The essential journalist news source
Back
12.
March
2019.
Beicffyrdd – Cwestiynau Cyffredin

Gwybodaeth Gyffredinol:

 

  1. Beth yw Beicffordd?

Llwybrau beicio parhaus yw Beicffyrdd, sy'n cael eu gwahanu ar y cyfan oddi wrth gerbydau a cherddwyr.

 

  1. Beth yw prif fanteision Beicffyrdd?

Bydd Beicffyrdd yn gwneud beicio yn fwy diogel, yn haws ac yn gyflymach i bobl sy'n gobeithio teithio i'r gwaith ar y beic, i blant sy'n teithio i'r ysgol, ac ar gyfer siopa a hamdden. Bydd Beicffyrdd yn ei gwneud hi'n fwy deniadol ac yn fwy o hwyl i drigolion ac ymwelwyr sy'n chwilio am ffordd arall o deithio yn hytrach na gyrru. Os bydd mwy o bobl yn beicio ac yn gadael y car gartref, bydd ansawdd yr aer yn gwella, gan leihau NO2, gronynnau a CO2.

 

  1. A fydd Beicffyrdd wir yn gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth i lygredd aer o geir?

Byddan. Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Sustrans yn dangos bod 12-miliwn o deithiau beic yn digwydd yng Nghaerdydd bob blwyddyn, gan gymryd 11,000 o gerbydau oddi ar y ffyrdd. Mae'r arbedion o ran costau i'r GIG o'r teithiau beic hyn yn gyfystyr â £699,000. Mae beicio hefyd yn ffordd llawer mwy iach o deithio gan wella ffitrwydd hefyd.  Yn ôl ymchwil mae 52% o deithiau car yn y ddinas yn llai na 5 cilometr. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud. Bydd beicio nôl ac ymlaen o'ch cartref fel hyn yn llosgi rhwng 200 a 300 calori ychwanegol y dydd.

 

  1. Pam bod Beicffyrdd yn cael eu cyflwyno yng Nghaerdydd?

Mae disgwyl i boblogaeth Caerdydd dyfu ac er mwyn rheoli hyn a lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd mae'r Cyngor wedi gosod targed o gyflawni rhaniad moddol o 50/50 rhwng y rhai hynny sy'n teithio mewn car a ffyrdd cynaliadwy o deithio (cerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus) erbyn 2026.

 

  1. Onid yw hyn yn wario diangen - faint o bobl sydd wir â diddordeb mewn beicio yn y ddinas?

Mae nifer y bobl sy'n beicio i'r gwaith wedi dyblu yng Nghaerdydd dros yr 8 mlynedd diwethaf. Mae bellach 14 i 15 miliwn o bobl yn beicio i'r gwaith bob blwyddyn, ac mae'r cynllun nextbike yn un o'r mwyaf llwyddiannus yn y DU. Mae poblogrwydd beicio yn tyfu yn y ddinas o hyd, ac mae trigolion yn awyddus i weld llwybrau mwy diogel i'r teulu cyfan eu mwynhau.

 

  1. Oes problem wahanol i feicwyr yng Nghaerdydd o'i gymharu â gweddill y DU?

Mewn sawl ffordd mae Caerdydd yn ddelfrydol ar gyfer beicio, gan ei bod yn wastad ar y cyfan, ac felly'n haws i bobl o bob gallu fynd o gwmpas. Bydd Beicffyrdd yn gwneud beicio hyd yn oed yn fwy deniadol i bobl, yn arbennig y rhai hynny sy'n poeni am feicio nesaf at gerbydau.

 

  1. Pwy fydd yn gallu defnyddio Beicffyrdd?

Mae Beicffyrdd ar gyfer beicwyr o bob oedran a gallu, yn teithio am unrhyw reswm.

 

  1. Faint o Feicffyrdd sy'n cael eu cynllunio?

Mae cynlluniau ar droed i ddatblygu pump o lwybrau Beicffyrdd.

 

  1. I ble bydd Beicffyrdd yn mynd? 

Bydd y bum Beicffordd yn cysylltu'r gogledd, y dwyrain, y gorllewin a de-orllewin y ddinas i Ganol y Ddinas a Bae Caerdydd, ac mae'n cynnwys cynlluniau am feicffyrdd ar:

 

  • Cilgant St Andrew i Heath High Level
  • Plas Dumfries i Broadway
  • Bae Caerdydd i Smart Way
  • Gerddi Sophia drwodd i Bentref Llandaf
  • Canol y Ddinas drwodd i Bont Trelái

www.caerdydd.gov.uk/llwybrbeicio

 

  1. Os nad yw un o'r Beicffyrdd yn agos ataf i, a fydd mwy yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol?

Yn 2020, bydd y Cyngor yn cynnal adolygiad o'r cynllun presennol sydd wedi'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor -www.caerdydd.gov.uk/teithiollesolBydd hyn yn rhoi'r cyfle i'r cyhoedd awgrymu lleoliadau ar gyfer Beicffyrdd ychwanegol mewn ymgynghoriadau cyhoeddus yn y dyfodol.

 

  1. Pryd bydd y llwybrau'n cael eu lansio?

Bydd Llwybr 1, Cam 1, sy'n rhan o lwybr Cilgant St Andrew i Heath High Level, yn cael ei gwblhau yn Awst 2019. Bydd llwybrau eraill yn dilyn yn 2020 a 2021.

 

  1.  Pa waith fydd yn dechrau ym Mawrth 2019?

Dyma'r gwaith ar Lwybr 1, Cam 1, a fydd yn rhedeg ar hyd Senghennydd Road i Gilgant St Andrew. Bydd hwn wedyn yn ymestyn hyd at Heath High Level yn yr ail gam.

  1. Ar ôl Senghennydd Road, pa Feicffordd fydd yn cael ei hadeiladu nesaf?

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar Feicffordd Bae Caerdydd i Smart Way yn yr haf, a'r gobaith yw dechrau gwaith ar y rhan hon o'r rhwydwaith feicio ym mis Hydref.

  1. Faint o gilometrau o Feicffyrdd fydd yn y ddinas?

Pan fyddant wedi'u cwblhau, bydd y bum Beicffordd gyfystyr â 24 cilometr (14.9milltir) o lwybrau beicio.  Bydd y cam cyntaf yn golygu bod lle i feicio ar hyd 13 cilometr - drwy naw ward.

 

  1. Drwy faint o wardiau fydd Beicffyrdd yn mynd?

Pan fyddant wedi'u cwblhau, bydd y bum Beicffordd yn mynd drwy 16 ward.

 

  1. Dwi ddim wedi bod ar gefn beic ers blynyddoedd a dwi am feicio. Allwch chi helpu?

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig hyfforddiant beicio un-wrth-un i unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghaerdydd. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys y tair lefel o'r Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol, o ddechreuwyr i feicwyr profiadol.

Ar ddechrau'r sesiwn, bydd ein hyfforddwyr yn asesu eich lefel o gymhwysedd ac yn trafod gyda chi beth yr hoffech ei gael o'r hyfforddiant. Byddan nhw wedyn yn anelu'r hyfforddiant at eich anghenion penodol. Mae rhagor o fanylion ar wefan y Cyngor yn    www.caerdydd.gov.uk/diogelwchffyrdd

Mae rhaglen "Let's Ride" Beicio Cymru, a gefnogir gan HSBC UK a British Cycling, yn cynnig ystod eang o gyfleoedd, pa un ai ydych yn mynd ar gefn beic am y tro cyntaf, neu'n chwilio am bobl o'r un anian i fynd am dro ar y beic a chael coffi gyda nhw. Mae rhagor o fanylion arwww.letsride.co.uk

Mae Caerdydd yn gartref i un o gwmnïau rhannu beic mwya'r byd - nextbike. System rhannu beiciau drwy danysgrifio yw nextbike, gyda 50 o orsafoedd ledled Caerdydd a 500 o feiciau i'w rhentu ar unrhyw adeg o'r dydd.

Gallwch gofrestru cyfrif drwy lawrlwytho'r ap i ffôn clyfar, mynd i'r wefan neu alw'r llinell gymorth.

I ddatgloi Nextbike gallwch naill ai sganio'r cod QR neu nodi rhif y beic yn yr ap, neu drwy'r llinell gymorth.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gweld lle mae'r orsaf Nextbike agosaf arwefan Nextbike.

Cynllunio ac ymgynghori

 

  1. Sut cafodd llwybrau'r Beicffyrdd eu dewis? 

Ateb: Dewiswyd y llwybrau drwy ddatblygu ein Map Rhwydwaith Integredig (MRhI), sef ein cynllun 15 mlynedd i greu a gwella llwybrau beicio ledled y ddinas. Mae'r MRhI i'w weld ar wefan y Cyngorwww.caerdydd.gov.uk/teithiollesol

Dewiswyd y llwybrau i gysylltu cymunedau sy'n bodoli'n barod a safleoedd datblygu strategol i fannau pwysig yn y ddinas gan gynnwys canol y ddinas, Bae Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Cymru.

 

  1. A fydd ymgynghoriad ar ddatblygu Beicffyrdd?

Ateb: Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar lwybr 1 cam 1 rhwng 10 Ebrill ac 11 Mai 2018. Gellir gweld canlyniad yr ymgynghoriad ynAdroddiad yr Ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar Rodfa Lloyd George (llwybr 3 cam 1) ar agor ar hyn o bryd ac yn parhau tan 12 Ebrill 2019.

Bydd ymgynghoriadau cyhoeddus ar rannau eraill o'r llwybrau yn dilyn yn hwyrach eleni. 

Y llwybrau

 

  1. Sut olwg fydd ar y llwybrau?

Ateb: Yn y rhan fwyaf o lefydd bydd trac beicio i'r ddau gyfeiriad ar un ochr o'r heol, wedi'u gwahanu oddi wrth gerddwyr a cherbydau.

 

  1. Mae nifer o fannau parcio ar rai rhannau o'r llwybrau - a fydd y rhain yn cael eu disodli yn yr ardal?

Ateb: Bydd y newidiadau mewn trefniadau parcio yn dibynnu ar y sefyllfa'n lleol, ac yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

 

  1. Beth yw lliw Beicffyrdd, a pham?

Ateb: Bydd y rhan fwyaf o Feicffyrdd yr un lliw â'r lôn gerbydau ar y cyfan, oherwydd mai'r  math yma o arwyneb yw'r ffordd fwyaf cost-effeithiol o gynnig yr arwyneb mwyaf llyfn i feicwyr.

Mewn rhai lleoliadau, fel cyffyrdd, defnyddir arwyneb lliw i'w gwneud hi'n eglur lle mae'r llwybr beicio. 

 

  1. A fydd lonydd beicio'n mynd drwy lonydd bysus?

Ateb: Nid yw hi'n fwriad i lonydd beicio fynd drwy lonydd bysus fel rhan o'r pum llwybr Beicffordd arfaethedig.

 

  1. Pa effaith fydd ar dacsis? 

Ateb: Ni fydd Llwybr 1 Cam 1 (Senghennydd Road) yn effeithio ar dacsis.

Mae gwaith modelu'n mynd yn ei flaen ar y llwybrau Beicffordd sy'n weddill i weld pa effaith, os o gwbl, y bydden nhw'n ei gael ar amseroedd teithio neu eu dibynadwyedd.  

 

  1. A fydd gwelliannau i ffyrdd sy'n bodoli eisoes a'r seilwaith o amgylch?

Ateb: Bydd Llwybr 1 Cam 1 (Senghennydd Road) yn golygu rhoi arwyneb newydd ar y lôn gerbydau a'r troedffyrdd ynghyd â chreu'r trac beicio a'r gwelliannau i'r gyffordd y bydd eu hangen.

 

  1. Sut bydd y llwybrau'n cael eu monitro?

Ateb: Cafodd traffig, gan gynnwys cerbydau, beiciau a cherddwyr eu cyfrif i roi data sylfaenol ar gyfer y llwybrau. Bydd rhagor o gyfrif yn digwydd ar ôl cwblhau'r llwybrau er mwyn monitro'r effaith.

Diogelwch

 

  1. Sut bydd Beicffyrdd yn gwella diogelwch?

Ateb: Yn y rhan fwyaf o lefydd, bydd Beicffyrdd yn cynnig llwybr beicio ar wahân i gerbydau ar y lôn gerbydau a cherddwyr ar y droedffordd, gan leihau gwrthdaro rhwng pawb sy'n defnyddio'r rhwydwaith ffyrdd.

Yn ôl arolwg Bywyd Beicio Sustrans yn 2017, roedd 76% o drigolion Caerdydd yn teimlo bod angen gwella diogelwch beicio, a 70% yn credu y byddai cael llwybrau beicio ar wahân i draffig yn ddefnyddiol iawn i rywun oedd am ddechrau beicio, neu feicio mwy.

 

  1. A fydd Beicffyrdd yn cael eu gwahanu o'r lôn gerbydau?

Ateb: Yn y rhan fwyaf o lefydd, bydd Beicffyrdd yn cael eu gwahanu o'r lôn gerbydau. Mewn rhai mannau, lle mae llai o gerbydau, mae'n bosib y bydd y llwybr beicio yn rhannu'r lôn gerbydau gyda cherbydau, er enghraifft ar Gilgant St Andrew. 
 

  1. A fydd mesurau i atal gwrthdaro gyda Cherbydau Nwyddau Trwm (CNT), bysiau a cherbydau mawr eraill?

Ateb: Yn y rhan fwyaf o lefydd, bydd Beicffyrdd ar wahân i'r lôn gerbydau, yn atal gwrthdaro gyda Cherbydau Nwyddau Trwm, bysiau a cherbydau mawr eraill.

 

  1. A fydd beicwyr yn cael teithio drwy oleuadau coch?

Ateb: Nid yw beicwyr yn cael teithio drwy oleuadau coch. Fodd bynnag, bydd cyffyrdd ar y llwybrau'n cael eu hail-ddylunio, i'w gwneud yn ddiogelach i feicwyr, gan gynnwys rhoi golau gwyrdd iddyn nhw ddechrau cyn pawb arall. 

 

  1. Sut mae Beicffyrdd yn delio â cherbydau sy'n troi i'r chwith?

Ateb: Bydd arwyddion ar gyffyrdd yn cael eu hail-ddylunio i atal gwrthdaro gyda cherbydau'n troi i'r chwith.

Gallai mesurau gynnwys:

  • Peidio caniatáu i gerbydau droi i'r chwith ar yr un adeg ag y mae beicwyr yn teithio'n syth ymlaen
  • Rhoi golau gwyrdd cynnar i feicwyr. Mae hyn eisoes mewn grym ar gyffordd Clos Sophia/Talbot Street/Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd.

Bydd rhaid i yrwyr sy'n croesi Beicffordd i droi i'r chwith i ffordd lai, ildio i feicwyr. 

Gorfodi traffig

 

  1. Pa waith sydd wedi'i wneud i addysgu gyrwyr LGV, gyrwyr tacsis, gyrwyr bysiau, gyrwyr car a gyrwyr beiciau modur ynglŷn a llwybrau Beicffyrdd?

Ateb: Bydd ymgyrch gyhoeddus yn cefnogi'r gwaith o adeiladu'r seilwaith newydd.

 

  1. A fydd cerbydau'n gallu cael mynediad i Feicffyrdd?

Ateb: Bydd y rhan fwyaf o Feicffyrdd yn llwybrau beicio na fydd cerbydau yn gallu cael mynediad iddynt.

 

Costau/Ariannu

 

  1. Beth yw cost Beicffordd ar gyfartaledd?

Ateb: Bydd cost pob rhan yn amrywio, yn dibynnu ar faint o waith sydd angen ei wneud, ond y disgwyl yw y bydd oddeutu £1m-£1.5m y cilometr.

 

  1. Ydi pob un o'r Beicffyrdd wedi cael ei hariannu'n ddigonol?

Ateb: Bydd pob llwybr yn cael ei ariannu drwy gynlluniau a grantiau gwahanol.

Llif Traffig

 

  1. A ydi'r Beicffyrdd yn cynyddu amseroedd teithio i ddefnyddwyr eraill y ffordd, a'i wneud yn llai dibynadwy?

Ateb: Ni fydd Llwybr 1 Cam 1 (Senghennydd Road) yn cynyddu amseroedd teithio i ddefnyddwyr eraill y ffordd. Mae gwaith modelu'n mynd yn ei flaen ar y llwybrau Beicffordd sy'n weddill i weld pa effaith, os o gwbl, y bydden nhw'n ei gael ar amseroedd teithio neu eu dibynadwyedd.  

Adeiladu a chynnal a chadw

 

  1. Sut bydd modd cyfyngu ar yr amharu ar drigolion lleol tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo?

Ateb: Dim ond ar adegau tawel y bydd gwaith yn cael ei ganiatáu ar y llwybrau prysur. Bydd sŵn yn cael ei gyfyngu gyda'r nos yn unol â gofynion statudol. Bydd pwynt cyswllt gyda'r Contractwr fydd ar gael yn ystod y dydd a'r tu allan i oriau.

 

  1. Pwy fydd yn gwneud y gwaith ar y Beicffyrdd?

Ateb: Yn dilyn proses dendro gystadleuol, Alun Griffiths Cyf. sydd wedi'i ddewis i wneud y gwaith ar Lwybr 1 Cam 1 (Senghennydd Road).

Bydd proses dendro gystadleuol yn digwydd i ddewis contractwr(wyr) ar gyfer rhannau eraill o'r Feicffordd.

Cysylltu â llwybrau beicio eraill

 

  1. Sut bydd y Beicffyrdd yn cysylltu â llwybrau beicio eraill?

Ateb: Bydd cyffyrdd yn cael eu dylunio i sicrhau bod beicwyr yn gallu ymuno â'r Beicffyrdd a'u gadael yn gyffyrddus o lwybrau beicio eraill sy'n eu croesi, ac o lwybrau beicio sydd ar ffyrdd y mae beicwyr eisiau eu defnyddio.

 

  1. A fydd Beicffyrdd yn cael eu cysylltu â Llogi Beiciau nextbike?

Ateb: Mae nifer o orsafoedd nextbike eisoes wedi'u lleoli ar neu'n agos at lwybrau Beicffordd arfaethedig.

 

Llwybr 1 / Cam 1 - Senghennydd Road

 

  1. Sut cafodd y llwybr hwn ei ddewis?

Ateb: Dewiswyd y llwybr hwn fel cam cyntaf Llwybr 1, fydd yn y pendraw yn cysylltu canol y ddinas ag Ysbyty Athrofaol Cymru, Y Mynydd Bychan a safle datblygu Gogledd-ddwyrain Caerdydd.

O'r cam yma, ar ben deheuol Cilgant St Andrew, mae modd parhau i ganol y ddinas. Mae'n cysylltu'n uniongyrchol â gorsaf drenau Cathays.

O ben gogleddol y llwybr bydd modd mynd yn uniongyrchol i Cathays Terrace.

 

  1. Faint fydd y llwybr hwn yn costio? 

Ateb: Bydd y rhan hon o'r llwybr yn costio £1.4m, gan gynnwys ffioedd, dylunio ac adeiladu.

 

  1. I ble mae Llwybr 1 / Cam 1 yn mynd?

Ateb: Mae Llwybr 1 Cam 1 yn dechrau wrth y Groesfan Twcan sy'n cysylltu Plas Windsor â Chilgant St Andrew. Mae'n dilyn Cilgant St Andrew, Maes St Andrew a Senghennydd Road, a bydd modd mynd o ben gogleddol y ffordd honno i Cathays Terrace.

 

  1. Pa welliannau sydd wedi'u gwneud ar gyfer beicwyr fel rhan o Lwybr 1 / Cam 1?

Ateb: Mae Llwybr 1 / Cam 1 yn cynnwys y gwelliannau canlynol:

  • Rhoi arwyneb newydd ar Gilgant St Andrew
  • Croesfan sebra/beicio gyfochrog ar Faes St Andrew
  • Trac beicio ar wahân i'r lôn gerbydau a cherddwyr ar Faes St Andrew
  • Trac beicio ar wahân i'r lôn gerbydau a cherddwyr ar Senghennydd Road
  • Croesfan Twcan ar Cathays Terrace

 

  1. Pa mor hir yw Llwybr 1 / Cam 1? 

Ateb: Mae'r llwybr yn 1 cilometr o hyd.

 

  1. Pa effaith fydd ar barcio y tu allan?

Ateb: Mae nifer y mannau parcio talu ac arddangos ar Senghennydd Road yn cael eu cwtogi o 104 i 25. Mae parcio talu ac arddangos ar gael gerllaw ar Plas-y-Parc ac ym Mharc Cathays. Mae parcio hefyd ar gael yn y maes parcio NCP ar Blas Dumfries.

Ni fydd y cynllun yn effeithio ar fannau parcio i bobl anabl sy'n bodoli eisoes.

 

  1. Pa effaith fydd ar barcio preswyl sy'n bodoli'n barod?

Ateb: Bydd nifer y mannau parcio preswyl yn lleihau o 43 i 26. Mae adolygiad o'r nifer o drwyddedau sydd wedi'u rhoi a'r galw am barcio yn awgrymu y bydd 26 man parcio yn dal yn ddigon i fodloni'r galw gan drigolion sy'n parcio ar Senghennydd Road.

 

  1. A fydd y ffordd yn cael ei chau tra bo'r gwaith yn cael ei wneud?

Ateb:Ni fydd y ffordd yn cael ei chau wrth i'r gwaith fynd rhagddo, ond mae'n bosib bydd rhaid cau rhannau o'r ffordd dros dro, er enghraifft pan fydd arwyneb newydd yn cael ei rhoi arni.