The essential journalist news source
Back
7.
May
2019.
Mae’r Diwrnod Dim Ceir yn ôl

Bydd Caerdydd yn dathlu Diwrnod Dim Ceir arall ddydd Sul 12 Mai ac mae croeso i bawb fynychu i fwynhau Caerdydd a hawlio eich strydoedd yn ôl. 

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd pan ddaeth tua 10,000 o bobl i ddathlu ar strydoedd Caerdydd, bydd digwyddiad eleni yn fwy ac yn well.  Un o uchafbwyntiau'r Diwrnod Dim Ceir yw gŵyl feicio am ddim gyda'n partneriaid British Cycling a HSBC UK.

Dywedodd Andrew Gregory, Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd:

"Y llynedd, fe wnaeth y Diwrnod Dim Ceir alluogi miloedd o bobl i fwynhau ein dinas mewn ffordd wahanol, a dychmygu sut y gallem ddefnyddio ein man cyhoeddus yn wahanol.

"Mae llawer wedi digwydd ers y llynedd i wella ffurfiau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth; mae'r cynllun llogi beicio ar y stryd, nextbike, wedi bod yn llwyddiant parhaus; mae gwaith gerbron ar y cyntaf o gyfres o ffyrdd beicio dynodedig; mae teithio actif mewn ysgolion hefyd yn boblogaidd gyda disgyblion a rhieni.   

"Rydym yn ceisio newid y ddinas i fod yn llai dibynnol ar deithio mewn car, i wneud hyn mae angen i ni ddangos i bobl beth sy'n bosibl a sut allwn ni wneud pethau'n wahanol, a bydd y Diwrnod Dim Ceir eleni eto'n ffordd wych o ddangos hyn."

Mae amrywiaeth o adloniant a gweithgareddau i'r teulu wedi'u cynllunio ar gyfer Stryd y Castell a Ffordd y Gogledd, mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau chwaraeon, arddangosiadau, cerddoriaeth fyw, dawnsio a'r Parêd Beicio.

Gall beicwyr sydd eisiau ymuno â LET'S RIDE CARDIFF HSBC UK gofrestru a chael mwy o wybodaeth amdano ymawww.letsride.co.uk

Gan ddechrau yn Stryd y Castell am 11am ar ddydd Sul 12 Mai, mae'r cwrs 3.5km hwn yn dechrau o Gastell Caerdydd ac yn mynd â chyfranogwyr heibio tirnodau lleol fel Neuadd y Ddinas ac Adeiladau'r Goron.  Mae yno hefyd gylch 3.5km o amgylch Rhodfa'r Brenin Edward VII a Pharc Cathays i'r rheiny sy'n chwilio am lwybr byrrach i'w feicio.  Gan orffen am 3pm, gwahoddir cyfranogwyr i fynd o amgylch y cwrs gynifer - neu gyn lleied - o weithiau ag y dymunant. 

Mae'r amrywiaeth o atyniadau ar hyd y llwybr ac ym mharth yr ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth fyw, ardal arddangos Tîm Beicio Prydain Fawr, Tîm Arddangos Beiciau Mynydd Let's Ride, stondinau bwyd a diod, a Go-Ride HSBC UK - rhaglen datblygu British Cycling i bobl ifanc sy'n cynnig ffordd ddifyr a diogel o gyflwyno beicwyr ifanc i fyd chwaraeon beicio ac mae'n cynnig platfform i wella sgiliau trin beic.

Dywedodd Anne Adams-King, prif weithredwr Beicio Cymru:

"Rydym yn falch mai Caerdydd fydd digwyddiad Let's Ride HSBC UK cyntaf 2019 ac rydym yn gobeithio gweld cymaint o bobl â phosibl allan ar eu beiciau.

"Bydd digonedd o atyniadau i'r teulu cyfan gymryd rhan ynddynt, felly sicrhewch eich bod yn dod i Gaerdydd ar 12 Mai i weld pa mor ddifyr yw beicio." 

Dywedodd Luke Harper, pennaeth partneriaeth HSBC UK gyda British Cycling:

"Mae cymryd rhan mewn digwyddiad Let's Ride HSBC UK yn gyfle gwych i feicio o amgylch Caerdydd heb draffig, gan weld ei thirnodau o safbwynt hollol wahanol.

"Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig diwrnod allan gwych i deuluoedd, y rheiny sydd eisiau ail-afael arni ar ôl rhoi'r gorau i feicio, neu feicwyr mwy rheolaidd neu ddifrifol sydd eisiau beicio mewn ffordd mwy ymlaciedig.  Hefyd, byddwch yn gwneud eich rhan i helpu i greu Prydain sy'n fwy gwyrdd, heini a iach." 

Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Gregory: "Mae tua 108,000 o geir yn dod i mewn neu allan o ganol y ddinas dros gyfnod o 24 awr, ac ar hyn o bryd dim ond 5,300 o bobl sy'n dewis beicio dros yr un cyfnod.  Mae'r Cyngor hwn yn awyddus i newid yr ystadegau hyn, rydym am wneud popeth y gallwn i annog ffurfiau cynaliadwy o deithio a hoffem weld 20% o weithlu Caerdydd yn beicio i'r gwaith erbyn 2026.  Byddai'n trawsnewid y ffordd y mae'r ddinas yn edrych ac yn teimlo.  Bydden i'n gobeithio y gallem adeiladu ar y digwyddiad hwn a chroesawu sawl Diwrnod Dim Ceir i'r ddinas bob blwyddyn.  Rydym am i bobl weld drostynt eu hunain gymaint gwell y gallai'r amgylchedd fod i bawb gyda llai o geir ar ein ffyrdd."

Cyfarwyddwr Gweithredol i Gaerdydd"Rydym wedi annog busnesau gerllaw i ystyried yr hyn y gallant ei wneud er mwyn manteisio ar y niferoedd uwch y disgwyliwn i'r digwyddiad eu dwyn i'r ardal hon ac mae'n rhoi cyfle gwych i bobl sydd yn mynychu'r digwyddiad i grwydro i siopau, bariau a chaffis na fyddent fel arall yn mynd iddynt."

Bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau ar gyfer y digwyddiad hwn.  Cynhelir mynediad i breswylwyr a busnesau cyhyd ag y bo modd, a phan fo'n ddiogel i wneud hynny.  Bydd staff rheoli traffig wrth law i hysbysu modurwyr o ba lwybr i'w gymryd i gael mynediad i'w heiddo neu fusnes.