The essential journalist news source
Back
14.
March
2019.
Cynllun £32 miliwn i ostwng llygredd aer a gwella tagfeydd yn y ddinas


Mae Cyngor Caerdydd wedi llunio cynllun gwerth £32 miliwn i ostwng lefelau llygredd aer peryglus, torri tagfeydd, gwella rhwydweithiau ffordd, trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau beicio yng nghanol y ddinas.

Mae'r awdurdod wedi datgelu'r cynigion yn ymateb i her gyfreithiol gan Client Earth yn erbyn Llywodraeth Cymru, a rwymodd y Cyngor yn gyfreithiol i gymryd camau gweithredu i ostwng lefelau llygredd i lawr i lefel gyfreithlon erbyn 2021. 

Cyflwynir achos busnes ar-lein i'r Cabinet yn ei gyfarfod ar ddydd Iau 21 Mawrth, ac os caiff ei gymeradwyo, bydd yr awdurdod yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am yr arian angenrheidiol i gychwyn gwaith ar y rhaglen dwy flynedd, sy'n cynnwys:

  • Gweithredu bysus trydanol i ddisodli'r bysus hynaf ac sy'n llygru fwyaf - cost o £1.8m;
  • Cyflwyno Cynllun Bws Ôl-ategu ar gyfer gweithredwyr bws yng Nghaerdydd i ddiweddaru bysus hŷn er mwyn iddynt gyflawni safonau allyrru injan Euro 6 - cost o £1.4m
  • Newidiadau mawr yn Stryd y Castell a Heol y Porth a chylch canol y ddinas er mwyn galluogi trafnidiaeth gyhoeddus (bysus) i symud yn fwy effeithlon a gwella capasiti teithio actif Canol y Ddinas - cost o £18.9m.
  • Adolygu a gweithredu polisi tacsi diwygiedig i sicrhau mai i gerbydau sy'n cyrraedd safonau allyrron diweddaraf Euro 6 yn unig y caniateir ‘trwyddedau cerbyd newydd' neu am ‘newid cerbyd ar drwydded gyfredol' - cost o £5.5m i helpu perchnogion tacsi wneud y newidiadau angenrheidiol.
  • Gwelliannau i Deithio Actif a phennu rhagor o ardaloedd 20 mya - cost o £4.5m

Mae arolwg annibynnol wedi'i gomisiynu gan y Cyngor i ragweld lefel llygru NO2yn y dyfodol yn y ddinas wedi nodi dim ond un stryd lle mae'n debygol yr eid dros lefelau cyfyngiadau cyfreithiol yr UE yn y dyfodol. Yr ymgynghorwyr blaengar yn y diwydiant, Ricardo, a gynhaliodd yr arolwg, ar lun astudiaethau tebyg a gynhaliwyd mewn sawl dinas fawr ym Mhrydain.

Dengys mai dim ond Stryd y Castell, sy'n mynd heibio blaen y castell o Heol y Porth i Heol y Dug, sy'n debygol o fethu â chydymffurfio'n gyfreithiol ar ôl 2021 os na wneir unrhyw beth i leihau llygredd traffig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild: "Er mai dim ond un ffordd yng Nghaerdydd y rhagwelir y bydd yn torri'r cyfyngiadau cyfreithiol erbyn 2021, nid yw hyn yn golygu nad oes gennym broblem yn y ddinas, yn wir, mae problem yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn glir nad oes lefel NO2ddiogel na lefel ddiogel o lygredd aer gan ddeunydd gronynnol, neu fod yn ei gyffyrddiad yn y tymor byr. Po fwyaf y mae person mewn llygredd, y mwyaf yw effaith y llygredd ac mae astudiaethau wedi dangos ei fod yn gyfrifol am gyfraddau uwch o glefyd yr ysgyfaint a chanser.

"Mae llygredd aer yn Stryd y Castell yn symptom o broblem ehangach sy'n ymestyn y tu hwnt i'r darn o ffordd hwn.Er rydym o fewn cyfyngiadau cyfreithiol ledled y ddinas, gorau po lanaf y gallwn wneud yr aer i bawb. Mae angen i ni fod yn glir bod angen gostwng nifer y ceir sy'n teithio trwy ganol y ddinas a chynyddu'r lle sydd ar gael ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a theithio actif.

"Rydyn ni nawr wedi llunio ystod o fesurau a fydd nid yn unig yn datrys y broblem yn Stryd y Castell, ond hefyd yn helpu i wneud yr aer rydyn ni'n ei anadlu trwy'r ddinas yn lanach. Bydd y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru am y cyllid angenrheidiol i roi'r mesurau hyn ar waith cyn gynted â phosibl.

 

Er bod y data sy'n ofynnol dan Gyfarwyddeb yr UE yn dangos mai dim ond yn Stryd y Castell y mae'r lefelau'n uwch na'r cyfyngiad, mae gan y Cyngor nifer o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) eraill lle mae lefel y nitrogen deuocsid (NO2) ar ymyl y ffordd yn agos at neu'n uwch na lefel y cyfyngiadau cyfreithiol.

 

Yn ARhAA Canol y Ddinas, ac yn arbennig yn Heol y Porth, dangosodd ein monitro diweddaraf mewn lleoliadau preswyl werth cyfartalog blynyddol o 38.2 microgram y metr ciwb. Lefel y cyfyngiad cyfreithiol yw 40 microgram y metr ciwb.

 

Ychwanegodd y Cyng. Wild:"Mae lleoliadau eraill yn Heol y Porth a'r cyffiniau lle mae lefelau'r NO2yn destun pryder, felly mae'n amlwg nad Stryd y Castell yw'r unig broblem yng nghanol y ddinas.

 

"Fel mae Llywodraeth Cymru wedi datgan, nid yw lefelau ansawdd aer sy'n cydymffurfio â'r amcanion o drwch blewyn yn ‘lân', ac maen nhw'n dal i beri risgiau iechyd hirdymor. Rhoddwyd cyngor y dylid cadw lefelau mor isel ag sy'n ‘rhesymol ymarferol.' Mae cynllun gweithredu dros dro ar waith yn Heol y Porth, ond dylai'r mesurau hirdymor sy'n cael eu cynnig i ostwng y lefel yn Stryd y Castell yn eu tro leihau'r lefelau ar strydoedd eraill yng nghanol y ddinas, ac yn enwedig yn Heol y Porth.

"Bydd angen cymeradwyaeth pellach ar gynlluniau unigol sy'n cael eu cynnig yn y mesurau hyn cyn bwrw ymlaen â nhw. Ar hyn o bryd, cynlluniad cysyniadol ydyn nhw ac rydyn ni'n cynllunio cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mesurau a gynigir yn yr achos busnes. Nid yw manylion penodol y cynlluniau cymhelliant posibl ar gyfer y diwydiant tacsi wedi eu cadarnhau eto, ond mae cais wedi ei wneud am gyllid yn yr achos busnes i Lywodraeth Cymru."