The essential journalist news source
Back
23.
April
2019.
Darpariaeth ysgol newydd ar gyfer gogledd-orllewin Caerdydd.

 

Bydd adroddiad sy'n argymell bod ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar ddarpariaeth ysgol gynradd newydd i wasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd yn cael ei ystyried gan Gabinet yr awdurdod lleol pan fydd yn cwrdd ddydd Iau 18 Ebrill.

Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried cynigion i sefydlu ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad i wasanaethu Creigiau, Sain Ffagan, Pentre-poeth a'r Tyllgoed.Byddai'r ysgol arfaethedig yn ysgol ddwy ffrwd, wedi ei threfnu gydag un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig llefydd Saesneg gyda defnydd sylweddol o Gymraeg.Byddai'r ysgol hefydd yn cynnig 96 o lefydd meithrin rhan-amser, gyda hanner y llefydd yn rhai Cymraeg a'r hanner arall yn rhai Saesneg.

Mae sawl datblygiad tai newydd wedi dechrau cael eu codi yng ngogledd-orllewin Caerdydd mewn blynyddoedd diweddar.Mae'r rhain yn cynnwys datblygiad Plasdŵr ar dir i'r gogledd ac i'r de o Heol Llantrisant ac i'r de o Heol Pentre-baen a Fferm Goitre Fach.

Bydd y cartrefi newydd yn cynyddu nifer y plant yn yr ardal sydd angen llefydd ysgol.Fel rhan o'r cyfraniadau y mae'r Cyngor wedi'u sicrhau ar gyfer adeiladu seilwaith cymdeithasol drwy ei gytundeb adran 106, bydd datblygwr Plasdŵr yn codi'r ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad er mwyn ateb y galw uwch am lefydd ysgol sy'n deillio o'r cartrefi newydd y mae'n eu codi.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae hwn yn gynnig cyffrous a fydd nid yn unig yn cynnig llefydd ysgol cynradd i deuluoedd sy'n symud i ddatblygiad newydd Plasdŵr, ond hefyd yn cynnig cyfle newydd a chyffrous o ran sut mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgol gynradd Saesneg.Mae hyn yn ychwanegu at y twf sylweddol mewn darpariaeth Gymraeg yr ydym wedi ei wneud dros nifer o flynyddoedd.

"Mae darpariaeth gynradd ffrwd ddeuol eisoes yn cael ei chynnig yn effeithiol yng Nghaerdydd mewn ysgolion fel Ysgol Gynradd Creigiau ac Ysgol Gwaelod-y-Garth.Mae'r ddwy ffrwd yn gweithredu ar wahân, gyda dosbarthiadau, gwasanaethau ac amser egwyl ar wahân.Bydd yr amrywiad arloesol hwn ar y ddarpariaeth gynradd ffrwd ddeuol a'r safle ysgol traddodiadol sy'n cael ei gynnig yn gweld mwy o ffocws ar addysgu Cymraeg o fewn ffrwd cyfrwng Saesneg.Mae hyn yn cefnogi ein dymuniad i hybu'r iaith Gymraeg, fel y nodir yn ein strategaeth ddwyieithog, ac mewn tro yn gyson â strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

"Drwy gynyddu ein haddysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd strategol, rydym yn sicrhau bod ein hysgolion newydd yn sefyll ar seiliau ariannol cadarn; bod ein hysgolion cynradd presennol yn parhau i fod yn ymarferol; a bod yr ysgolion yr ydym yn eu cynnig yn darparu ar gyfer amrywiaeth o ddewisiadau rhieni yr ydym yn eu gweld yng Nghaerdydd.

"P'un a fyddwch yn dewis addysg Gymraeg neu Saesneg, byddai'r ysgol newydd yn darparu ar gyfer plant sy'n cael eu magu ym Mhlasdŵr gyda chyfleusterau ysgol rhagorol, mewn amgylchedd dysgu sydd yn addas i'r 21ain Ganrif."

Mae'r ysgol yn cael ei chynnig dan gytundeb Adran 106 Plasdŵr, yn ychwanegol at yr ysgolion newydd a'r rhai sy'n cael eu hehangu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru dan ei rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £284m.

Bydd ymgynghori cyhoeddus ar y cynnig yn digwydd ym mis Mehefin 2019, gyda'r ysgol newydd yn derbyn ei disgyblion cyntaf ym mis Medi 2021.