Bydd arwynebau newydd yn cael eu gosod ar Ffordd Caerdydd a Lôn y Felin Llandaf ddydd Sul (27 Ebrill) a nos Lun (28 Ebrill).
I hwyluso'r gwaith hwn, bydd Ffordd Caerdydd ar gau ddydd Sul o 8pm tan 5am y bore canlynol, a bydd Lôn y Felin Llandaf yn cau nos Lun am 8pm ac yn ailagor am 5am fore dydd Mawrth.
Dim ond drwy gyffordd Pencisely Road/Penhill Road y bydd preswylwyr yn gallu cael mynediad i Ffordd Caerdydd yn ystod y cyfnodau y bydd y ffyrdd ar gau.
Dim ond o gyffordd yr A48 tua'r gorllewin/Lôn y Felin y bydd mynediad gan breswylwyr i'r Crescent a rhifau 110 i 130 Ffordd Llandaf.
Mae llythyrau wedi eu hanfon at yr holl breswylwyr y bydd hyn yn effeithio arnynt i roi gwybod iddynt bod y gwaith yn digwydd.
Gwnaed pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl tra bo'r gwaith hwn yn cael ei wneud.