The essential journalist news source
Back
14.
March
2019.
Rheoliadau newydd i fynd i’r afael â chŵn yn bawa mewn mannau cyhoeddus yng Nghaerdydd
Gallai rheoliadau newydd i fynd i’r afael â baw cŵn mewn mannau cyhoeddus yng Nghaerdydd – gan gynnwys dirwyon o £100 i berchnogion cŵn nad sydd â’r modd i lanhau ar ôl eu cŵn – ddod i rym cyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r argymhellion, a gaiff eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ar ddydd Iau 21 Mawrth, yn dilyn  ymgynghoriad cyhoeddus helaeth a dderbyniodd dros 6,000 o ymatebion.

Cytunodd tua 88% o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad y dylid rhoi mesurau gorfodi ar waith er mwyn sicrhau fod perchnogion a cherddwyr cŵn yn cario bagiau neu ddull addas arall i waredu baw cŵn.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Rydym wedi gwrando yn ofalus i adborth gan berchnogion cŵn yn yr ymgynghoriad ac hyd yn oed wedi gollwng cynigion cychwynnol i wahardd cŵn o gaeau chwarae a farciwyd ar dir y Cyngor. Roedd mwyafrif y perchnogion cŵn yn erbyn y cynnig hwn ac rydym wedi ystyried eu barn.

“Fe fyddwn fodd bynnag yn cyflwyno dirwyon newydd i berchnogion cŵn/cerddwyr cŵn nad sy’n gallu dangos bod modd ganddynt i lanhau ar ôl eu hanifail anwes.

“fe wyddom fod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol, yn cadw eu cŵn dan reolaeth ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid, sef pam fod 88% ohonyn nhw wedi cefnogi’r cynnig hwn.  Ond yn anffodus, diolch i leiafrif anghyfrifol, rydym yn derbyn cannoedd o gwynion bob blwyddyn am faw cŵn ac mae problemau yn dal i fod ar hyd a lled Caerdydd lle nad yw cŵn yn cael eu rheoli’n briodol.

“Dylai ein mannau cyhoeddus fod yn ardaloedd y gall pawb eu mwynhau ac mae’r rhan fwyaf o berchnogion cŵn cyfrifol wedi cael cymaint o lond bol ar ymddygiad y lleiafrif anghyfrifol â’r bobl sydd yn defnyddio ein caeau ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hamdden eraill.”

Mae’r cynigion a argymhellir i’r Cabinet benderfynu arnynt yn cynnwys:

Gwahardd i gŵn fawa ym mhob man cyhoeddus sy’n eiddo i ac/neu a gynhelir gan Gyngor Caerdydd.

·        Y gofyniad i berchennog ci fod â’r modd o glirio baw ci.

·         Gwahardd cŵn o bob maes chwarae amgaeedig ac ysgolion, sy’n eiddo i ac/neu a gynhelir gan y Cyngor. 

·         Gofyniad i gadw cŵn ar gynllyfan/tennyn ym mhob mynwent sy’n eiddo i ac/neu a gynhelir gan Gyngor Caerdydd.

·         Gofyniad sy’n galluogi swyddogion awdurdodedig i orchymyn bod ci (neu gŵn) yn cael ei roi a’i gadw ar gynllyfan/tennyn os oes angen.

·         Hysbysiad tâl cosb ar gyfer torri Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer rheoliadau cŵn, fel y nodir uchod, i’w osod ar £100.

·         Bydd y rheoliadau cŵn wedi eu heithrio ar gyfer pobl ag anableddau sy’n effeithio ar eu symudedd, hyfedredd dwylo, cydlyniad corfforol neu allu i godi, cario neu fel arall symud gwrthrychau cyffredin bob dydd, parthed ci a hyfforddwyd gan elusen gofrestredig y mae’r person dan sylw yn ddibynnol arno am gymorth.

Aeth y Cynghorydd Bradbury yn ei flaen i ddweud: “Rydym wedi gwrando yn ofalus ar yr adborth o’r ymgynghoriad y llynedd. Mae’r cynigion hyn yn rhoi y grymoedd angenrheidiol i ni dargedu lleiafrif anghyfrifol, ond yn galluogi’r mwyafrif o berchnogion cŵn i gael y rhyddid i fwynhau ein mannau cyhoeddus yn y modd cyfrifol a wnânt ar hyn o bryd.

“Byddwn yn gweithio gyda grwpiau cŵn i sicrhau y caiff unrhyw newidiadau eu cyflwyno’n llyfn dros y flwyddyn i ddod.”