The essential journalist news source
Back
30.
April
2019.
Caerdydd I gynnal ‘Y Tafliad Mawr’ er mwyn dathlu Cwpan Criced Dynion y byd yr ICC
Bydd Cwpan Criced Dynion y Byd yr ICC yn dechrau’n swyddogol ddydd Gwener 31 Mai pan ddaw’r ddinas ynghyd mewn ymgais i dorri record dal a chyfnewid er mwyn trosglwyddo’r bêl i ddau Gapten y gêm gyntaf yn y ddinas – bydd Seland newydd yn wynebu Sri Lanca ddydd Sadwrn 1 Mehefin yn Stadiwm Cymru Caerdydd.

Mae pêl y bencampwriaeth yn cael ei chludo ar drên o Gae Criced Lord’s, cartref y gêm, a bydd y cyfnewid yn dechrau o Orsaf Caerdydd Canolog.Mae trefnwyr Cwpan Criced Dynion y Byd yr ICC yn chwilio am wirfoddolwyr i gysylltu ac ymuno yn yr ymgais i dorri’r record am y llwybr dal a chyfnewid hiraf erioed wrth i’r bêl nyddu ei ffordd drwy strydoedd Caerdydd, heibio i dirnodau adnabyddus gan gynnwys Stadiwm Principality, Canolfan Mileniwm Cymru a Chastell Caerdydd cyn gorffen yn Stadiwm Cymru Caerdydd.

Ar gyfer y Tafliad Mawr does dim gwahaniaeth os ydych yn ffan o griced neu’n newydd i’r gêm; mae’r trefnwyr am i bawb yng Nghaerdydd gael eu cynrychioli, o chwedlau’r gymuned i ysgolion lleol a chewri’r byd chwaraeon.

Ar ôl cyrraedd Stadiwm Cymru Caerdydd bydd cynrychiolwyr o’r timau sy’n cystadlu, Seland Newydd a Sri Lanca, wrth law i dderbyn y bêl a chaiff pawb sydd wedi cefnogi’r Tafliad Mawr eu gwahodd i ddigwyddiad dathlu.

Mae’r Tafliad Mawr yn rhan o ddathliad trwy’r deyrnas o Gwpan Criced Dynion y Byd yr ICC pan fydd y 10 dinas sy’n croesawu’r bencampwriaeth yn creu digwyddiadau mewn lleoliadau eiconig i ddod â’r cefnogwyr yn nes at y cyffro nag erioed o’r blaen.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury, “Mae Caerdydd yn hynod falch ac yn llawn cyffro o gael croesawu Cwpan Criced Dynion y Byd yr ICC i’r ddinas a bydd gweld y Tafliad Mawr yn cyrraedd tra’n torri record yn brofiad gwych i bawb a fydd yn rhan o’r ymdrech.

 “Mae treftadaeth criced a chwaraeon gref gan Gaerdydd ac rydym yn mawr obeithio y bydd ‘Tafliad Mawr’ yn cysylltu, yn diddanu ac yn ysbrydoli’r gymuned leol a chefnogwyr Cwpan Criced y Byd.Edrychwn ymlaen i gael croesawu cefnogwyr chwaraeon hen ac ifanc i gymryd rhan, gan greu digwyddiad cwbl gofiadwy i’r ddinas gyfan.”

Dywedodd Steve Elworthy, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwpan Criced Dynion y Byd yr ICC 2019:

 “Mae’r cyhoedd ym Mhrydain wastad yn cefnogi digwyddiadau ar lwyfan y byd a bydd Tafliad Mawr yn galluogi ffans criced, ffans chwaraeon a ffans Caerdydd i ddod ynghyd i ddathlu Cwpan Criced y Byd.

 “Mae’r gefnogaeth gan y dinasoedd sy’n gartref i’r Cwpan wedi bod yn anhygoel, ac rydym yn falch o allu parhau â’r partneriaethau cryf hyn gyda chynllun ymgysylltu â chefnogwyr sy’n torri tir newydd a hynny drwy gydol y gystadleuaeth.

 “Mae’r Tafliad Mawr yn ddathliad o Gwpan Criced Dynion y Byd yr ICC a fydd yn cysylltu cefnogwyr â’r diwylliant a’r lletygarwch unigryw sydd gan Gaerdydd i’w cynnig” meddai.

Am ragor o wybodaeth am Gwpan Criced Dynion y Byd yr ICC 2019, cliciwch yma yma.