Disgwylir i hyd at 275,000 o bobl ddod i Gaerdydd ddydd Sadwrn pan fydd Cymru'n herio Iwerddon yn y gobaith o gipio'r Gamp Lawn.
Gyda phob tocyn wedi ei werthu, bydd heolydd canol y ddinas yn cael eu cau'n gyfan gwbl rhwng 11.15am a 5.45pm, gyda'r gic gyntaf am 2.45pm.
Dylai cefnogwyr rygbi adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau sydd wedi'u gwahardd yn principalitystadium.wales cyn iddyn nhw ddod i'r ddinas.
Ceir gwybodaeth fanwl gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn y briff cyfryngau hwn.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas:
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
- Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
- Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
- Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy'r dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio i'r digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Sylwer:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd ger Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Wedi i'r digwyddiad a'r cau ffyrdd ddod i ben am tua 6.00pm, bydd Heol Isaf Eglwys Fair yn parhau ar gael dros nos.
Trenau
Mae Network Rail yn rhoi gwybod i gwsmeriaid nad oes gwaith peirianneg wedi'i gynllunio yng Nghymru, felly ni ddisgwylir tarfu ar y llinell rhwng Llundain a Chaerdydd.
Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw yn www.nationalrail.co.uk neu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn eithriadol o brysur drwy'r dydd. Dylai'r rhai sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r gêm ddod mor gynnar â phosibl.
Bydd Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 4.15pm a bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch i https://trctrenau.cymru/cy/digwyddiadau
Parcio a Theithio ar gyfer y Digwyddiad
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.
I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i- https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/park-ride-and-premium-parking-for-wales-vs-ireland-15966
Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle.
Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.
Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.
Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am a bydd y safle yn agor am 9.00am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 7.30pm a bydd y maes parcio'n cau am 8.00pm.
Traffyrdd a chefnffyrdd
Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a'r ffyrdd sy'n arwain i Gaerdydd fod yn brysur iawn.
Parcio ar y Diwrnod
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Pris: £15 i'w dalu ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 9.00pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Parcio ar gyfer y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Pris: £12 os byddwch yn archebu ymlaen llaw drwy'r ddolen hon -- https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/park-ride-and-premium-parking-for-wales-vs-ireland-15966 neu £15 ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig).
Amseroedd parcio: Bydd staff ar y safle o 7.30am a bydd yn agor am 8.00am. Rhaid symud pob car oddi yno neu arddangos tocyn talu ac arddangos o 8am ddydd Sul 17 Mawth.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall pobl sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd parcio a theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11.15am ac yn ailagor am 5.45pm.
Bysus
Bysus lleol:
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd o 1.15pm tan 8pm. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.
Mae Bws Caerdydd yn hysbysu eu cwsmeriaid y bydd gwasanaeth X59 i, ac o, safle Parcio a Theithio'r Dwyrain yn gollwng a chasglu yng nghanol y ddinas o Blas Dumphries.
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.