The essential journalist news source
Back
19.
March
2019.
Agoriad mawreddog i'r gwasanaeth dydd demensia newydd

 

Cafodd wasanaeth integredig newydd, yn cynnig cymorth ac amgylchedd gwell i bobl yn byw â demensia yng Nghaerdydd,  ei agor yn swyddogol ddoe.

 

Bu Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas yn agor y gwasanaeth newydd yn swyddogol, sy'n cael ei gyflenwi i fodloni anghenion pobl sydd ag anghenion cymorth a gofal cymedrol ac uchel, ledled y ddinas, yn y Gwasanaeth Dydd Demensia Integredig newydd ar Grand Avenue yn Nhrelái.

 

Mae'r cyfleuster - Canolfan Ddydd Pobl Hŷn Grand Avenue gynt a oedd yn cael ei reoli ac yn eiddo i'r Cyngor, wedi ei weddnewid yn llwyr, ei ail-ddylunio a'i ail-wampio i greu enghraifft ardderchog o amgylchedd arfer gorau sy'n dda i ddemensia, diolch i gynnig cyfalaf llwyddiannus i Gronfa Gofal Canolraddol Llywodraeth Cymru.

 

 

 

Mewn ymgyrch ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, bydd nyrsys a chynorthwywyr gofal yn darparu gwasanaethau o safon well i bobl sy'n defnyddio'r ganolfan mewn amgylcheddau gwell, gan gynnwys ardaloedd lolfa a bwyta llachar â llawer o le, cyfleusterau ymolchi a thoiled cyfoes, ystafell sinema, gofod ar gyfer ymyriadau therapiwtig a gardd ac ardal batio deniadol a hygyrch.

 

Mae'r ailddatblygiad hefyd yn rhan o strategaeth y Cyngor i ail-ddylunio gwasanaethau dydd i bobl hŷn, i ganolbwyntio adnoddau ar fodloni anghenion a dyheadau pobl gydag anghenion gofal cymdeithasol.Ymhlith y cynlluniau roedd buddsoddi mewn tri chanolfan ddydd ynMinehead Road, Llanrhymni, a gafodd ei hailagor ar ôl ei hailwampio'r llynedd, Grand Avenue a Chanolfan Ddydd Y Tyllgoed fydd yn mynd drwy raglen debyg ddechrau'r flwyddyn nesaf.

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae gweddnewidiad canolfan Grand Avenue yn ardderchog tu hwnt, ac rwy'n falch iawn, drwy bartneriaeth â'r Bwrdd Iechyd Prifysgol, ein bod wedi gallu cyflawni'r cyfleuster penigamp hwn i wasanaethu'r ddinas gyfan gyda gwasanaethau mor wych i fodloni anghenion y bobl sy'n dod yma.

 

"Rydym yn gweithio'n galed gyda phartneriaid ledled y ddinas i wneud Caerdydd yn gymuned sy'n well i ddemensia, lle mae pobl sy'n byw â demensia, a'u gofalwyr, yn teimlo fel eu bod wedi'u cefnogi ac yn gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.Ynghyd â'n canolfannau dydd yn Minehead Road a'r Tyllgoed, mae'r cyfleuster newydd hwn yn ein galluogi ni i gymryd cam mawr tua'r nod hwnnw, ac rwy'n gwybod bod Grand Avenue eisoes yn cael effaith bositif, yn cynnig lleoliad croesawgar i'r rheiny sy'n derbyn ac yn rhoi gofal yno."

 

 

 

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd BIP Caerdydd a'r Fro:"Mae'r dull cydweithredol sydd wedi'i gynnal rhwng y Bwrdd Iechyd Prifysgol a'n cydweithwyr yng Nghyngor Caerdydd wedi bod yn bositif iawn ac wedi arwain at gam ymlaen sylweddol o ran cynnig cyfleuster all gynnig gofal yn seiliedig ar y person i bobl yn byw â demensia.

 

"Golyga ein hymrwymiad ar y cyd i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol bod angen i awdurdodau lleol a sefydliadau iechyd yng Nghymru weithio gyda'i gilydd i gynnig y gofal gorau posibl a mwyaf cynaliadwy, nid yn unig i boblogaeth heddiw ond i boblogaeth y dyfodol.Mae'r project, heb os nac oni bai, yn enghraifft ffantastig o beth all meddwl yn gydweithredol ac yn hirdymor gyflawni, gan gyfrannu at Gymru iachach, ffyniannus a mwy cyfartal."