Back
19.
March
2019.
Ymgynghoriad beicffordd Lloyd George Rhodfa wedi dechrau
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnal ymgynghoriad ar gynllun beicffordd Rhodfa Lloyd George, sef y cam cyntaf i ddatblygu llwybr beicio o Fae Caerdydd i Ganol y Ddinas.
Mae'r cynigion yn cynnwys:
- Adleoli'r trac beicio i ffwrdd o'r adeiladau
- Cael gwared ar gyffyrdd signal yn Vellacott Close, Heol Letton, Plas Magretion, Clos Glanhowny a Ffordd Garthorne a chreu croesfan beicio/sebra baralel uchel ar draws y ffyrdd ochr a chroesfannau sebra uchel ar draws Rhodfa Lloyd George
Mae pecyn ymgynghori ar gael ar-lein yn https:www.caerdydd.gov.uk/beicffyrdd
Cynhelir sesiwn galw heibio yn Ystafell Bwyllgor 1, Neuadd y Sir ddydd Iau 21 Mawrth 2019 am 4.00-6.00pm. Mae croeso i bawb. Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 12 Ebrill 2019.
Contact
Newyddion CaerdyddCategory