The essential journalist news source
Back
4.
April
2019.
Datganiad Cyngor Caerdydd ar bebyll

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor:"Galwyd gweithwyr y Cyngor heddiw i waredu pabell oedd yn cynnwys nodwyddau, gwydr wedi torri a baw dynol o'r ardal werdd ar Rodfa'r Amgueddfa.

 

"Roedd y babell hon yn eiddo i unigolyn sydd wedi gwrthod ymgysylltu â gwasanaethau'r Cyngor er gwaethaf sawl ymgais gan ein tîm allgymorth i'w helpu.Roedd y perchennog wedi dychwelyd i'r ardal ar ôl iddo gael hysbysiad gadael wythnos ynghynt.

 

"Ar ôl i'n tîm gyrraedd yr ardal, gadawodd perchennog y babell yn gwisgo bag ar ei gefn, gan adael ei babell ar ôl.Eglurodd yr ail hysbysiad, a gyflwynwyd iddo 24 awr ynghynt, pe byddai'n methu â gwaredu ei babell cyn i'r swyddogion gyrraedd byddai'n cael ei thynnu i ffwrdd.

 

"Wrth waredu'r babell, daeth i'r amlwg ei bod yn cynnwys nodwyddau, gwydr wedi torri a baw dynol.Dychwelodd y perchennog yn ystod y gwaith clirio gan ofyn i gael ei eiddo nôl.Nid oeddem yn gallu caniatáu hyn oherwydd yr halogyddion yn y babell.Yr wythnos diwethaf pan roedd pebyll yn cael eu clirio yn yr ardal hon, roedd rhaid i un o'n swyddogion fynd i'r ysbyty ar ôl i nodwydd chwistrell bigo ei groen wrth glirio.

 

"Roedd meddiannwr pabell arall ar y safle heddiw a ymgysylltodd â'n tîm allgymorth oedd ar y safle i roi cymorth.Gofynnodd a oedd modd iddo ailgysylltu â'i ardal wreiddiol, ac mae'r tîm wedi hwyluso'r cais hwnnw.

 

"Yn anffodus, mae rhai unigolion yn gwrthod ymgysylltu â ni, ond byddwn yn parhau i roi cymorth a'u hannog nhw i gael mynediad at leoedd yn yr ystod eang o wasanaethau llety a chymorth sydd ar gael yn y ddinas.Ers mis Ionawr, rydym wedi helpu 40 o gysgwyr stryd i mewn i lety, yr oedd 14 ohonynt yn byw mewn pebyll.Hoffem fod yn glir â'r cyhoedd bod gan lawer o'r unigolion hyn broblemau cymhleth iawn.Rydym am eu helpu nhw i newid eu bywydau, ond gallwn ond wneud hyn os ydynt yn ymgysylltu â ni."