The essential journalist news source
Back
19.
March
2019.
Tai fforddiadwy, cymunedau diogel

 

Mae cynnig cartrefi o ansawdd mewn cymunedau diogel, cysylltiedig gyda gwasanaethau cwsmer di-dor wrth galon cynlluniau tai Cyngor Caerdydd ar gyfer 2019/20.

 

Wrth i ddatblygiad cartrefi Cyngor newydd fynd rhagddo ynghynt yng Nghaerdydd,  bydd y Cabinet yn ystyried cynllun busnes Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 yn ei gyfarfod nesaf nos Iau 21 Mawrth.

 

Rhydd y cynllun drosolwg ar gynlluniau datblygiadau tai'r awdurdod a'r cynnydd tuag at gyrraedd ei darged o greu 2,000 tŷ cyngor newydd yn y ddinas, a chwblhau o leiaf 1,000 erbyn 2022.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae cartref o ansawdd dda, lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel ac mewn cysylltiad da yn hanfodol ac rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hyn i iechyd a lles ein cymunedau.

 

"Ar hyn o bryd, ein datblygiadau yw rhaglen codi tai cyngor mwyaf Cymru a bydd buddsoddiad o tua £350m mewn tai cyngor newydd dros y blynyddoedd nesaf. Gyda chynlluniau cyffrous ac arloesol eraill ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion tai hefyd ar y gweill, rydym yn gwneud cynnydd da tuag at gyrraedd ein targed o 2,000 cartref newydd."

 

Yn ogystal â diweddariad ar brif gynllun datblygu'r Cyngor, Cartrefi Caerdydd, mae'r cynllun yn nodi sut bydd y Cyngor yn darparu tai newydd trwy ddulliau eraill gan gynnwys rhaglen adeiladu ychwanegol, sy'n cynnwys 22 safle ar hyn o bryd.Hefyd, mae ffocws go iawn ar wireddu cynlluniau ‘parod am ofal' byw'n annibynnol, sy'n cynnig cartrefi hyblyg, o ansawdd i bobl hŷn yn y ddinas.

 

Mae'r cynllun yn cynnwys cynigion ail-ddatblygu cyffrous ar gyfer ystâd Trem y Môr yn Grangetown, cynlluniau ar gyfer adfywio ystadau i greu llefydd gwell a mwy diogel i fyw ynddyn nhw, diweddariad ar sut mae'r Cyngor yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru, yn ogystal â sut mae'r Cyngor yn ymateb i broblem gynyddol digartrefedd yn y ddinas.

 

Mae cynorthwyo pobl i fyw'n annibynnol a'u helpu i ddefnyddio gwasanaethau mewn hybiau cymunedol yn thema allweddol arall yn y cynllun busnes.Mae Gwasanaethau Byw'n Annibynnol y Cyngor yn cynorthwyo preswylwyr i fyw mor annibynnol â phosibl, rhoi cyngor ynghylch gwasanaethau, offer ac addasiadau i'w cartrefi yn ogystal â chynnig opsiynau i helpu i osgoi ynysu cymdeithasol, er enghraifft, trwy ystod eang y digwyddiadau a gweithgareddau yn yr hybiau cymunedol.

 

Aeth tua 2.5 miliwn o bobl i'r hybiau a llyfrgelloedd yng Nghaerdydd yn 2018 ac mae'r cynllun busnes yn nodi sut y mae'r cyfleusterau hyn yn cael effaith gadarnhaol yn eu hardaloedd lleol, trwy gynnig gwasanaethau cwsmer gwell trwy fuddsoddi mewn adeiladau  uchel yn y gymuned.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae ein rhwydwaith o hybiau cymunedol mewn cymdogaethau blaenoriaeth trwy'r ddinas yn dra llwyddiannus, yn cynnig ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau gwell i bobl leol.Mae'r rhain yn ‘hybiau' go iawn, sy'n cynnig canolbwynt i gymunedau lle caiff pobl ddod ynghyd i ddefnyddio gwasanaethau ond hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a all fod o fudd i'w lles cyffredinol.

 

"Mae gan ein gwasanaeth i Mewn i Waith, a'n tîm cymorth ar arian, hanes cryf o gynorthwyo cwsmeriaid yn ein holl hybiau, boed hynny'n gymorth ar gyflogaeth neu help i liniaru effaith y diwygiad lles ar unigolion.Mae ystod o gymorth ar gael, nid yn unig i'w rhai sy'n hawlio budd-daliadau ac yn ddi-waith ond hefyd i unrhyw un sy'n ei chael yn anodd ymdopi'n ariannol ac mae arnynt angen cyngor ar bethau megis cyllido, cyngor ar ddyled a chymorth i wneud y gorau o'u hincwm.

 

"Hyb Llaneirwg yw'r hyb diweddaraf a thrwy gynnig gwasanaethau dan un to yn yr ardal, mae'n wych ein bod wedi gallu rhyddhau dau safle ychwanegol i ddatblygu rhagor o dai fforddiadwy.