The essential journalist news source
Back
9.
April
2019.
Sesiynau Galw Heibio ar y Project Aer Glân

Bydd Cyngor Caerdydd yn cynnal pedair sesiwn galw heibio ar y Project Aer Glân yn ystod mis Ebrill a Mai.

Bydd y digwyddiadau cyhoeddus hyn yn rhoi cyfle i'r preswylwyr a'r cyhoedd i ddod a gweld pecyn o fesurau i wella ansawdd yr aer yng Nghaerdydd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan mai ansawdd aer gwael o bosib yw'r ail bryder iechyd gwaethaf yn dilyn ysmygu a'r niwed amgylcheddol mwyaf sylweddol i iechyd.

Cynhelir y digwyddiadau canlynol yn y lleoliadau canlynol:

13 Ebrill - 11am tan 3pm: Gwesty'r Angel (Ystafell Tywysog Cymru - Llawr Gwaelod)

20 Ebrill - 11am tan 3pm: Y Llyfrgell Ganolog (lefel 3)

4 Mai - 11am tan 3pm: Gwesty'r Angel (Ystafell Rhymni - Llawr Cyntaf)

11 Mai - 11am tan 3pm: Y Llyfrgell Ganolog (lefel 3)

Mae'r project wedi ei ddatblygu fel ymateb i her gyfreithiol gan Client Earth yn erbyn Llywodraeth Cymru, a rwymodd y Cyngor yn gyfreithiol i gymryd camau gweithredu i ostwng lefelau llygredd i'r lefel gyfreithlon erbyn 2021. 

Mae arolwg annibynnol a gomisiynwyd gan y Cyngor i ddarogan lefelau llygredd NO2yn y dyfodol yn y ddinas wedi nodi dim ond un stryd lle mae'n debygol yr eir dros lefelau cyfyngiadau cyfreithiol yr UE mewn blynyddoedd i ddod. Cynhaliwyd yr arolwg gan yr ymgynghorwyr blaengar yn y diwydiant, Ricardo, ar lun astudiaethau tebyg a gynhaliwyd mewn sawl dinas fawr ym Mhrydain.

Dangosodd mai dim ond Stryd y Castell, sy'n mynd heibio blaen y castell o Heol y Porth i Heol y Dug, sy'n debygol o fethu â chydymffurfio'n gyfreithiol ar ôl 2021 os na wneir unrhyw beth i leihau allyriadau traffig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild: "Er bod Stryd y Castell wedi ei nodi fel yr unig stryd a fydd yn torri'r lefelau gofynnol erbyn 2021, credwn fod hyn yn nodweddu problem lawer iawn ehangach ac mae'r camau sydd wedi eu cynnig wedi eu cynllunio er mwyn mynd i'r afael â'r problemau hyn.

"O heddiw, mae Taliad Allyriadau Isel Iawn wedi dod i rym yng Nghanol Llundain er mwyn gwella ansawdd yr aer yno. Mae hwn yn Barth Codi Tâl Aer Glân, sydd wedi ei ddylunio i gosbi'r rheiny sy'n gyrru'r cerbydau sy'n llygru fwyaf.

"Mae'r mesur newydd yma yn Llundain yn dilyn blynyddoedd o fuddsoddi mewn teithio llesol a system drafnidiaeth gyhoeddus gyda'r mwyaf cyfoes a dderbyniodd gymorth mawr gan yr incwm a grëwyd gan y Tâl Atal Tagfeydd sydd wedi bod ar waith dros y 15 mlynedd diwethaf.

"Mae canllawiau a gyhoeddwyd gan Defra/DfT - yr Adran Drafnidiaeth yn datgan yn glir y dylai awdurdodau lleol ond roi Parth Codi Tâl Aer Glân ar waith os canfuwyd na fu dulliau amgen, nad oedd yn codi tâl, yn ddigonol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â chyfyngiadau ansawdd aer yn yr amser byrraf posib."

 "Mae'r mesurau arfaethedig sy'n cael eu cynnig yn dangos buddsoddiad arfaethedig y Cyngor o ran teithio llesol yng nghanol y ddinas a'r mesurau sy'n cael eu cynnig i leihau yn sylweddol ar allyriadau gan dacsis a bysiau."

Mae'r cyngor ar hyn o bryd yng nghanol ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y project ac mae'r holl wybodaeth gan gynnwys holiadur yr ymgynghoriad ar gael ar wefan y cyngorAer Glân Caerdydd.