Ydych chi wedi ystyried bod yn ofalwr maeth?Os felly, mae tîm maethu Cyngor Caerdydd yn cynnal noson wybodaeth ar faethu nos Lun 18 Mawrth rhwng 6pm-8pm yn Neuadd y Sir.
Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i ddarganfod mwy, cwrdd â'r tîm a siarad â rhai o'n gofalwyr maeth mewn amgylchedd braf a chyfeillgar.
Mae maethu gyda Chyngor Caerdydd yn gyfle gwych i gyfrannu at les a dyfodol plant a phobl ifanc Caerdydd, gan ddatblygu sgiliau ac ennill incwm cystadleuol yr un pryd.
I gydnabod hyn, rydym yn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu gwych, gan gynnwys cymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol.
Rydym wedi adolygu ein pecynnau tâl a buddion yn ddiweddar, ac rydym yn talu ar raddfa gystadleuol gyda thaliadau ychwanegol ar gyfer gwyliau, penblwyddi a gwyliau crefyddol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cyng. Graham Hinchey:"Dyma gyfle gwych i unrhyw un sydd wedi ystyried maethu alw heibio, gofyn cwestiynau a chlywed am brofiadau go iawn gan ofalwyr maeth presennol.
"Mae ein gofalwyr maeth yn rhan annatod o dîm sydd wedi ymrwymo i helpu i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc yma yn y brifddinas. Maent yn gweithio gyda'n tîm Maethu a Gofal Cymdeithasol, yn cynnig mewnwelediad a mewnbwn amhrisiadwy, ac mae hyn yn dangos faint y maen nhw'n cael eu parchu a pha mor werthfawr ydynt i'n dinas.
"Gobeithiwn eich gweld chdi yn y digwyddiad a gobeithiwn eich croesawu chi i'r teulu Maethu Caerdydd."
Os na allwch ddod i'r digwyddiad ond rydych yn awyddus i wybod mwy am faethu ffoniwch 02920 788343 neu ewch i https://fostercarecardiff.co.uk/