The essential journalist news source
Back
21.
February
2019.
Mae Caerdydd WRTHI!

 

Ailgylchwch dros Caerdydd a dros Gymru!

 

Mae preswylwyr Caerdydd wrthi yn yr ystafell wely, ystafell ymolchi, cegin ac yn yr ardd - mae'r rhan fwyaf o'n preswylwyr WRTHI bob dydd ac mae'n rhan FAWR o'n bywydau.

 

Mae ailgylchu bellach yn rhan o'n trefn bob dydd yn y cartref, ac mae'n mynd i barhau am byth. Fel cenedl, mae Cymru yn dda iawn o ran ailgylchu, ac mae ganddi gyfradd ailgylchu o 63% yn gyffredinol, gan ein rhoi ni ymhlith y rhai gorau.

 

Ymgyrch ailgylchu ar gyfer CHWE Awdurdod Lleol cyfagos yn ardal De-ddwyrain Cymru ywMae Pawb WRTHI. Mae'r ymgyrch wedi'i chefnogi a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae hi wedi cael ei mabwysiadu'n lleol gan bob un o'r Awdurdodau Lleol.

 

Fel cenedl, mae rhaid i ni barhau i adeiladu ar lwyddiant Cymru ac ailgylchu mwy, mae Caerdydd wedi ymuno â Blaenau Gwent, Powys, Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Bro Morgannwg i ddod at ei gilydd i bwysleisio nad oes ffiniau o ran ailgylchu. Er ein bod ni i gyd WRTHI mewn ffyrdd gwahanol -Mae Pawb WRTHIo Llandrindod Wells i Caerdydd! Mae'n hen brydAROS.MEDDWL.AILGYLCHU.

 

Bwriad yr ymgyrch yma yw gwneud i ddefnyddwyrAROS, MEDDWL ac AILGYLCHUcymaint ag sy'n bosibl. Erbyn hyn, mae mwy o bobl nag erioed yn dewis AILGYLCHU yng Nghymru ac mae hynny'n dangos bodPawb WRTHI- felly os nad ydych chi wrthi, pam lai? Bwriad arall yw gwneud i ddefnyddwyr feddwl ddwywaith am faint maen nhw'n ei ailgylchu a sut mae modd iddyn nhw wella yn y cartref, tra eu bod wrthi, dramor ac wrth wylio eu hoff dîm -Aros. Meddwl. Ailgylchu.Mae wastad amser iAROS. MEDDWL. ac AILGYLCHU

 

Ar draws Cymru, mae siopwyr WRTHI, mae cefnogwyr pêl-droed WRTHI, mae teithwyr WRTHI, ac mae'r sawl sy'n mynd i'r sinema WRTHI! Mae negeseuon wedi cael eu rhoi mewn lleoliadau allweddol ar draws ardal De-ddwyrain Cymru er mwyn atgoffa a phwysleisio'r angen i ailgylchu ble bynnag rydych chi, beth bynnag rydych chi'n ei wneud.    

 

Rhaid i bob Awdurdod Lleol fodloni targed Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25. Bydd yr awdurdodau sy'n methu â bodloni'r targed yma yn wynebu dirwyon mawr. Bydd angen trosglwyddo'r dirwyon mawr i'w preswylwyr.

 

Yn ogystal â'r ymgyrch hyrwyddo, mae nifer o gartrefi yn cael eu monitro yn Caerdydd i weld sut maen nhw'n ailgylchu ar hyn o bryd, a'r hyn sydd ei angen i'w helpu nhw i wella. Cyngor Caerdydd yn ymweld â'r cartrefi yma i gynnig cyngor a chymorth, lle bo angen, i'w helpu nhw i ailgylchu cymaint â phosibl.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Yma yng Nghaerdydd mae gennym hanes balch ar fater ailgylchu. Ni yw dinas fawr pennaf Gwledydd Prydain o ran ailgylchu, gyda chyfraddau ailgylchu a chompostio wedi cynyddu o 4% i 58% dros y 15 mlynedd diwethaf. Camp aruthrol gan drigolion y ddinas. Dyna pam fod Cyngor Caerdydd yn ymuno â chydweithwyr awdurdodau lleol o ardaloedd eraill i gefnogi YmgyrchMae PAWB Wrthi. Mae'n bwysig nad ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau o ran ailgylchu a'n bod yn parhau i edrych ar ddulliau newydd o gynyddu cyfraddau ailgylchu."