The essential journalist news source
Back
12.
April
2019.
Cyhoeddi adroddiad llawn Sound Diplomacy ar sector cerddoriaeth Caerdydd

Mae adroddiad hir-ddisgwyliedig Sound Diplomacy ar sector cerddoriaeth Caerdydd wedi ei gyhoeddi yn llawn heddiw. 

Mae'r adroddiad yn gwneud 12 o argymhellion strategol a allai, o'u hymgorffori yn llawn i Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd, weld gwireddu'r canlynol: 

  • Sefydlu digwyddiad neu ŵyl mawr o bwys a fydd yn rhoi llwyfan i artistiaid rhyngwladol o genres cerddorol amrywiol;
  • Sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth ar gyfer y ddinas er mwyn cynrychioli ac eirioli dros Gaerdydd fel Dinas gerdd gyntaf y DU;
  • Uwchgynllun ar gyfer Cwr y Castell fydd yn tanlinellu ei sefyllfa unigryw o fewn sîn gerddoriaeth Caerdydd;
  • Adnewyddu ac ail-wampio Neuadd Dewi Sant i greu Neuadd Gyngerdd Genedlaethol wedi ei hadfywio;
  • Adolygu'r polisïau trwyddedu presennol a chyflwyno parthau Llwytho i Gerddorion mewn lleoliadau yn y ddinas;
  • Creu strategaeth farchnata Dinas Gerdd Caerdydd i ymwelwyr;

Cymerodd adroddiad Dinas Gerdd Sound Diplomacy flwyddyn i'w lunio a bu'r ymgynghorwyr -sydd gyda'r mwyaf blaenllaw yn y byd ac sy'n helpu dinasoedd i wireddu twf economaidd, buddsoddiad a datblygiad diwylliannol trwy gyfrwng cerddoriaeth - yn siarad â channoedd o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghaerdydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Mae cerddoriaeth yn gwneud nifer o bethau dros drefi a dinasoedd. Mae'n creu swyddi. Mae'n rhoi rheswm i fod yn rhywle. Mae'n denu ymwelwyr. Mae'n cynnig teimlad o hunaniaeth i ni. Ac ni allwn anwybyddu'r ffaith bod cerddoriaeth ynddi ei hun yn beth da. 

"Rydym ni eisiau bod y ddinas gyntaf yn y DU a fydd yn ymgorffori cerddoriaeth yn rhan o strwythur y ddinas, o gynllunio a thrwyddedu i lesiant cymdeithasol a thwristiaeth.Drwy hyn, byddwn ni'n creu cymunedau bywiog, cyffrous, byddwn yn datblygu ein proffil rhyngwladol a chynyddu gwerth economaidd a chymdeithasol cerddoriaeth yn ein dinas. 

"Mae hyn yn digwydd am y tro cyntaf erioed yn y DU ac rydym ni'n credu y bydd yn gweddnewid Caerdydd.Bydd yn cydnabod a chefnogi'r rhan y gall cerddoriaeth ei chwarae ym mhob agwedd ar ein bywydau ac mae'n gweddu i'n huchelgais ehangach i ymestyn sectorau creadigol a digidol y ddinas. 

"Mae Caerdydd yn ddinas o artistiaid, cerddorion, cantorion, cynhyrchwyr, peirianwyr sain, ac wrth gwrs, pobl sy'n dwlu ar gerddoriaeth. Maen nhw i gyd yn rhan o gymuned greadigol ehangach sydd heb ei hail ym Mhrydain, ac sy'n helpu i wneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd mwyaf creadigol a dyfeisgar yn y byd. Mae gennym ni dalent, mae gennym ni leoliadau, mae gennym ni ysbryd a diwylliant unigryw sy'n ein gosod ar wahân.Bydd ein Strategaeth Gerddoriaeth yn ystyried sut gallwn ni gael y budd gorau o werth economaidd a chymdeithasol cerddoriaeth drwy gydweithio." 

Dywedodd Llywydd Sound Diplomacy, Shain Shapiro: "Rwyf wrth fy modd bod adroddiad Sound Diplomacy yn cael ei gyhoeddi heddiw.Rydym wedi treulio misoedd lawer yn pwyso a mesur ac asesu ecosystem cerddoriaeth Caerdydd.Rydym wedi canfasio barn cannoedd o bobl, o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, artistiaid, a phobl yn y sector addysg cerddoriaeth, i gyllidwyr, athrawon, rheolwyr lleoliadau a phobl sy'n caru cerddoriaeth. 

"Mae'r argymhellion sydd wedi deillio o'r sgyrsiau hyn ac o sector ymrwymedig y ddinas wedi eu hanelu at ymgorffori cerddoriaeth drwy seilwaith polisïau cryfach yng Nghaerdydd, fel ei fod yn dathlu yr hyn sydd yno eisoes, ond sy'n gweithio tuag at ddatrysiadau fydd yn para  i'r heriau sydd yn wynebu'r ddinas." 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas:"Mae Sound Diplomacy yn argymell ein bod yn sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth a fydd yn bwrw ymlaen gydag agenda'r Ddinas Gerddoriaeth.Ein gwaith yn y Cyngor fydd gweithredu fel cymar ar y daith hon - i sicrhau bod popeth yn ei le i'r artistiaid allu gwneud eu gorau glas.Rydyn ni eisiau sicrhau bod grymoedd creadigol y ddinas yn cael y cyfle gorau posib i'w mynegi eu hunain a helpu i wireddu'r weledigaeth hon o wneud Caerdydd yn arweinydd byd-eang yn symudiad y dinasoedd cerddoriaeth." 

"Mae llawer o heriau yn wynebu lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad o ran goroesi a ffynnu, yn aml mae'r heriau hyn y tu allan i reolaeth llywodraeth leol. Ond ni fydd yr heriau hyn yn ein hatal ni yng Nghaerdydd rhag gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi'r sector a helpu i greu'r amgylchiadau iawn i sicrhau bod cerddoriaeth yn ein dinas yn ffynnu. Mae angen inni weithio gyda'r sector, nodi sut y gallwn ni gefnogi ein huchelgais dros gerddoriaeth fyw gyda'n gilydd. 

"Rydym ni eisiau bwrw ymlaen â strategaeth a fydd yn gweld Caerdydd yn ei gosod ei hun yn arweinydd mewn datblygiadau trefol sy'n defnyddio cerddoriaeth fel dull i dyfu yn hytrach na chanlyniad i'r twf. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae enaid Caerdydd yn llawn cerddoriaeth ac mae'r argymhellion a gyflwynwyd gan Sound Diplomacy yn cynnig sylfaen gadarn i ni y gallwn ddatblygu Strategaeth Gerddoriaeth arni, a bydd hon yn helpu i ddatblygu sector cerddoriaeth y ddinas sydd eisoes yn llwyddiannus.  

"Mae Caerdydd yn un o bwerdai creadigol y DU - mae ein sector creadigol yn cyflogi oddeutu 15,000 o bobl ac yn cynhyrchu gwerth mwy na £1 biliwn i'r economi lleol - ond mae sector cerddoriaeth fyw y DU yn tyfu, yn ogystal â'r nifer o swyddi y mae'n eu cefnogi. Mae ffigurau diweddar yn dangos yn ddiweddar yng Nghymru bod twristiaeth gerddoriaeth yn cynnal oddeutu 47,445 o swyddi a gwariant blynyddol gwerth £115 miliwn ar gyngherddau a gwyliau - mae hwn yn cynrychioli cyfle gwirioneddol i'n sector cerddoriaeth ac ar gyfer economi ehangach y ddinas. 

Mae'r adroddiad yn datgelu llu o ystadegau a ffigurau diddorol am sefyllfa bresennol sector cerddoriaeth y ddinas.Yn eu plith, mae: 

  • Gwerth sector cerddoriaeth i economi Caerdydd yw £104 miliwn y flwyddyn
  • Mae 1,440 o swyddi wedi eu creu yn uniongyrchol gan sector cerddoriaeth Caerdydd
  • Mae 840 o'r swyddi hyn yn rhai llawn amser gyda 600 yn rhai rhan amser.
  • Incwm blynyddol cyfartalog artistiaid ac asiantau creadigol yw £18,000
  • Mae gweithwyr y sector technegol a rheoli cerddoriaeth yn ennill £27,500 y flwyddyn ar gyfartaledd
  • Cyfanswm y swyddi a grëwyd ac a gefnogwyd gan sector cerddoriaeth Caerdydd yw 2,494
  • Mae nifer y bobl yng Nghaerdydd sy'n gweithio yn y sector cerddoriaeth yn debyg i'r nifer ym Mryste a Lerpwl, ond mae'r ddinas yn creu 4.3 o swyddi fesul 1,000 o drigolion o'i gymharu â 2.7 ar gyfer Bryste a Lerpwl.

Aeth y Cyng Bradbury yn ei flaen, "O dafarndai lleol a lleoliadau cymunedol i neuaddau cyngerdd a stadia mawr, mae ecosystem cerddoriaeth y ddinas eisoes yn ffynnu, ond mae'r her a nodwyd yn glir yn adroddiad Sound Diplomacy, yn golygu bod rhaid i ni sicrhau bod ein hagwedd ehangach tuag at ddatblygu'r ddinas yn alinio ag anghenion y diwydiant cerddoriaeth, fel y gall cerddoriaeth gefnogi'r ddinas yn economaidd, ac y gall y ddinas gefnogi ei cherddorion a gweithwyr proffesiynol ym maes cerddoriaeth. 

"Mae'n amlwg bod llawer i'w wneud a byddaf yn trafod yr adroddiad llawn gyda'r Cabinet yn y dyfodol agos, gan symud ymlaen i sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth o bosib i helpu i wneud Caerdydd yn ddinas gerddoriaeth wirioneddol."  

Mae adroddiad Cabinet Cyngor Caerdydd, a gaiff ei drafod mewn cyfarfod Ddydd Iau nesaf (18 Ebrill), yn sefydlu nifer o gamau nesaf yng ngoleuni adroddiad Sound Diplomacy. 

Os caiff yr argymhellion yn yr adroddiad Cabinet eu cytuno, bydd gwaith yn dechrau ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer Bwrdd Cerddoriaeth i'r ddinas, gan gynnwys cylch gorchwyl a opsiynau o ran adnoddau. Bydd rhaglen waith Strategaeth Cerddoriaeth hefyd yn cael ei roi ar waith i gynnig ymatebion manwl i'r argymhellion yn yr adroddiad gan Sound Diplomacy.  

Cliciwch yma i weld agenda cyfarfod y Cabinet, gyda dolenni i'r adroddiad llawn.