The essential journalist news source
Back
14.
March
2019.
Dysgwch ‘Beth sydd Tu Ôl i’r Wal?’ ar ben-blwydd Parc Bute yn 70!
Agorodd Parc Bute i’r cyhoedd 70 mlynedd yn ôl, yng ngwanwyn 1949, ac i ddathlu’r achlysur cynigir cyfle unigryw i aelodau o’r cyhoedd ddysgu ‘Beth sydd Tu Ôl i’r Wal?’

Mae’r digwyddiad wedi’i enwi ar sail nifer y bobl sy’n ymweld â Chanolfan Addysg y parc a Chaffi’r Ardd Gudd a gofyn ‘Beth sydd Tu Ôl i’r Wal?’Bydd cerflun newydd yn cael ei ddatgelu i ddathlu 70 mlynedd o Barc Bute a nodi agoriad swyddogol Planhigfeydd Parc Bute.

Mae’r planhigfeydd, sydd wedi bod yn cuddio y tu ôl i’r waliau coch mawr wrth ben border blodau enwog y parc, yn darparu blodau a phlanhigion ar gyfer holl blanwyr parciau Caerdydd a chanol y ddinas, ac nawr mae pawb yn cael y cyfle i ddod â chalon werdd y ddinas i mewn i’w gerddi.

Bydd teithiau o’r planhigfeydd ar gael gyda thîm gwybodus Parc Bute ynghyd ag amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim (bydd angen tocyn i’r rhan fwyaf ohonynt), gan gynnwys:

·         sgwrs am gyn-brif arddwr Castell Caerdydd, Andrew Pettigrew.

·         sgwrs gan sylfaenydd Gardd Salad Caerdydd, menter gymdeithasol sy’n gweithredu yng Ngardd Furiog Parc Bute sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol ac sy’n gwerthu salad sy’n cael ei gludo ar feic i fusnesau lleol.

·         Y cyfle i glywed gan y garddwyr arbenigol sy’n gofalu am Barc Bute.

·         Melissa Boothman o Gaffi’r Ardd Gudd a Phantri Pen-y-lan yn rhannu ryseitiau tymhorol.

·         Y cyfle i glywed gan Geidwad Gwenyn Parc Bute am gychod gwenyn newydd y parc, sy’n dychwelyd 60 mlynedd ar ôl iddynt gyflenwi mêl i’r teulu Bute cyfoethog a’u gwesteion yng Nghastell Caerdydd. 

·         Arddangosiad ar dechnegau epilio ar gyfer planhigion dan do ac awyr agored yn seiliedig ar 30 mlynedd o brofiad o dyfu planhigion y ddinas ym Mhlanhigfa Parc Bute.

·         Gweithdai cylchoedd hwla i bawb o bob oedran, gan The Sparklettes.

·         Gweithgareddau i blant.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:  “Fyddai Caerdydd ddim yr un peth heb Barc Bute – mae wedi bod yn galon werdd i’r ddinas ers 70 mlynedd nawr, ac mae hynny’n achos dathlu.  Mae gan y tîm ym Mharc Bute gyfoeth o brofiad – dyma gyfle gwych i ddysgu ganddyn nhw, dysgu mwy am y parc a dysgu am yr holl waith gwych sy’n cael ei wneud y tu ôl i’r waliau.”

Am restr lawn o ddigwyddiadau ar y dydd, ewch i:  http://bute-park.com/uncategorized/6258/

I gadw tocynnau am ddim, ewch i:  https://www.eventbrite.co.uk/o/bute-park-15541788264