe byddai damwain dyweder, byddem yn gallu cynyddu disgleirdeb y golau i helpu'r gwasanaethau brys. Gall y goleuadau hefyd adrodd eu hunain wrth gyfrifiadur canolog am unrhyw nam neu broblem sydd ganddynt. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fod lawer yn fwy effeithiol wrth drwsio diffygion. Mae hyd oes lawer yn hwy gan yr unedau LED na'r unedau presennol gan leihau nifer y goleuadau nad ydynt yn gweithio a'r gwaith cynnal a chadw ynghlwm â hynny.